Stori Seren: Delio gyda rhieni yn gwahanu

Mae’r ffilmiau yn sôn am:

  • y teimladau gall blentyn brofi wrth i rieni wahanu
  • ddelio gyda newid a sut y gall fywyd bob dydd fod yn wahanol ar ôl i rieni wahanu
  • rai syniadau ar gyfer delio gyda sefyllfaoedd sy’n anodd a rhai pethau all helpu plentyn ymdopi gyda newid fel hyn

Mae’r ffilm gyntaf yn edrych ar brofiad Seren o ddelio gyda’i rhieni’n gwahanu a’r newidiadau sydd yn dod yn sgil hynny. Mae’r ail ffilm yn trafod rhai cynigion ar gyfer ymdopi â sefyllfa fel hyn.

Themâu: rhieni yn gwahanu; iechyd meddwl; ymdopi gyda newid; gwytnwch; rheoli teimladau.

Stori Seren: Ffilm 1

Stori Seren: Ffilm 2

Gweithgareddau posib

Gweithgaredd 1 - Delio gyda newid

(Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu; Iechyd a Lles)

Ar ôl gwylio’r ffilm, gellid gofyn i'r disgyblion

  • Nodi tri pheth oedd wedi newid ym mywyd Seren ar ôl i'w rhieni wahanu, gan eu rhifo o’r newid mwyaf heriol (rhif 1) i'r newid lleiaf heriol (rhif 3) yn eu barn nhw.

  • Yna, gellid gofyn iddynt rannu’r newid mwyaf heriol yn eu barn nhw (rhif 1) gyda phartner, gan roi tri reswm i gefnogi eu barn. Ydy’r partneriaid yn gallu dod i gytundeb ar y newid mwyaf heriol ym mywyd Seren – neu a oes yna wahaniaeth barn?

Brawddegau a geirfa gallai fod o gymorth i’r disgyblion wrth gyflwyno eu safbwynt wrth gwblhau’r dasg perswadio / trafod yma:

Yn fy marn i…
Mae'n hollol glir i mi mai…
Rydw i'n meddwl hyn achos…
Mae hyn yn anodd oherwydd…
Mae hyn yn heriol i Seren achos…
Y newid mwyaf heriol yw…
Does dim dwywaith…

Dylid pwysleisio nad oes ateb cywir neu anghywir a bod pawb yn ymdopi ac yn delio gyda heriau’n wahanol. Mae’n bwysig hefyd cofio bod sefyllfa neu her yn gallu teimlo’n anoddach neu’n haws ar wahanol adegau.

Gweithgaredd pellach: Gellid gofyn i'r disgyblion ddewis un o’r newidiadau heriol y bu iddynt drafod yn y weithgaredd flaenorol a meddwl am ddau fantais sydd hefyd yn perthyn i'r sefyllfa yma. Er enghraifft, dim ond yn gweld Mam ar y penwythnos = cyfle i dreulio amser yn cael hwyl a sbri gyda Mam; gorfod gweld rhieni ar wahân o hyn ymlaen = cyfle i ddatblygu perthynas dda gyda’r ddau riant yn unigol.

Gweithgaredd 2 - Adnabod emosiynau

Gellid gofyn i'r disgyblion greu graff emosiynau i gofnodi’r ystod o emosiynau mae Seren yn eu profi yn ystod y ffilm (Iechyd a Lles; Mathemateg a Rhifedd; Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu).

Gweithgaredd pellach (Celfyddydau Mynegiannol): Gellid gofyn i'r disgyblion ddewis un o’r emosiynau o’r graff uchod a rhoi defnyddio meddalwedd ddigidol i ddylunio e-moji syml sy’n cyfleu’r teimlad hwn. Wrth ddylunio’r emoji gellid gofyn iddynt feddwl am y canlynol wrth:

  • dyluniad emojis cyfarwydd – beth sy’n eu gwneud nhw’n effeithiol ym marn y disgyblion? Lliw / Siap / Nodwedd arbennig?

  • pa liw fyddai’n addas ar gyfer yr emoji newydd?

  • pa siap fyddai’n gweithio orau?

  • os am greu cymeriad – pa nodwedd fyddai bwysicaf yn y dyluniad (llygaid / ceg / amrannau / dwylo ayyb)

Gweithgaredd 3 - Creu ‘jig-sô’ bywyd

Gellid gofyn i'r disgyblion greu jig-sô, naill ai ar ddarn o bapur neu’n gan ddefnyddio meddalwedd ddigidol addas, sy’n cynrychioli popeth sy’n bwysig iddynt (Celfyddydau Mynegiannol; Cymhwysedd Digidol).

Gallai’r jig-sô gynnwys:

  • lluniau neu ffotograffau o aelodau o’r teulu, ffrindiau, anifeiliaid anwes

  • lluniau o’u hoff weithgareddau / glybiau / hobïau

  • lluniau sy’n cynrychioli eu gobeithion / dyheadau am y dyfodol

Cysylltiadau â’r Cwricwlwm

Iechyd a Lles

  • Rwy’n gallu gweld manteision cyfathrebu am deimladau fel un o’r ystod o strategaethau sy’n gallu bod o gymorth i hyrwyddo iechyd meddwl cadarnhaol a lles emosiynol.
  • Rwy’n gallu deall sut a pham mae profiadau yn effeithio arnaf i ac ar eraill.

Mathemateg a Rhifedd

  • Rwy’n gallu rhyngweithio gydag eraill, siarad ac ysgrifennu am fy meddyliau, teimladau a barn, gan ddangos empathi a pharch.
Back to top

Ble nesa?

Stori Alys. video

Mae Alys yn teimlo'n drist ac yn unig ar ôl i'w ffrind gorau wneud ffrind newydd. Sut fydd Alys yn delio gyda hyn? Pa bethau fydd hi'n eu gwneud i deimlo'n well?

Stori Alys

Stori Elis. video

Eleni, bu farw mam Elis. Yn y ffilmiau yma fe welwn sut mae'n delio gyda hyn a sut gall blentyn helpu ffrind sydd wedi colli aelod o'r teulu.

Stori Elis

Iechyd a Lles (Cymru) 8-11

Rhagor o adnoddau cyfrwng Cymraeg

Iechyd a Lles (Cymru) 8-11
Back to top