Stori Alys: Ffrindiau, rheoli teimladau a gwytnwch

Mae’r ffilmiau yn sôn am:

  • y teimladau gall blentyn brofi wrth i grŵp ffrindiau newid
  • sut i ddod i adnabod dy hun yn well a rhoi amser i ti dy hun ddelio gyda rhai emosiynau
  • rai syniadau ar gyfer delio gyda sefyllfaoedd sy’n anodd a rhai pethau all helpu plentyn ymdopi gyda newid fel hyn

Mae’r ffilm gyntaf yn edrych ar brofiad Alys o ddelio gyda’i ffrind gorau yn ymbellhau oddi wrthi. Mae’r ail ffilm yn trafod rhai cynigion ar gyfer ymdopi â sefyllfa fel hyn.

Themâu: ffrindiau; ymdopi gyda newid; gwytnwch; rheoli teimladau; adnabod dy hun.

Stori Alys: Ffilm 1

Stori Alys: Ffilm 2

Gweithgareddau posib

Gweithgaredd 1 - Ffrindiau: Beth sy’n gwneud ffrind da?

(Iechyd a Lles; Iaith a Llythrennedd; Mathemateg a Rhifedd)

Gellid gofyn i ddisgyblion, mewn grwpiau, ystyried y gosodiad:

‘Beth sy’n gwneud ffrind da?’

Gellid gofyn i bob grwp greu map meddwl gan ddefnyddio geiriau, brawddegau a/neu luniau er mwyn creu darlun weledol o’r hyn sy’n gwneud ffrind da yn eu tŷb hwy. Gallai bob grŵp ddangos eu map meddwl i’r dosbarth a gellid gofyn i’r disgyblion gadw tali o’r nodweddion sy’n gyffredin i’r grwpiau.

Pa nodwedd sydd fwyaf cyffredin?

Pa nodwedd sy’n ail?

Yna, gellid mynd ati i greu graffiau sy’n arddangos y data a gasglwyd ynghylch pa nodweddion sy’n gwneud ffrind da ym marn y dosbarth.

Gweithgaredd 2 - Olwyn wytnwch

(Iechyd a Lles; Iaith a Llythrennedd; Cymhwysedd Digidol)

Gellid gofyn i’r disgyblion, mewn grwpiau i greu ‘Olwyn wytnwch’ drwy: lunio cylch ar ddarn o bapur A3; ei rannu’n 12 darn hafal, ac yna gosod saeth sy’n gallu troi yng nghanol y cylch.

Yna gellid gofyn i’r disgyblion greu rhestr o 12 gweithgaredd sy’n eu helpu pan fônt yn teimlo’n drist neu’n isel, er enghraifft: siarad gyda ffrind; gwrando ar gerddoriaeth; mynd am dro; yfed dŵr; helpu aelod o’r teulu; chwarae gydag anifail anwes.

Ar ôl cwblhau’r rhestr, gellid gofyn iddynt osod un weithgaredd ym mhob un o’r 12 darn hafal ar yr ‘Olwyn’. Gellid eu hannog i droi’r ‘Olwyn’ a gwneud y weithgaredd sy’n cael ei nodi gan y saeth y tro nesaf y byddant yn teimlo’n drist neu’n isel.

Amrywiad ar y weithgaredd hon fyddai gofyn i’r disgyblion ddefnyddio meddalwedd digidol i greu rhaglen ‘dewis ar hap’ (Cymhwysedd Digidol).

Gweithgaredd 3 - Adnabod fi fy hun

(Iechyd a Lles; Iaith a Llythrennedd; Cymhwysedd Digidol)

Gellid gofyn i’r disgyblion rannu darn o bapur neu ddogfen ddigidol yn bedair rhan a gosod y teitlau isod ym mhob rhan:

Fy nghryfderau
Fy ngwerthoedd
Sialensau personol
Fy ngobeithion

Gellid trafod ystyr pob adran gyda’r disgyblion yn gyntaf er mwyn sicrhau dealltwriaeth, yna gellid eu hannog i ysgrifennu pedair brawddeg amdanynt hwy eu hunain ym mhob adran.

Rhai cystrawennau a ffurfiau a allai fod o ddefnydd iddynt wrth gwblhau’r dasg:

  • Mae… (dal ati / bod yn drefnus / helpu pobl eraill)… yn gryfder i mi.

  • Rydw i'n meddwl fod (gonestrwydd / bod yn garedig / rhannu) yn bwysig.

  • Sialens rydw i wedi ei osod i mi fy hun eleni yw cyrraedd (safon belt coch mewn tae-kwon-do).

  • Fy ngobaith i at y dyfodol yw (gallu gweld y byd).

Cysylltiadau â’r Cwricwlwm

Iechyd a Lles

  • Rwy’n gallu gweld manteision cyfathrebu am deimladau fel un o’r ystod o strategaethau sy’n gallu bod o gymorth i hyrwyddo iechyd meddwl cadarnhaol a lles emosiynol.
  • Rwy’n gallu deall sut a pham mae profiadau yn effeithio arnaf i ac ar eraill.

Mathemateg a Rhifedd

  • Rwy’n gallu cynrychioli gwybodaeth drwy greu amrywiaeth o siartiau priodol sy’n cymhlethu’n gynyddol, gan gynnwys siartiau cyfrif, tablau amlder, graffiau bar a graffiau llinell.

Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu

  • Rwy’n gallu rhyngweithio gydag eraill, siarad ac ysgrifennu am fy meddyliau, teimladau a barn, gan ddangos empathi a pharch.
Back to top

Ble nesa?

Stori Elis. video

Eleni, bu farw mam Elis. Yn y ffilmiau yma fe welwn sut mae'n delio gyda hyn a sut gall blentyn helpu ffrind sydd wedi colli aelod o'r teulu.

Stori Elis

Stori Seren. video

Mae rheini Seren wedi gwahanu. Mae tad Seren yn symud i ffwrdd gyda'i bartner ac yn cael babi gyda hi. Sut fydd hi'n delio gyda hyn i gyd?

Stori Seren

Iechyd a Lles (Cymru) 8-11

Rhagor o adnoddau cyfrwng Cymraeg

Iechyd a Lles (Cymru) 8-11
Back to top