Oedi llawdriniaethau newid rhywedd GIG Cymru wrth i niferoedd gael eu hadolygu

Mae Gwasanaeth Rhywedd Cymru wedi'i leoli yn Ysbyty Dewi Sant yng Nghaerdydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Gwasanaeth Rhywedd Cymru wedi'i leoli yn Ysbyty Dewi Sant yng Nghaerdydd

  • Cyhoeddwyd

Mae Gwasanaeth Rhywedd Cymru wedi oedi atgyfeiriadau newydd a rhai sydd wedi'u trefnu'n barod ar gyfer llawdriniaethau cadarnhau rhywedd ar ôl i'r bwrdd iechyd sy'n gyfrifol godi "pryderon" am nifer yr atgyfeiriadau sy'n cael eu gwneud.

Mae data ar gyfer 2025-26 yn dangos "cyfraddau sylweddol uwch o atgyfeiriadau ar gyfer llawdriniaeth cadarnhau rhywedd... o gymharu â gwasanaethau rhywedd Lloegr", meddai Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, sy'n rhedeg y gwasanaeth.

Mae Cyd-bwyllgor Comisiynu GIG Cymru (CBCGC), sy'n comisiynu gwasanaethau arbenigol yn genedlaethol, wedi gofyn am adolygiad clinigol annibynnol ar ôl nodi "materion" trwy "brosesau sicrwydd" arferol.

Dylai cleifion barhau i fynychu apwyntiadau sydd wedi'u trefnu i drafod y sefyllfa, meddai, a byddai rhannau eraill o'r gwasanaeth yn parhau i weithredu, gan gynnwys cymorth gyda therapi hormonau.

"Mae'r prosesau hyn wedi'u llunio i sicrhau craffu a goruchwyliaeth briodol lle mae angen trafodaeth neu ymchwiliad pellach," meddai'r CBCGC.

'Cyfraddau sylweddol uwch yng Nghymru'

Dywedodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro ei fod yn cydnabod y gallai'r cyhoeddiad fod yn destun pryder i gleifion.

Dywedodd iddo gael cais i "ohirio ar unwaith atgyfeiriadau gan Wasanaeth Rhywedd Cymru ar gyfer llawdriniaethau cadarnhau rhywedd a llawdriniaethau presennol sydd wedi'u trefnu, tra bod gwaith adolygu clinigol annibynnol pellach yn cael ei gynnal".

"Mae pryderon wedi codi o ddata atgyfeirio ar gyfer 2025-26 sy'n dangos cyfraddau sylweddol uwch o atgyfeiriadau ar gyfer llawdriniaeth cadarnhau rhywedd gan Wasanaeth Rhywedd Cymru o gymharu â gwasanaethau rhywedd Lloegr," meddai'r bwrdd iechyd yn ei ddatganiad.

"Codwyd pryderon hefyd ynghylch agweddau ar y prosesau atgyfeirio ac asesu."

O ganlyniad, dywedodd y bwrdd iechyd:

  • Mae atgyfeiriadau newydd ar gyfer llawdriniaeth cadarnhau rhyw wedi'u hoedi

  • Mae asesiadau llawfeddygol a llawdriniaethau sydd wedi'u trefnu wedi'u hoedi

  • Mae adolygiad clinigol annibynnol yn cael ei gynnal i ddarparu sicrwydd ynghylch trefniadau asesu, atgyfeirio a llywodraethu.

Dywedodd y bwrdd iechyd bod rhannau eraill o'r gwasanaeth yn parhau i weithredu, gan gynnwys cymorth therapi hormonau, cymorth seicolegol a therapi lleferydd ac iaith.

Gwasanaeth Rhywedd Cymru yw clinig hunaniaeth rywedd y GIG. Cafodd ei sefydlu yn 2019 ac mae'n darparu gofal a chymorth arbenigol i oedolion yng Nghymru. Mae'r gwasanaeth yn cyfeirio cleifion i Loegr ar gyfer llawdriniaeth.

Dywedodd y bwrdd iechyd y dylai cleifion sydd wedi trefnu apwyntiadau gyda Gwasanaeth Rhywedd Cymru barhau i fynychu ar gyfer trafodaethau ynghylch y camau nesaf a chymorth seicolegol.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.