Y cynnig gofal plant: 'Beth yw'r costau a'r amserlen lawn?'

Bydd y cynnig gofal plant yn "rhoi'r dechrau gorau posibl mewn bywyd i bob plentyn" meddai Plaid Cymru
- Cyhoeddwyd
Bydd pwysau ar Lywodraeth Cymru i ddatgelu'r amserlen a chost lawn ar gyfer ei pholisi gofal plant blaenllaw yn y Senedd ddydd Mercher.
Mae Reform wedi cyflwyno pleidlais yn y Senedd yn galw am fwy o fanylion ynghylch sut mae'r Prif Weinidog Rhun ap Iorwerth yn bwriadu cyflwyno a thalu am ehangu ei ofal blynyddoedd cynnar i fabanod naw mis oed.
Gallai fod y tro cyntaf i Blaid Cymru golli pleidlais yn y Senedd, gyda disgwyl i'r gwrthbleidiau uno y tu ôl i'r alwad.
Dywedodd Plaid Cymru fod grŵp arbenigol wedi'i sefydlu i oruchwylio sut y bydd y cynllun yn cael ei gyflwyno'n raddol.

"Mae pobl Cymru yn haeddu cyflawniad, nid addewidion amwys," meddai Dan Thomas, arweinydd Reform yng Nghymru
Dywedodd arweinydd Reform yng Nghymru, Dan Thomas: "Cyn yr etholiad, honnodd Plaid Cymru dro ar ôl tro fod y polisi hwn wedi'i gostio'n llawn.
"Os felly y mae, ni ddylai fod unrhyw anhawster i gyhoeddi'r ffigyrau."
Ychwanegodd bod "pobl Cymru yn haeddu cyflawniad, nid addewidion amwys a chwestiynau heb eu hateb".
Mae ei blaid wedi cyflwyno cynnig i'w drafod ddydd Mercher yn galw "ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi'r costau a'r amserlen lawn ar gyfer cyflwyno eu cynnig gofal plant o fewn eu 100 diwrnod cyntaf yn y llywodraeth".
Pe bai gwelliant gan Lafur yn "cydnabod pwysigrwydd gofal plant o ansawdd uchel i wella cyfleoedd bywyd plant yng Nghymru" yn cael ei basio, y gred yw y gallai'r Senedd gytuno ar y cynnig gyda chefnogaeth Reform, y Torïaid, Llafur a'r Democrat Rhyddfrydol Jane Dodds.

Mae Plaid Cymru yn addo ehangu gofal plant i 20 awr yr wythnos am 48 wythnos y flwyddyn, i blant o naw mis oed i bedair oed
Enillodd Plaid Cymru etholiad 7 Mai gan addo ehangu gofal plant i 20 awr yr wythnos am 48 wythnos y flwyddyn, i blant o naw mis oed i bedair oed.
Hyd yn hyn, nid yw'r llywodraeth wedi gallu rhoi dyddiad penodol ar gyfer pryd y bydd y polisi gofal plant am ddim yn dechrau, er ei bod wedi addo cwblhau'r cyflwyniad cyn etholiad nesaf y Senedd yn 2030.
Credir y bydd y polisi'n costio £400m y flwyddyn erbyn diwedd tymor y senedd yn 2030.
Mae Plaid Cymru wedi wynebu beirniadaeth gan Lafur ac eraill nad yw wedi nodi'n fanwl beth fyddai'n ei dorri o gyllideb Llywodraeth Cymru i dalu amdano.

Credir y bydd y polisi'n costio £400m y flwyddyn erbyn diwedd tymor y senedd yn 2030
Dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru: "Teuluoedd yng Nghymru sy'n talu'r costau gofal plant uchaf yn y DU, ac maent wedi cael eu siomi gan Lafur a oedd yn fodlon gweld y sefyllfa honno'n parhau.
"Yn y cyfamser, nid oedd Reform yn ystyried gofal plant yn ddigon o flaenoriaeth i wneud un addewid maniffesto.
"Roedd ein cynllun 100 diwrnod yn cynnwys ymrwymiad i sefydlu grŵp arbenigol i nodi'r ddarpariaeth raddol o'n cynnig gofal plant estynedig.
"Mae'r grŵp hwnnw bellach ar waith a bydd yn gweithio ochr yn ochr â'r tasglu gofal plant i oruchwylio modelu cynnar a chyflwyno'r ehangu fesul cam, a fydd yn cael ei gyflawni'n gyflym - gan helpu i leihau costau i deuluoedd, cefnogi rhieni i gael gwaith, a rhoi'r dechrau gorau posibl mewn bywyd i bob plentyn."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Mai

- Cyhoeddwyd14 Ebrill

- Cyhoeddwyd27 Ebrill
