Cynllun i roi £10 yr wythnos i blant yn wynebu 'problemau sylweddol'

Dynes a phlentynFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl yr Athro Emyr Lewis o Brifysgol Aberystwyth, mae gan Lywodraeth Cymru'r grym i wneud hyn yn gyfreithiol, ond fe fydd angen cydweithrediad Llywodraeth y DU

GanElliw Gwawr
Gohebydd gwleidyddol
  • Cyhoeddwyd

Mae cynlluniau Llywodraeth Cymru i roi arian ychwanegol i rieni tlotaf Cymru, yn wynebu "problemau ymarferol sylweddol", yn ôl arbenigwr cyfreithiol.

Mae llywodraeth newydd Plaid Cymru yn bwriadu cyflwyno peilot a fyddai'n cynnig £10 yr wythnos i 15,000 o blant dan chwech oed, mewn aelwydydd sydd yn derbyn credyd cynhwysol.

Ond mae yna bryderon y gallai'r taliadau gael eu trin fel incwm cyffredin, gan arwain at arian yn cael ei dynnu oddi ar eu budd-daliadau.

Yn ôl yr Athro Emyr Lewis o Brifysgol Aberystwyth, mae gan Lywodraeth Cymru'r grym i wneud hyn yn gyfreithiol, ond fe fydd angen cydweithrediad Llywodraeth y DU.

'Materion ymarferol sylweddol'

Yn ei adroddiad mae'n rhybuddio y byddai bwrw ymlaen heb gytundeb Llywodraeth y DU "yn peryglu tanseilio neu wanhau effeithiolrwydd y taliad yn sylweddol".

Byddai'r taliad Cynnal yn efelychu cynllun yn yr Alban, a ddechreuodd drwy gynnig £10 yr wythnos ac sydd wedi cynyddu i £26.70 erbyn hyn.

Yn wahanol i'r Alban, dyw budd-daliadau ddim wedi'u datganoli i Gymru.

Yn ôl yr Athro Lewis, os yw taliad Cynnal am fod yn effeithiol, yna mae angen i Lywodraeth Cymru fod yn sicr na fyddai'r arian sy'n cael ei roi i rieni "yn cael ei drethu na'i ystyried wrth gyfrifo unrhyw gap budd-daliadau neu ostyngiadau i'w credyd cynhwysol".

Mae yna "faterion ymarferol sylweddol y bydd angen eu datrys," meddai, gan gynnwys cael cytundeb Llywodraeth y DU i rannu data ynglŷn â phwy sy'n derbyn credyd cynhwysol ac am ba hyd.

Bydd angen cytundeb yr Adran Gwaith a Phensiynau a Chyllid a Thollau ei Mawrhydi ar gyfer hyn.

Mae'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Sioned Williams, wedi dweud wrth y Senedd bod trafodaethau wedi dechrau gyda Llywodraeth y DU " i archwilio'r berthynas yna rhwng y taliad a threthi a budd-daliadau".

Dywedodd y bydd hyn yn rhywbeth y bydd angen "edrych arno'n fanwl ac, wrth gwrs, hefyd i ddwyn pwysau ar Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol i wneud y peth iawn o ran plant Cymru".

Dywedodd y Gweinidog ei bod wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau ynglŷn â'r cynllun "cyn gynted ag y daethom i lywodraeth".

Methodd llywodraeth flaenorol Cymru â chael cytundeb o'r fath pan gyflwynwyd cynllun peilot incwm sylfaenol ar gyfer y rhai sy'n gadael gofal, ac fe gafodd yr arian yna ei drin fel incwm oedd yn cael ei drethu ac a fyddai'n effeithio ar fudd-daliadau.

Ond er bod gan lywodraeth yr Alban rai grymoedd dros fudd-daliadau, roedd rhaid iddyn nhw ddod i gytundeb tebyg gyda llywodraeth y DU cyn yr oedd yn bosib cyflwyni eu taliad plant eu hunain.

'Arf pwerus'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru "na ddylai unrhyw blentyn yng Nghymru dyfu i fyny mewn tlodi, ac mae'r dystiolaeth yn dangos mai cymorth ariannol uniongyrchol yw un o'r ffyrdd mwyaf effeithiol o helpu".

Yn ôl Steffan Evans o Sefydliad Bevan, byddai'r taliad "yn arf pwerus i fynd i'r afael â thlodi plant.

"Felly mae'n hanfodol bod Llywodraeth y DU yn cydweithio â Llywodraeth Cymru i sicrhau bod y cynllun peilot yn gweithio mor effeithiol â phosib fel y gellir gwneud cynnydd mawr wrth fynd i'r afael â thlodi plant yng Nghymru".

Mae Melanie Simmonds, Pennaeth Achub y Plant Cymru, wedi croesawu'r cynllun peilot gan ddweud bod tlodi yn "effeithio'n ddwfn" ar fywydau plant.

"Mae nid yn unig yn cyfyngu ar bethau hanfodol fel prydau maethlon a chartrefi cynnes, ond mae hefyd yn siapio perthnasoedd, cyfleoedd, dyheadau ac iechyd meddwl plant. Byddai Taliad Plant Cymru yn helpu i fynd i'r afael â hyn. A bydd buddsoddi mewn teuluoedd nawr yn golygu Cymru gryfach a thecach i bawb".

Mae llywodraeth y DU wedi derbyn cais am sylw ac mae Andy Burnham wedi cael ei ofyn am ei fwriad fel Prif Weinidog yn y dyfodol.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.