Mae’r ffilmiau yn sôn am:
- brofiadau plentyn sy’n teimlo nad yw ei gorff a’i edrychiad yn ‘ddigon da’ oherwydd yr hyn mae’n ei weld ar y we a thrwy gymharu ei hun a’i gyfoedion
- ddelio gyda theimladau negyddol amdanat ti dy hun
- rai syniadau ar gyfer delio gyda sefyllfaoedd sy’n anodd a rhai pethau all helpu plentyn ymdopi gyda theimladau fel hyn
Yn y ffilm gyntaf mae Kareem yn teimlo anhapus gyda’i edrychiad – ac yn ceisio newid ei gorff drwy ymarfer corff a pheidio â bwyta’n iawn. Gyda chymorth ei ffrind, mae’n dod i weld ei fod yn ymateb mewn ffordd niweidiol, a bod angen iddo ddod o hyd i ffyrdd gwell o ddelio gyda’i deimladau negyddol am ei ddelwedd a theimlo’n hapusach. Mae’r ail ffilm yn trafod rhai syniadau ar gyfer ymdopi a datblygu strategaethau i ddelio gyda sefyllfa fel hyn.
Themâu: delwedd; dylanwad rhwydweithiau cymdeithasol; delio gyda theimladau negyddol; iechyd meddwl; rheoli teimladau; cymorth ffrindiau; gofyn am gefnogaeth.
Stori Kareem: Ffilm 1
Mae'n siŵr fod da pawb ychydig o amheuon am sut ma nhw'n edrych - ond rhai misoedd yn ôl a’th pethe’n ddrwg iawn i fi.
Ges i fy newis i fod ar dîm rygbi blwyddyn 9. O’n i'n gyffrous iawn am hyn! Ond nes i sylwi bo fi ddim yn edrych fel rhai o'r bechgyn eraill.
Nes i ddechre newid yn y tai bach cyn ymarfer achos ro’dd da fi gywilydd o ‘nghorff i.
Un tro nes i gwmpo a dod yn olaf wrth redeg o gwmpas y cae. Gwnaeth un o ‘fois y tîm’ jôc am fy mhwysau i.
Nes i esgus nad o’dd ots da fi a chwerthin ‘da fe. Ond tu mewn o’n i'n teimlo fel bo fi’n suddo.
Nes i benderfynu bo fi am neud beth bynnag o’dd angen i newid sut o’n i'n edrych. Daeth e’n obsesiwn.
Chwilio am sut i gael six pack a sut i golli pwysau’n glou. O’n i’n methu prydau bwyd ac yn ymarfer nes oeddwn i wedi blino’n lân. Ond roeddwn i dal yn casáu fy nghorff i, ac roeddwn i’n aml yn teimlo’n wan ac yn sâl.
Ar y we, oedd e’n edrych fel bod gyda pawb y “corff perffaith” ‘ma, ac o’n nhw’n edrych mor hapus. O’n i'n meddwl, os byddwn i'n gallu edrych fel nhw – wedyn byddwn i'n hapus hefyd.
Un diwrnod daeth fy ffrind, Sian, i dynnu llun o’r tîm rygbi ar gyfer gwefan yr ysgol, a dwedes i rwbeth fel “Ti ddim moyn fi yn y llun – dwi’n edrych yn ofnadwy!”
O’n i'n meddwl y bydde hi'n chwerthin ond oedd hi'n edrych fel petai hi’n poeni.
Ar ôl y sesiwn, wnaeth hi ofyn i fi os oeddwn i’n iawn. Wnes i ddweud wrthi sut o’n i’n teimlo.
Wnaeth hi son ei bod hi wedi cael bach o drafferth gyda’r ffordd roedd hi’n edrych hefyd, a’i bod hi wedi mynd at gwnselydd lles yr ysgol. Roedd hi’n meddwl dylwn i fynd i'w weld.
Nes i ddal nôl rhag mynd i’w weld e gymaint o weithiau. O’n i'n poeni be fydde pobl yn meddwl‘se nhw'n ffeindio mas.
Ond o’n i wedi cael llond bol ar deimlo mor ddrwg am fy hunan, felly un diwrnod, nes i wneud i fy hun fynd.
Nath e wrando arna i - a dwedodd e bod lot o bobl yn teimlo'r un peth â fi. Wnaeth e gynnig bo fi wedi teimlo'r pwysau ‘ma achos yr holl luniau ffug o’n i wedi gweld ar y we. A mae'n siwr bod filters ar lot ohonyn nhw!
Nath e ofyn os o’n i’n meddwl y dylwn i fod yn cymryd sylw o bethau ar-lein, neu i’r bobl oedd yn fy adnabod i ac yn poeni amdana i.
Dangosodd e rai apps i fi fydda’n helpu fi i fwyta ac ymarfer corff mewn ffordd mwy iach – a fydde ddim yn gwneud i fi deimlo'n sâl a blinedig.
Do’n i ddim moyn i sylwadau cas a lluniau ffug neud i fi deimlo'n ddrwg am fy hun dim mwy. Gyda help y cwnselydd, nes i rai newidiadau.
Wnes i roi’r gore i chwilio am atebion ar y we. A fi di dechre siarad am be sy’n poeni fi gyda'r pobl sy’n becso amdana i ac yn deall, fel Sian neu fy mrawd mawr, Ali.
Fi’n trio bwyta'n iach nawr, a sai’n methu prydau bwyd. Fi dal ddim yn hollol hapus gyda sut fi'n edrych. Ond fi'n trio bod yn fwy caredig i fy hun y dyddiau ‘ma.
A fi’n gwbod bod na bobl y galla i siarad gyda nhw os bydd pethau byth yn mynd dros ben llestri eto.
Stori Kareem: Ffilm 2
Rydyn ni i gyd yn cael ein dylanwadu gan ein profiadau a’r bobl yr ydyn ni’n treulio’n amser gyda nhw.
Weithiau, gallan nhw ddylanwadu ar ein meddyliau a’r ffordd yr ydyn ni’n ymddwyn heb i ni sylwi. Gall hyn fod yn beth da neu ddrwg. Felly rydyn ni angen bod yn ymwybodol o’r dylanwadau cymdeithasol o’n cwmpas a sut mae nhw’n ein heffeithio ni.
Mae ganddo ni i gyd lawer o ddylanwadau amrywiol - ffrindiau, teulu, ysgol a mwy. Mae gan bob grŵp eu ‘norm cymdeithasol’ – y meddylfryd a’r ymddygiad y mae’r grŵp yn credu sy’n dderbyniol.
Gall norm cymdeithasol fod yn bositif, fel dweud ‘os gwelwch yn dda’ a ‘diolch’, neu ailgylchu yn yr ysgol.Neu efallai eich bod yn cefnogi yr un tîm pêl-droed â gweddill eich teulu, sy’n rhoi teimlad o berthyn ac undod.
Ond, gall treulio llawer o amser gyda ffrindiau sy’n gwneud hwyl am ben eraill, er engrhaifft, wneud i ti ddechrau meddwl mai dyna sy’n normal. Mae hi wastad yn syniad da holi dy hun sut mae’r bobl ti’n treulio amser gyda nhw yn gwneud i ti deimlo. Wyt ti’n gallu bod yn ti dy hun o’u cwmpas?
Os wyt ti’n sylwi fod rhywun penodol yn gwneud i ti deimlo’n ddrwg, neu’n dy gael i drwbwl, yna fe elli di wneud rhywbeth am y peth.
Galli di drio siarad gyda nhw i weld os ydi hynny’n newid pethau. Os na, efallai y byddi di’n hapusach yn treulio amser gyda rhywun arall.
Wrth gwrs, rydym hefyd yn cael ein dylanwadu gan bobl nad ydyn ni’n eu hadnabod yn bersonol. Gall sgrolio ar y ffôn deimlo fel amser ymlacio neu’n ffordd o basio’r amser, ond os ydyn ni’n gweld cynnwys penodol pob dydd, yna fe all y cynnwys ddechrau siapio sut yr ydyn ni’n meddwl ac yn gweld y byd.
Felly, beth allet ti ei wneud i sylwi be sy’n dylanwadu arnat ti ar-lein?
Rhif un: Gofyn cwestiynau.
Mae hi bob amser yn syniad da i gwestiynu’r hyn ti’n weld ar-lein. Pan ti’n gweld llun o rhywun yn edrych yn anhygoel, efallai y cei di dy demptio i gymharu dy hun gyda nhw. Ond sawl llun wnaethon nhw dynnu cyn cael yr un “perffaith”? Ydyn nhw wedi rhoi ffiltar arno neu olygu’r llun? Tydi pethau ddim wastad fel mae nhw’n ymddangos ar y we.
Rhif dau: Gwranda ar dy emosiynau.
Rho sylw i sut mae fidios ar-lein, erthyglau a posts yn gwneud i ti deimlo. Ydyn nhw werth dy amser di os ydyn nhw’n gwneud i ti deimlo’n anhapus neu’n ddrwg amdano ti dy hun?
Rhif tri: Gwna rhywbeth.
Cofia, galli di flocio neu ddad-ddilyn unrhyw gynnwys ar-lein sy’n gwneud ti’n anghyfforddus. Pan mae’r pethau ar dy sgrin di’n tynnu ti i lawr, mae camu nôl yn opsiwn da.
Galli di gael amser heb sgrîn neu ddileu apiau’n gyfan gwbwl, mae’r dewis yna i ti ei wneud.
Mae rhoi sylw i dy ddylanwadau yn gallu rhoi mwy o reolaeth i ti dros sut ti’n teimlo.
Mae’n gallu dy helpu i dynnu dy amser a dy egni oddi wrth y bobl a’r pethau sydd ddim yn gwneud i ti deimlo’n dda a gall hynny wneud gwahaniaeth mawr.
Gweithgareddau posib
Gweithgaredd 1 - Delwedd ‘ddelfrydol’
(Iechyd a Lles; Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu)
Yn y ffilm, mae Kareem yn teimlo’n anhapus nad oes ganddo gyhyrau – yn enwedig ar ôl edrych ar wefannau cymdeithasol. Gellid gofyn i'r disgyblion feddwl am ‘ddelweddau delfrydol’ sy’n cael eu dangos / gwthio ar lein a thrafod y canlynol:
- ym marn y disgyblion, pa ‘ddelweddau delfrydol’ sy’n cael eu rhannu ar y we / rhwydweithiau cymdeithasol? Gellid gofyn iddynt wneud rhestr o rai o’r nodweddion yma (er enghraifft: steil neu liw gwallt; pwysau; cyhyrau).
- oes yna syniadau cyffredin gan y grŵp am yr hyn sy’n cyfrif fel ‘delwedd ddelfrydol’- neu a oes yna anghytundeb?
- ydy aelodau’r grŵp yn teimlo pwysau i gydymffurfio â’r delweddau yma? Os felly - pam hynny?
- ydy'r grwp yn meddwl bod y 'delweddau delfrydol' maent wedi eu trafod uchod yn realistig? Os nad – ym mha ffyrdd gallent fod yn afreal?
Gweithgaredd 2 - Effaith delweddau ‘delfrydol’
(Iechyd a Lles; Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu)
Gellid gofyn i'r disgyblion weithio gyda phartner er mwyn ystyried yr effaith roedd y syniad yma o’r ‘ddelwedd ddelfrydol’ wedi ei gael ar iechyd Kareem. Gellid gofyn iddynt gwblhau tabl fel hyn:
| Effaith ar iechyd gorfforol | Effaith ar iechyd meddwl |
|---|---|
| Ddim yn bwyta’n iawn – teimlo’n sâl neu’n wan | Anhapus |
| Gormod o ymarfer corff – blinder / gallu arwain at anaf | Teimlo’n isel |
| Blinder | Dim egni – llai o awydd gwneud pethau |
Gweithgaredd bellach:
Gellid gofyn i'r disgyblion ychwanegu rhes at y tabl uchod a chofnodi’r effeithiau corffol a meddyliol yr oedd rhywbeth yr oedden nhw’n ei boeni amdano wedi ei gael arnyn nhw.
Gweithgaredd 3 - Datblygu strategaethau ar gyfer ymdopi
(Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu; Iechyd a Lles)
Ar ôl gwylio’r ffilm gyntaf, gellid gofyn i'r disgyblion:
- nodi tri pheth wnaeth Kareem er mwyn teimlo’n well, ac yna drefnu’r tri pheth yma o’r mwyaf effeithiol i'r lleiaf effeithiol yn eu barn nhw
- gellid gofyn iddynt wedyn nodi dau reswm yn cefnogi eu dewis o’r weithred fwyaf effeithiol
Brawddegau a geirfa a allai fod o gymorth i’r disgyblion wrth gyflwyno eu safbwynt:
Yn fy marn i…
Mae’n hollol glir i mi mai…
Rydw i'n meddwl hyn achos…
Mae hyn yn effeithiol oherwydd…
I mi mae’n amlwg mai…
Ar ôl gwylio’r ail ffilm, gellid gofyn i'r disgyblion feddwl am ddau weithgaredd arall allai fod yn effeithiol wrth geisio gwella hunan hyder a lleihau effeithiau negyddol gweld delweddau ‘delfrydol’ ar lein.
O’r holl syniadau o weithgareddau a gweithredoedd y gallai rhywun eu gwneud i deimlo’n well, gellid gofyn i'r disgyblion ddewis eu ffefryn a gweithio mewn grwpiau o ddau neu dri i greu reel fer er mwyn rhannu’r syniad yma gyda disgyblion eraill o’r un oed.
Cysylltiadau â’r Cwricwlwm
Iechyd a Lles
Rwy'n gallu myfyrio a dysgu o'r gorffennol er mwyn rhagweld a pharatoi fy hun ac eraill ar gyfer profiadau yn y dyfodol.
Rwy'n gallu adnabod gwahanol strategaethau i hunan-reoli fy emosiynau mewn ymateb i ystod o brofiadau.
Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu
Rwy’n gallu deall a dadansoddi ystyr cyffredinol a syniadau sydd ymhlyg.
Rwy’n gallu gwrando gydag empathi ar safbwyntiau gwahanol bobl ar bynciau amrywiol gan ddefnyddio’r safbwyntiau i gyrraedd fy nghasgliadau fy hun.
Rwy’n gallu gwneud dewisiadau gwybodus am eirfa, iaith idiomatig a chystrawen er mwyn mynegi fy hun yn rhugl, yn eglur ac yn gywir.
Rwy’n gallu ymateb i safbwyntiau pobl eraill, gan grynhoi a gwerthuso’r hyn rwyf wedi’i glywed, ei ddarllen neu’i weld, strwythuro dadleuon a herio gyda hyder a sensitifrwydd yr hyn y mae eraill yn ei ddweud.
Ble nesa?
Stori Seren. video
Mae rheini Seren wedi gwahanu. Mae tad Seren yn symud i ffwrdd gyda'i bartner ac yn cael babi gyda hi. Sut fydd hi'n delio gyda hyn i gyd?

Stori Tomos. video
Mae Tomos wedi syrthio mewn cariad am y tro cyntaf. Mae wrth ei fodd â Sara ond mae'n dechrau teimlo nad yw'n gweld llawer ar ei ffrindiau bellach. Sut gall gael gwell cydbwysedd yn ei fywyd - heb chwalu'r berthynas gyda Sara?

Stori Alys. video
Mae Alys yn teimlo'n drist ac yn unig ar ôl i'w ffrind gorau wneud ffrind newydd. Sut fydd Alys yn delio gyda hyn? Pa bethau fydd hi'n eu gwneud i deimlo'n well?

