Arestio dyn ar ôl i bump gael eu cludo i ysbyty wedi gwrthdrawiad

Digwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A477 rhwng Llanteg a Rhos-goch
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 23 oed wedi cael ei arestio, yn dilyn gwrthdrawiad ffordd a wnaeth arwain at bump o bobl yn cael eu cludo i ysbyty.
Digwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A477 rhwng Llanteg a Rhos-goch yn Sir Benfro ar ddydd Sul 24 Mai am tua 17:00.
O'r pum person aeth i'r ysbyty, mae tri ohonyn nhw wedi dioddef anafiadau difrifol, yn ôl Heddlu Dyfed-Powys.
Roedd cerbydau Honda Civic i-VTEC llwyd a Kia Soul 2 gwyn yn rhan o'r digwyddiad ac mae'r dyn a gafodd ei arestio wedi cael ei gadw yn y ddalfa.
Mae'r llu yn annog unrhyw un oedd yn yr ardal yn ystod y digwyddiad, a welodd unrhyw beth neu sydd o bosib â deunydd camera, i gysylltu â nhw.