Mae'r ffilmiau yn sôn am:
- disgybl blwyddyn 9 sydd mewn cariad am y tro cyntaf
- sut i osod ffiniau iach mewn perthynas a cadw cydbwysedd pan mae pethau yn mynd yn ddwys
Yn y ffilm gyntaf, rydym yn cwrdd â Tomos, disgybl ym mlwyddyn 9 sy’n syrthio mewn cariad am y tro cyntaf. Mae’n trafod sut mae’n ymdopi pan fo’r berthynas yn mynd yn ddwys. Mae’n sylweddoli fod gosod ffiniau yn ei fywyd yn bwysig ac yn ei wneud yn hapusach. Mae’r ail ffilm yn rhoi cyngor ar sut i adnabod os nad yw pethau’n iach mewn perthynas, a’r pethau sy’n bosib eu gwneud i helpu cadw cydbwysedd.
Themâu: perthynas; gosod ffiniau; adnabod ymddygiad anodd; trafod a negodi.
Stori Tomos: Ffilm 1
Dyma ni - fi a’r hogia. ’Da ni’n ffrindiau ers blwyddyn 7. Chwarae pêl-droed pob amser egwyl, a malu awyr ar ôl ysgol – fel ma ffrindia’n neud.
Ond na’th hynna i gyd newid pan na’th Sara gyrraedd.
Na’th hi symud yma o ysgol arall ac yn syth pan welish i hi, o’n i methu stopio meddwl amdani. Be oedd yn anhygoel oedd bod hi’n licio fi hefyd!
Yn eitha buan wedyn oeddan ni’n mynd allan efo’n gilydd – hi oedd fy “nghariad” cyntaf! Wnes i hyd yn oed rhoi llun ohoni fel screen saver a’r papur wal ar fy ffôn. Sori Cymru!
O’n i efo hi bob amser egwyl. Oeddan ni’n cael cinio efo’n gilydd. O’dd gen i ddim amser i chwarae pêl-droed!
Oeddan ni hyd yn oed yn amseru mynd i toiled yr un pryd fel ein bod ni’n gweld ein gilydd yn ystod gwersi.
Ar ôl ysgol oeddan ni’n mynd i’r sinema, y traeth, y parc.
Weithia o’n i’n gweld yr hogia wrth basio, ac o’n i’n hanner isho jysd cael laff efo nhw, ond doedd gen i’m amser.
Dim jysd ni oedd yn gariadon yn blwyddyn 9. Oedd Rhys ac Amelie hefyd. Ond oedd perthynas nhw’n wahanol i un ni rhywsut.
Oeddan nhw ddim efo’i gilydd hanner gymaint a fi a Sara. Oedd Rhys efo’i fêts bob amser egwyl a dim ond yn cael cinio efo Amelie bob hyn a hyn.
Wnes i syweddoli ma' raid fod ’na ffordd i gael cariad ac amser efo ffrindiau.
So wnes i sôn am y peth wrth Sara, ac oedd hi’n syth fel…“wnes di weld ffrindia chdi llwyth ddoe”. A pan wnes i ddeud bod dwbl Chwaraeon ddim yn cyfri ’nath hi jysd wfftio’r peth.
Ond wedyn pan o’n i adra, wnes i wylio rhyw raglen dêtio o’dd fy chwaer yn wylio ac oeddan nhw’n sôn am “relationship boundries” - ‘ffiniau mewn perthynas’ am wn i?
O’dd gen i ddim clem be oedd hynna’n feddwl go iawn ond na’th o wneud i fi feddwl ella y basa ffiniau yn gallu bod fel rhyw fath o reolau y basa Sara a fi’n gallu eu gosod i gael balans gwell.
Diwrnod wedyn, gafon ni sgwrs. O’dd o reit awkward, ond wnes i ddeud wrthi er bo fi wrth fy modd yn treulio amser efo hi – o’n i angen amser efo’r hogia hefyd. O’dd o ddim yn teimlo’n iawn bo fi prin yn siarad efo nhw ddim mwy.
Na’th hi ypsetio, yn meddwl mod i’n gorffen petha ond o’n i fatha ‘na, dw i jysd yn methu mêts fi.’
Be bynnag, na’thon ni drio gosod ffiniau - wnes i ddechra treulio mwy o amser efo’r hogia.
O’dd Sara’n gweld y peth yn anodd i ddechra, na’thon ni ffraeo am y peth, ond cyn bo hir oedd hi wedi dechra gwneud ffrindia yn ei gwersi. Oeddan ni dal efo’n gilydd llwyth ar ôl ysgol, ond dim bob diwrnod.
Y peth ydi, pan wnes i ddechra rhannu fy amser rhwng fy ffrindia a Sara, oedd gan Sara a fi mwy o betha i siarad amdanyn nhw pan oeddan ni efo’n gilydd. Achos oedd gan y ddau ohona ni betha’n mynd ymlaen tu allan i’r berthynas.
Da ni efo’n gilydd, ond rwan mae’r balans yn well.
Stori Tomos: Ffilm 2
Mae perthnasau da yn gallu’n gwneud yn hapus, dysgu pethau newydd i ni, a’n herio mewn ffordd sy’n ein helpu i dyfu.
Pan di’r berthynas ddim yn un dda, mae’n gallu gwneud i ni deimlo’n ddrwg am ein hunain, gwneud i ni deimlo o dan straen neu’n orbryderus.
Ond tydi hi ddim bob tro yn hawdd adnabod pa rai sy’n ddrwg neu’n dda. Hyd yn oed mewn perthnasau da mae pobl yn dadlau weithiau.
Ac os oes gen ti gysylltiad cryf efo rhywun, yna a mae’n anodd adnabod y pethau drwg yn y berthynas.
Mae’n bwysig gwybod am beth i edrych ac i fod yn onest gyda’n hunain. Felly cadwa lygad am faneri gwyrdd - arwyddion o berthynas dda, a baneri coch - arwyddion o berthynas ddrwg.
Mewn perthynas iach mae unigolion yn parchu ac yn ymddiried yn ei gilydd ac mae pawb yn teimlo rhyddid i fod yn nhw’u hunain.
Mae’n bwysig i ti fod yn ti dy hun, ond mae posib cyfaddawdu hefyd. Efallai heddiw rydych chi’n gwylio dy hoff ffilm di, ond fory efallai mai’r person arall fydd yn dewis eu hoff fwyd.
Does dim rhaid i ti dreulio pob eiliad efo rhywun iddi fod yn berthynas iach. A dweud y gwir, gall hynny fod yn niweidiol.
Os yw perthynas newydd yn ein cadw rhag berthnasau eraill neu’n ein rhwystro rhag gwneud ffrindiau newydd, mae hynny’n faner coch.
Mae perthynas iach yn dibynnu ar barchu barn y naill a’r llall. Felly mae’n bwysig ceisio gweld pethau drwy lygad rhywun arall.
Gelli di wneud hyn drwy ddychmygu dy fod yn sefyllfa rhywun arall, a thrwy wneud ffrindiau gyda phobol sydd â phrofiadau gwahanol i ti dy hun.
Os wyt ti’n teimlo y gelli di siarad yn onest ac yn agored gyda rhywun sy’n agos atat ti, mae hynny’n wych ac yn arwydd o berthynas iach. Os na fedri di siarad, hola dy hun - pam ddim?
Ac os wyt ti’n ei chael hi’n anodd bod mewn perthynas efo rhywun, gall siarad gyda rhywun arall, rhywun ti’n ymddiried ynddyn nhw, dy helpu i weithio allan sut wyt ti wir yn teimlo neu hyd yn oed siarad am beth all helpu.
Gall hyn i gyd swnio’n lot! Ond mewn gwirionedd, be sy’n rhaid i ti gofio ydi gofyn i dy hun ‘ydi’r berthynas yma, boed gyda ffrind neu gariad, yn gwneud i mi deimlo’n dda?’
Os mai ‘na’ yw’r ateb, meddylia pam. Efallai y gelli di weithio ar y broblem a gwella’r berthynas.
Ond os wyt ti’n dal i drio a tydi pethau ddim yn gwella, yna efallai ei bod hi’n iachach i’r berthynas ddod i ben, ac i ti ganolbwyntio ar dreulio amser gyda phobl eraill sy’n dy fywyd.
Gweithgareddau posib
Gweithgaredd 1 - Perthynas iach
(Iechyd a Lles; Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu; Mathemateg a Rhifedd)
Gellid gofyn i'r disgyblion ystyried beth yn eu barn nhw sy’n gwneud perthynas iach – a beth yw’r elfennau sy’n gwneud perthynas yn un anodd? Mewn grwpiau gellid gofyn iddynt restru tri pheth o dan golofn ‘iach’ a thri peth o dan golofn ‘anodd’.
Er enghraifft:
| Iach | Anodd |
|---|---|
| mwynhau cwmni eich gilydd | dim amser i wneud pethau eraill rwyt ti’n ei fwynhau |
| rhannu diddordebau | pwysau i dreulio llai o amser gyda dy ffrindiau |
| cyfle i chwerthin | teimlo bod yn rhaid i ti fod yn ‘rhywun gwahanol’ yn ei gwmni / ei chwmni / eu cwmni |
| teimlad braf fod rhywun eisiau bod yn dy gwmni | |
Gellid mewnbynnu’r holl ffactorau ‘iach’ a’r holl ffactorau ‘anodd’ sydd wedi eu cofnodi gan y dosbarth ar feddalwedd pleidleisio, a gofyn i'r disgyblion ddewis eu hoff beth ‘iach’ am fod mewn perthynas a’r ffactor a allai fod yr ‘anoddaf’ yn eu barn nhw.
Mewn grwpiau gellid gofyn i'r disgyblion feddwl am y canlynol:
- Sut bydden nhw’n delio gyda ffactor neu ffactorau ‘anodd’ mewn perthynas?
- At bwy fydden nhw’n troi am gyngor?
- Ar ba bwynt fydden nhw’n teimlo bod angen dod â’r berthynas i ben?
Gweithgaredd 2
(Iechyd a Lles; Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu; Cymhwysedd Digidol)
Mae Tomos yn sylweddoli nad yw’n hapus gyda’i berthynas â Sara am ei fod yn gweld eisiau cwmni ei ffrindiau.
Gellid gofyn i'r disgyblion restru yr holl weithgareddau y maent yn eu mwynhau ac sy’n eu gwneud yn hapus. Er enghraifft: gweld nain / mam-gu; bod yn rhan o dîm pêl-rwyd; treulio amser yng nghwmni ffrindiau; celf; mynd â’r ci am dro; gweithio yn y garej gyda dad.
Gellid gofyn i'r disgyblion feddwl faint o amser y maent yn ei roi i'w hoff weithgareddau yn ystod yr wythnos. Gallent greu amserlen ddigidol yn marcio’r amser y maent yn ei dreulio yn gwneud y gweithgareddau sy’n eu gwneud yn hapus. Ar ôl cwblhau’r amserlen gallent ystyried y canlynol:
- Oes cyfle iddynt wneud gweithgaredd maent yn ei fwynhau bob dydd?
- Oes modd cynyddu’r amser y maent yn ei dreulio ar y gweithgareddau rhain?
- Beth allai effeithio ar yr amser hwn?
Gweithgaredd pellach: Yn y ffilm, mae Tomos yn clywed am ‘relationship boundaries’ neu ffiniau mewn perthynas, wrth wylio rhaglen deledu.
Mewn parau, gellid gofyn i'r disgyblion drafod y canlynol:
- Beth mae Tomos yn ei feddwl yw ffiniau mewn perthynas?
- Pa ffiniau osododd Tomos yn ei berthynas â Sara?
- Pa ffiniau sy’n bwysig i ti?
- Wrth edrych ar dy amserlen ddigidol, pa weithgareddau fyddet ti am eu gwarchod petai ti’n cychwyn perthynas?
Gweithgaredd 3
(Iechyd a Lles; Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu; Cymhwysedd Digidol)
Gellid gofyn i'r disgyblion ddefnyddio’r wybodaeth yn yr ail ffilm i ystyried:
- Beth sy’n ‘faner gwyrdd’ mewn perthynas? Wyt ti’n gallu meddwl am fwy o enghreifftiau?
| Dangos parch | Dangos empathi | Gallu ymddiried | Cyfaddawdu | Cyfathrebu’n dda |
|---|---|---|---|---|
- Beth sy’n ‘faner coch’ mewn perthynas? Wyt ti’n gallu meddwl am fwy o enghreifftiau?
| Rheoli | Beirniadu | Siarad yn gas | Pwdu’n hawdd | Effeithio ar sut rwyt ti’n teimlo |
|---|---|---|---|---|
Mewn grwpiau, gellid gofyn i'r disgyblion greu reel fer er mwyn codi ymwybyddiaeth disgyblion 11-14 oed at rai o’r ymddygiadau o’r tabl ‘gwyrdd’ neu’r tabl ‘coch’ uchod. Wrth baratoi’r reel gallant ystyried cwblhau’r camau canlynol:
- Greu stori fwrdd ar gyfer y reel
- Lunio sgript
- Dewis lleoliadau / props / actorion
- Dewis steil ar gyfer y gwaith golygu
- Meddwl am eu defnydd o destun / graffeg
- Dewis cerddoriaeth / synau
Cysylltiadau â’r Cwricwlwm
Iechyd a Lles
Rwy'n gallu myfyrio a dysgu o'r gorffennol er mwyn rhagweld a pharatoi fy hun ac eraill ar gyfer profiadau yn y dyfodol.
Rwy'n gallu adnabod gwahanol strategaethau i hunan-reoli fy emosiynau mewn ymateb i ystod o brofiadau.
Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu
Rwy’n gallu deall a dadansoddi ystyr cyffredinol a syniadau sydd ymhlyg.
Rwy’n gallu gwrando gydag empathi ar safbwyntiau gwahanol bobl ar bynciau amrywiol gan ddefnyddio’r safbwyntiau i gyrraedd fy nghasgliadau fy hun.
Rwy’n gallu gwneud dewisiadau gwybodus am eirfa, iaith idiomatig a chystrawen er mwyn mynegi fy hun yn rhugl, yn eglur ac yn gywir.
Rwy’n gallu ymateb i safbwyntiau pobl eraill, gan grynhoi a gwerthuso’r hyn rwyf wedi’i glywed, ei ddarllen neu’i weld, strwythuro dadleuon a herio gyda hyder a sensitifrwydd yr hyn y mae eraill yn ei ddweud.
Ble nesa?
Stori Alys. video
Mae Alys yn teimlo'n drist ac yn unig ar ôl i'w ffrind gorau wneud ffrind newydd. Sut fydd Alys yn delio gyda hyn? Pa bethau fydd hi'n eu gwneud i deimlo'n well?

Stori Elis. video
Eleni, bu farw mam Elis. Yn y ffilmiau yma fe welwn sut mae'n delio gyda hyn a sut gall blentyn helpu ffrind sydd wedi colli aelod o'r teulu.

Stori Eva. video
Mae Eva'n ei chael hi'n anodd dweud 'na' wrth ei ffrindiau - ond a fydd hyn yn golygu ei bod yn colli trip arbennig i Gaerdydd gyda'r tîm gymnasteg? Beth fydd Eva'n ddewis ei wneud? Sut gall hi wneud penderfynidau gwell o hyn ymlaen?

