Stori Jay: Defnyddio sgrîn a diffyg cwsg

Mae’r ffilmiau yn sôn am:

  • sut y gall ddiffyg cwsg effeithio ar fywyd plentyn
  • sut y mae chwarae gemau neu edrych ar sgrîn yn gwneud pethau’n waeth.
  • syniadau ar gyfer rhoi strategaethau mewn lle i gadw cydbwysedd mewn sefyllfaoedd tebyg

Yn y ffilm gyntaf, mae Jay yn sôn am sut mae diffyg cwsg yn effeithio ar eu bywyd. Maent yn sylweddoli bod chwarae cyfrifiadur yn hwyr yn y nos yn cael effaith negyddol ar eu hiechyd. Gwelwn sut maen nhw'n gwneud newidiadau sy’n cael effaith positif ar eu bywyd. Mae’r ail ffilm yn cynnig syniadau i ddisgyblion ar sut i reoli defnydd o sgrin a ffôn, a sut i geisio rhoi strategaethau mewn lle i gadw cydbwysedd gwell mewn bywyd.

Themâu: delio gydag emosiynau; rheoli dy hun; cynllunio a gosod strategaethau; dibyniaeth ar dechnoleg; blinder; iselder.

Stori Jay: Ffilm 1

Stori Jay: Ffilm 2

Gweithgareddau posib

Gweithgaredd 1 - Deall effeithiau diffyg cwsg

(Iechyd a Lles; Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu)

Gellid gofyn i’r disgyblion drafod mewn parau y modd y mae diffyg cwsg yn effeithio ar Jay. Ydyn nhw'n gallu meddwl am naw effaith a’u nodi ar ddarn o bapur? Yna, gellid gofyn iddynt eu rhifo o’r effaith waethaf (rhif 1) i'r effaith lleiaf niweidiol (rhif 9) yn eu barn nhw.

Atebion posibl:

  • methu ymlacio
  • methu cysgu
  • cur pen
  • teimlo wedi blino
  • methu canolbwyntio
  • dim egni
  • colli lle ar y tim pêl droed
  • hwyliau drwg
  • colli ffrindiau
  • gwylltio

Gellid gofyn i bob disgybl yn unigol ddefnyddio lliw gwahanol i farcio pa effeithiau o’r rhestr y maent wedi eu profi eu hunain. Gellid gofyn iddyn nhw drafod gyda’u partner i ba raddau y maen nhw’n gallu uniaethu gyda Jay.

Gweithgaredd 2 - Cysgu'n well

(Iechyd a Lles; Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu)

Mewn grwpiau o bump, gellid gofyn i’r disgyblion ddewis un o’r ‘top tips’ cysgu’n well o'r ail ffilm.

‘Top tips’ o’r ail ffilm:

  • Cadw amserlen gwsg
  • Diffodd y cyfrifiadur a’r ffôn
  • Cael awyr iach a symud y corff
  • Osgoi caffein
  • Creu awyrgylch ymlaciol (golau i lawr ayyb)

Gellid gofyn iddynt baratoi araith fer 60 eiliad yn dadlau o blaid y tip y maent wedi ei ddewis. Ydyn nhw’n gallu meddwl am dri neu bedwar rheswm sy’n cefnogi’r ‘top tip’ yma? Ydyn nhw’n gallu dwyn perswâd ar y grŵp i roi cynnig ar y dull hwn i wella eu cwsg?

Gweithgaredd 3 - Amserlenni cwsg

(Gwyddoniaeth a Thechnoleg)

Gellid gofyn i’r disgyblion ddefnyddio meddalwedd addas er mwyn creu amserlen ddigidol ar gyfer yr wythnos sy’n rhoi blaenoriaeth i wella cwsg. Ar yr amserlen, gallant neilltuo amser ar gyfer ymlacio a pharatoi ar gyfer noson dda o gwsg.

Er enghraifft:

  • gallant roi amser i wneud hobïau ymlaciol
  • gosod atgoffwr ar gyfer troi sgriniau i ffwrdd
  • neilltuo amser ar gyfer cael bath ar ôl gwneud chwaraeon
  • sicrhau bod cyfle i ddarllen cyn mynd i gysgu

Cysylltiadau â’r Cwricwlwm

Iechyd a Lles

  • Rwy’n gallu esbonio’r gwahanol fathau o ymddygiad, cyflyrau a sefyllfaoedd sy’n effeithio ar fy iechyd a lles corfforol a, thrwy fy ngweithredoedd, rwy’n gallu ymateb i a/neu reoli’r rhain er mwyn gweithredu i leihau’r risg o niwed i mi fy hun ac eraill.
  • Rwy’n gallu ymchwilio, archwilio a gwerthuso ystod o dystiolaeth er mwyn gwneud penderfyniadau ystyriol a gwybodus.
  • Rwy’n gallu gosod nodau addas a chreu cynllun gweithredu er mwyn eu gwireddu.

Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu

  • Rwy’n gallu dewis ac addasu’r iaith briodol ar gyfer ystod o gynulleidfaoedd a dibenion, gan gyfleu ystyr yn effeithiol i’r gynulleidfa.
  • Rwy’n gallu rhannu fy meddyliau, teimladau a barn gydag eraill, gan ddefnyddio ystod o dechnegau at wahanol ddibenion gan ddangos empathi a pharch.

Gwyddoniaeth a Thechnoleg

  • Rwy’n gallu defnyddio amrywiaeth o ddulliau a thechnegau cyfathrebu dylunio er mwyn datblygu a chyflwyno syniadau’n glir, ac rwy’n gallu ymateb yn adeiladol i adborth.
Back to top

Ble nesa?

Stori Kareem. video

Mae Kareem yn teimlo'n wael iawn am y ffordd mae'n edrych - yn bennaf oherwydd y lluniau o bobl berffaith mae'n eu gweld ar-lein. Sut y gall newid y ffordd mae'n teimlo am ei gorff?

Stori Kareem

Stori Seren. video

Mae rheini Seren wedi gwahanu. Mae tad Seren yn symud i ffwrdd gyda'i bartner ac yn cael babi gyda hi. Sut fydd hi'n delio gyda hyn i gyd?

Stori Seren

Stori Tomos. video

Mae Tomos wedi syrthio mewn cariad am y tro cyntaf. Mae wrth ei fodd â Sara ond mae'n dechrau teimlo nad yw'n gweld llawer ar ei ffrindiau bellach. Sut gall gael gwell cydbwysedd yn ei fywyd - heb chwalu'r berthynas gyda Sara?

Stori Tomos
Back to top