Stori Seren: Delio gyda rhieni yn gwahanu

Mae’r ffilmiau yn sôn am:

  • y teimladau gall blentyn brofi wrth i rieni wahanu
  • ddelio gyda newid a sut y gall fywyd bob dydd fod yn wahanol ar ôl i rieni wahanu
  • rai syniadau ar gyfer delio gyda sefyllfaoedd sy’n anodd a rhai pethau all helpu plentyn ymdopi gyda newid fel hyn

Mae’r ffilm gyntaf yn edrych ar brofiad Seren o ddelio gyda’i rhieni’n gwahanu a’r newidiadau sydd yn dod yn sgil hynny. Mae’r ail ffilm yn trafod rhai cynigion ar gyfer ymdopi â sefyllfa fel hyn.

Themâu: rhieni yn gwahanu; iechyd meddwl; ymdopi gyda newid; gwytnwch; rheoli teimladau.

Stori Seren: Ffilm 1

Stori Seren: Ffilm 2

Gweithgareddau posib

Gweithgaredd 1 - Adnabod emosiynau

Gellid gofyn i'r disgyblion greu graff emosiynau i gofnodi’r ystod o emosiynau mae Seren yn eu profi yn ystod y ffilm (Iechyd a Lles; Mathemateg a Rhifedd; Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu)

Gweithgaredd pellach: gellid gofyn i’r disgyblion ddewis tri o’r emosiynau o’r graff uchod gan ysgrifennu (neu drafod gyda phartner) pryd a pham y bu i Seren brofi’r teimlad hwn (Iechyd a Lles; Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu)

Er enghraifft:

Tristwch

Pryd oedd hi’n teimlo’n drist? – Roedd hi’n teimlo’n drist pan aeth ei thad i fyw i Wrecsam.

Pam fo hyn yn ei gwneud iddi deimlo’n drist? – Mae hi’n sylweddoli na fydd hi’n gweld gymaint o'i thad. Mae hi’n teimlo’n drist fod ei sefyllfa deuluol wedi newid am byth.

Teimlo’n flin neu’n ddig

Pryd oedd hi’n teimlo’n flin? – Pan gafodd ei thad fabi newydd.

Pam fod hyn yn gwneud hi’n flin? – Mae hi’n flin y bydd gan ei thad blentyn newydd. Mae hi’n teimlo fod ganddo ddau blentyn yn barod – ac efallai’n flin nad ydy hi’n gweld cymaint o'i thad ac yr oedd ar un adeg. Efallai ei bod hi’n teimlo’n flin achos ei bod hi’n meddwl y bydd yn rhaid iddi gystadlu gyda’r babi newydd yma am sylw ei thad.

Gall yr athro/awes dynnu sylw’r disgyblion at y ffaith fod profi’r emosiynau uchod yn hollol naturiol.

Gweithgaredd 2 - Creu amserlen wythnosol

(Cymhwysedd Digidol)

Mae Seren angen bod yn drefnus iawn gyda ei phethau a’i dillad nawr ei bod hi’n rhannu ei hamser rhwng dau gartref. Gellid gofyn i’r disgyblion ymchwilio i’r meddalwedd ddigidol sydd ar gael i gynorthwyo gyda threfnu wythnos / amserlen.

Wrth ymchwilio i’r feddalwedd sydd ar gael gellid gofyn i’r disgyblion ystyried y canlynol:

  • Pa wybodaeth fyddai’n ddefnyddiol i Seren fedru ei gofnodi yn y feddalwedd? (er enghraifft dyddiau’r wythnos; dyddiadau; amser y dydd; gyda phwy mae hi’n aros; enw’r weithgaredd a’r lleoliad; offer / adnoddau sydd eu hangen arni)

  • Pa fath o bethau fyddai’n gymorth ychwanegol i Seren gadw trefn ar bethau? (er enghraifft gosod atgoffwyr ar ei ffôn ar adegau penodol; rhannu’r trefnydd / amserelen gyda mam a dad; defnyddio gwahanol liwiau i uwcholeu offer / weithgaredd ayyb).

Gellid gofyn i’r disgyblion ddefnyddio’r feddalwedd i greu amserlen / trefnydd fyddai’n helpu Seren gadw trefn ar y bythefnos yma:

Amerlen Seren

  • Dydd Llun, 1 Hydref – Ddydd Gwener, 5 Hydref (aros gyda mam)
  • Nos Wener, 5 – Fore Llun, 8 Hydref (aros gyda dad – dad yn mynd â Seren i’r ysgol ar fore Llun, 8 Hydref)
  • Dydd Llun, 8 Hydref – Ddydd Gwener, 12 Hydref (aros gyda mam)
  • Nos Wener, 12 – 13 Hydref (aros gyda dad)
  • 14 Hydref nol gyda mam
  • Clwb pêl-rwyd bob nos Lun
  • Angen mynd â dillad ymarfer corff i’r ysgol bob dydd Mawrth a dydd Gwener
  • Angen gwisgo dillad ei hun ddydd Llun 8 Hydref ar gyfer mynd ar daith ysgol i’r theatr
  • Angen cyflwyno prosiect celf erbyn 14 Hydref.

Gweithgaredd 3 - Delio gyda newid

(Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu; Iechyd a Lles)

Ar ôl gwylio’r ffilm, gellid gofyn i'r disgyblion

  • nodi tri pheth roedd Seren wedi ei wneud i deimlo’n well / helpu ei hun ar ôl i'w rhieni wahanu
  • rhifo’r rhain o’r mwyaf effeithiol (rhif 1) i'r lleiaf effeithiol (rhif 3) yn eu barn nhw
  • drafod mewn parau pa ddau beth pellach fydda nhw’n ei awgrymu y gallai Seren ei wneud i helpu ei hun ymdopi gyda’r sefyllfa?

Dylid pwysleisio nad oes ateb cywir neu anghywir a bod pawb yn ymdopi ac yn delio gyda heriau’n wahanol. Mae’n bwysig hefyd cofio bod sefyllfa neu her yn gallu teimlo’n anoddach neu’n haws ar wahanol adegau.

Gweithgaredd 4 - Ymateb i lythyr at golofn broblemau mewn cylchgrawn i bobl ifanc

(Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfarthrebu; Iechyd a Lles)

Mae Seren wedi ysgrifennu llythyr at golofn broblemau yn gofyn am fwy o gyngor ar sut i ddelio gyda ei sefyllfa deuluol. Gellid gofyn i’r disgyblion ysgrifennu llythyr yn ymateb i Seren gan rannu awgrymiadau/cyngor gyda hi ar sut i ddelio gyda’r newid (Iaith a Llythrennedd).

Gallai’r disgyblion feddwl am:

  • arddull priodol (iaith ffurfiol neu anffurfiol; tôn gyfeillgar / gefnogol ayyb)
  • y strwythur – beth i’w gynnwys ar ddechrau, canol a diwedd y llythyr
  • gyngor i’w gynnig a hefyd gynnwys brawddegau sy’n perswadio / darbwyllo Seren i geisio rhai o’r awgrymiadau. Gallent chwilio am dystiolaeth i gefnogi’r cyngor a gynnigir – a chynnwys y dystiolaeth yn y llythyr i atgyfnerthu eu pwynt

Cysylltiadau â’r Cwricwlwm

Iechyd a Lles

  • Rwy'n gallu myfyrio a dysgu o'r gorffennol er mwyn rhagweld a pharatoi fy hun ac eraill ar gyfer profiadau yn y dyfodol.

  • Rwy'n gallu adnabod gwahanol strategaethau i hunan-reoli fy emosiynau mewn ymateb i ystod o brofiadau.

Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu

  • Rwy’n gallu deall a dadansoddi ystyr cyffredinol a syniadau sydd ymhlyg.

  • Rwy’n gallu gwrando gydag empathi ar safbwyntiau gwahanol bobl ar bynciau amrywiol gan ddefnyddio’r safbwyntiau i gyrraedd fy nghasgliadau fy hun.

  • Rwy’n gallu gwneud dewisiadau gwybodus am eirfa, iaith idiomatig a chystrawen er mwyn mynegi fy hun yn rhugl, yn eglur ac yn gywir.

  • Rwy’n gallu ymateb i safbwyntiau pobl eraill, gan grynhoi a gwerthuso’r hyn rwyf wedi’i glywed, ei ddarllen neu’i weld, strwythuro dadleuon a herio gyda hyder a sensitifrwydd yr hyn y mae eraill yn ei ddweud.

Back to top

Ble nesa?

Stori Tomos. video

Mae Tomos wedi syrthio mewn cariad am y tro cyntaf. Mae wrth ei fodd â Sara ond mae'n dechrau teimlo nad yw'n gweld llawer ar ei ffrindiau bellach. Sut gall gael gwell cydbwysedd yn ei fywyd - heb chwalu'r berthynas gyda Sara?

Stori Tomos

Stori Alys. video

Mae Alys yn teimlo'n drist ac yn unig ar ôl i'w ffrind gorau wneud ffrind newydd. Sut fydd Alys yn delio gyda hyn? Pa bethau fydd hi'n eu gwneud i deimlo'n well?

Stori Alys

Stori Elis. video

Eleni, bu farw mam Elis. Yn y ffilmiau yma fe welwn sut mae'n delio gyda hyn a sut gall blentyn helpu ffrind sydd wedi colli aelod o'r teulu.

Stori Elis
Back to top