Mae’r ffilmiau yn sôn am:
- y teimladau gall blentyn brofi wrth alaru am riant
- rai syniadau ar gyfer delio gyda sefyllfaoedd sy’n anodd a rhai pethau all helpu plentyn ymdopi gyda newid fel hyn
Mae’r ffilm gyntaf yn edrych ar fywyd Elis ar ôl iddo golli ei fam. Mae’r ail ffilm yn trafod rhai cynigion i ffrindiau sy’n ceisio cefnogi ffrind sy’n mynd drwy brofiad fel hyn.
Themâu: galar; colli rhiant; ymdopi gyda newid mawr; gwytnwch; adnabod teimladau; adnabod dy hun.
Stori Elis: Ffilm 1
Mae wedi bod yn galed ers i ni golli Mam. Ma popeth yn wahanol nawr. Hyd yn oed y pethe bach, fel pan ni’n trio cael yn barod yn y bore.
Dim ond chwech yw Non, so fi’n gorfod helpu Dad i gael hi i wisgo a bwyta’i brecwast a stwff.
Weithie ar ôl ysgol hefyd, os yw Dad angen gweithio, neu wneud pethe o gwmpas y tŷ, fi’n gorfod chwarae ’da Non.
O’n i ddim yn gorfod becso am unrhyw beth fel’na pan oedd Mam ’ma.
S’mo’r ysgol wedi bod yn hawdd chwaith. Wedodd un bachgen, “Allen i ddim côpo heb Mam.”
O’n i ddim yn gwybod beth i ddweud. Sai’n gwybod beth i’w wneud hebddi chwaith, ond s’dim dewis ’da fi.
Fi wedi bod yn mynd draw i dŷ Twm weithie, jest i chwarae pêl-droed, neu fynd ar y cyfrifiadur.
Ma fe’n neis i neud rhywbeth gwahanol, a pheidio meddwl am beth sydd wedi digwydd.
Fi’n teimlo’n euog weithie, pan fi’n anghofio ac yn cael hwyl ’da Twm. Ond mae’r cwnselydd wedi dweud bod e’n beth da, a ddylen i ddim teimlo’n euog.
Y peth yw, sai byth yn gwbod yn iawn sut fi’n mynd i deimlo.
Fel y diwrnod o’r blân, pan o’dd ’da fi hoci, o’dd Dad heb bacio’r gumshield yn y bag, ac o’n i methu chwarae. O’n i mor, mor grac! Dafles i bag fi a chicio’r locer yn rili galed.
O’n i’n grac ’da Dad am anghofio, ac yn grac ’da fi fy hun am beidio checio. Ond yn fwy na dim, o’n i jest mor grac ’da Mam am beidio bod ’ma rhagor. Fydde hi byth wedi anghofio.
Ma Non yn siarad am Mam drwy’r amser, a fi’n gwbod bod Non yn fach, ond weithie fi’n gwylltio pan ma hi’n sôn am Mam.
Ond, nes i a Dad siarad am y peth, ac o’dd e’n gweud fod e’n normal i bawb ddelio ’da pethe’n wahanol.
Falle bod Non angen siarad am Mam, a falle fod e’n anoddach i fi, a ma ’ny’n iawn hefyd.
Ni wedi dechre neud rhai pethe newydd. Fel ar nos Fawrth, ni’n tri’n mynd i nofio, a wedyn i gael pitsa. Ma fe’n neis neud pethe fel’ny ’da’n gilydd, a chadw’n brysur.
Ond fi’n gweld eisie Mam bob dydd. Rhai dyddie, fi’n gweld eisie hi gymaint, ma fe jest mor boenus. A sai moyn gwneud unrhyw beth.
Ond fi’n gwbod alla i siarad gyda Dad, neu Twm, neu’r cwnselydd, os fi moyn. Fi wastad yn teimlo bach yn well ar ôl siarad ’da rhywun.
Ma’r misoedd dwetha ’ma wedi bod mor galed, a ma fe dal yn rili galed.
Bydd pethe fyth yr un fath ’to, ond rhai dyddie nawr, fi’n dechre teimlo bach yn well.
Stori Elis: Ffilm 2
Os oes rhywun sy’n agos at dy ffrind yn marw, mae’n gallu bod yn anodd iawn gwybod beth i’w wneud.
Efallai dy fod di’n teimlo nad oes gen ti unrhyw syniad sut i helpu, neu bod gen ti ofn dweud y peth anghywir.
Ond er ei fod yn anodd, mae’n siŵr bod dy ffrind wir dy angen di ar hyn o bryd, ac mae yna bethau ti’n gallu gwneud i’w cefnogi nhw.
Mae hi’n amhosib gwybod sut fydd dy ffrind yn teimlo. Mae pawb yn ymddwyn yn wahanol pan fo rhywun agos iddyn nhw yn marw.
Efallai y bydden nhw’n awyddus i siarad am beth sydd wedi digwydd, neu efallai bod hynny’n rhy anodd ar hyn o bryd, ac mae hynny’n iawn hefyd.
Gallet ti ddweud y byddi di yno iddyn nhw, ac y byddi di’n barod i wrando os ydyn nhw eisiau siarad, unrhyw bryd. Neu efallai gei di gyfle pan fyddi di ar ben dy hun gyda dy ffrind i holi sut maen nhw’n teimlo.
Os ydy dy ffrind eisiau siarad, cofia na fyddan nhw’n disgwyl i ti gynnig unrhyw atebion, ond wrth fod gyda nhw a bod yn barod i wrando, rwyt ti’n helpu.
Mae’n naturiol hefyd i ti fod eisiau gwybod beth yn union ddigwyddodd. Efallai dy fod di’n poeni bod rhywbeth tebyg am ddigwydd i rywun ti’n garu.
Ond fe allai fod yn anodd iawn i dy ffrind drafod hynny, felly ceisia holi rhywun arall – Mam neu Dad neu frawd neu chwaer hŷn, efallai.
Falle y byddi di’n sylwi bod dy ffrind ychydig yn wahanol i’r arfer, neu’n ymddwyn mewn ffordd fyddet ti ddim yn disgwyl.
Falle fyddan nhw ddim yn ateb dy negeseuon, neu’n newid cynlluniau ar fyr rybudd.
Ceisia fod yn amyneddgar, a chofia eu bod nhw’n delio gyda rhywbeth anodd iawn ar hyn o bryd.
Dal ati i gysylltu gyda nhw, a’u gwahodd i bethau. Meddylia am y pethau roeddech chi’n arfer gwneud gyda’ch gilydd. Mynd ar eich beics, chwarae gemau cyfrifiadur… Beth am drefnu i wneud rheina eto yn fuan?
Mae’n bosib bod dy ffrind yn teimlo fel bod pawb yn eu trin nhw’n wahanol, ac y bydden nhw’n falch petai ti’n cynnig i chi wneud rhywbeth normal gyda’ch gilydd.
Mae delio gyda cholli rhywun yn cymryd amser, ac mae’n gallu newid dros amser hefyd.
Mae’n bosib y bydd dy ffrind yn profi pob math o emosiynau. Falle mewn sioc i ddechrau, dro arall yn teimlo’n flin iawn, a weithiau’n teimlo dim byd.
Galar yw’r gair am deimlo’n drist iawn, iawn ar ôl i rywun farw. Ambell waith, bydd yr hiraeth a’r galar yn teimlo’n boenus iawn i dy ffrind.
Ond gydag amser, fe ddaw dyddiau haws. Ceisia fod yn gefn i dy ffrind yn ystod y cyfnod anodd yma.
Wrth wneud ambell beth bach, fe alli di fod yn help mawr.
Gweithgareddau posib
Gweithgaredd 1 - Adnabod emosiynau
(Iechyd a Lles; Iaith a Llythrennedd)
Gellid ysgrifennu pob un o’r emosiynau isod ar gardiau gwahanol a rhoi un i bob grwp ar hap. Yna gellid gofyn i bob grwp greu map meddwl gan ddefnyddio geiriau, brawddegau a/neu luniau) er mwyn dangos ystyr yr emosiwn.
| sioc | teimlo'n unig | teimlo'n grac / teimlo'n flin | teimlo'n drist | teimlo'n isel |
Fel tasg pellach, gellid gofyn i gynrychiolydd o bob grwp actio’r emosiwn er mwyn i weddill y dosbarth geisio ei ddyfalu (Celfyddydau Mynegiannol).
Gweithgaredd 2 - Adnabod emosiynau
(Iechyd a Lles; Llythrennedd a Chyfathrebu)
Gyda’r un cardiau emosiwn o weithgaredd 1 (uchod), gellid gofyn i’r disgyblion drafod eu strategaethau nhw o ddelio gyda’r emosiwn hwnnw, er enghraifft: mynd am dro; ymarfer anadlu; yfed dŵr; cymryd seibiant mewn lle tawel; gwrando ar hoff gân; siarad gyda rhiant, ayyb.
Ar ôl gorffen eu strategaeth ar gyfer un emosiwn, gallant newid cerdyn gyda grwp arall:
- Oes angen gwahanol strategaethau ar gyfer gwahanol emosiynau?
- Oes yna rai strategaethau yn gweithio i rai fyddai ddim yn gweithio i eraill?
Gweithgaredd 3 - Adnabod emosiynau
(Iechyd a Lles; Celfyddydau Mynegiannol)
Gellid gwahodd y disgyblion i greu celf er mwyn mynegi eu teimladau. Gellid gofyn iddynt feddwl yn nhermau lliwiau, llinellau a siapau wrth gyfleu teimlad arbennig. Gellid eu hannog i edrych ar waith artistiaid megis Van Gogh, Edvard Munch a Frida Kahlo a gweld sut y bu iddynt hwy ddefnyddio eu celf i gyfleu teimlad ac emosiwn.
Gweithgaredd 4 - Adnabod emosiynau
(Iechyd a Lles; Celfyddydau Mynegiannol)
Gellid gofyn i’r disgyblion greu pyped neu ddefnyddio tedi neu ddol i chwarae rôl tebyg i’r isod:
Sefyllfa chwarae rôl 1: Mae ffrind yn drist gan fod ei gath wedi marw. Beth gall y ffrind arall ei ddweud / ei wneud i helpu ei ffrind?
Sefyllfa chwarae rôl 2: Mae ffrind yn gweld eisiau ei fam-gu. Fe fuodd i hi farw tua dwy flynedd yn ôl. Beth gall y ffrind arall ei ddweud / ei wneud i helpu ei ffrind?
Sefyllfa chwarae rôl 3: Mae ffrind yn teimlo’n drist – ond nid yw’n siwr pam. Beth gall y ffrind arall ei ddweud / ei wneud i helpu ei ffrind?
Gweithgaredd 5 - Delio gyda galar
(Iechyd a Lles; Celfyddydau Mynegiannol)
Creu portread o wyneb rhywun y maent wedi ei golli
Gellid gofyn i’r disgyblion greu portread o rywun y maent wedi ei golli. Gallant fraslunio hanner yr wyneb yn y dull arferol, ac yna gallai’r hanner arall gynnwys elfennau sy’n atgoffa’r disgybl o’r person hwnnw, er enghraifft: sleid yn lle trwyn; teisen yn lle llygaid; haul yn lle clust.
Gweithgaredd 6 - Adnabod galar
(Iechyd a Lles; Celfyddydau Mynegiannol)
Creu amlinelliad o’r corff
Gellid gofyn i ddisgyblion wethio gyda phartner a chreu amlinelliad o’r corff gyda sialc ar lawr. Gall bob pâr labelu rhannau o’r corff a nodi sut mae galar yn gallu effeithio ar y rhan hwnnw o’r corff, er enghraifft: poen bol / bola tost; cur pen / pen tost. Yna gellid trafod fel dosbarth sut y mae galar yn gallu effeithio’n uniongyrchol ar y corff. Gydag arweiniad yr athro, pa strategaethau gall y disgyblion droi atynt i’w helpu pan fo hynny yn digwydd?
Cysylltiadau â’r Cwricwlwm
Iechyd a Lles
- Rwy’n gallu gweld manteision cyfathrebu am deimladau fel un o’r ystod o strategaethau sy’n gallu bod o gymorth i hyrwyddo iechyd meddwl cadarnhaol a lles emosiynol.
- Rwy’n gallu deall sut a pham mae profiadau yn effeithio arnaf i ac ar eraill.
Mathemateg a Rhifedd
- Rwy’n gallu rhyngweithio gydag eraill, siarad ac ysgrifennu am fy meddyliau, teimladau a barn, gan ddangos empathi a pharch.
Ble nesa?
Stori Seren. video
Mae rheini Seren wedi gwahanu. Mae tad Seren yn symud i ffwrdd gyda'i bartner ac yn cael babi gyda hi. Sut fydd hi'n delio gyda hyn i gyd?

Stori Alys. video
Mae Alys yn teimlo'n drist ac yn unig ar ôl i'w ffrind gorau wneud ffrind newydd. Sut fydd Alys yn delio gyda hyn? Pa bethau fydd hi'n eu gwneud i deimlo'n well?

Iechyd a Lles (Cymru) 8-11
Rhagor o adnoddau cyfrwng Cymraeg

