'Cyfle am ddechrau newydd' rhwng Llywodraeth Cymru a San Steffan

Andy Burnham yn rhoi araith ddydd Llun diwethaf yn amlinellu ei weledigaeth ar gyfer y DUFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae disgwyl, fel y mae pethau'n sefyll, mai Andy Burnham fydd yr unig ymgeisydd i olynu Syr Keir Starmer fel arweinydd y Blaid Lafur a Phrif Weinidog y DU

  • Cyhoeddwyd

Bydd arweinyddiaeth bosibl Andy Burnham yn cynnig "cyfle am ddechrau newydd" yn y berthynas rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, medd un o weinidogion y weinyddiaeth Plaid Cymru ym Mae Caerdydd.

Mewn cyfweliad â BBC Politics Wales, dywedodd y Gweinidog Cabinet dros Effeithiolrwydd Llywodraeth a'r Cyfansoddiad, Dafydd Trystan Davies, ei fod yn gobeithio y byddai Burnham yn gwrando ar alwadau am fwy o ddatganoli i Gymru.

Daw'r sylwadau wrth i AS newydd etholaeth Makerfield amlinellu cynlluniau i ddatganoli mwy o bwerau o San Steffan i'r rhanbarthau a'r cenhedloedd wrthi iddo baratoi i olynu Syr Keir Starmer fel arweinydd Llafur y DU.

Dywedodd Dr Davies fod Llywodraeth Cymru yn barod i gydweithio ag unrhyw lywodraeth newydd yn San Steffan i geisio sicrhau rhagor o bwerau i Gymru.

Dafydd Trystan DaviesFfynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Dr Dafydd Trystan Davies bod "cyfle go iawn i weithio mewn partneriaeth" yn sgil dyfodiad prif weinidog nesaf y DU

Dywedodd fod cynlluniau Burnham yn adlewyrchu ei brofiad fel cyn-faer Manceinion ac yn canolbwyntio'n bennaf ar lywodraeth leol yn Lloegr.

Ychwanegodd ei fod yn gobeithio y byddai lleisiau o Gymru a'r Alban yn gallu perswadio Burnham i gefnogi datganoli pellach i lywodraethau'r ddwy wlad.

"Mae cyfle go iawn i weithio mewn partneriaeth, cyfle am ddechrau newydd ar lefel y DU a dechrau newydd yn y berthynas gyda Llywodraeth Cymru."

Ychwanegodd nad oedd yn siŵr eto beth oedd "safbwynt 'Tîm Burnham' ar ddatganoli i Gymru a'r Alban", ond dywedodd fod Llywodraeth Cymru yn barod i weithio gyda nhw er mwyn sicrhau newid cadarnhaol.

Daeth Plaid Cymru i rym yng Nghymru ym mis Mai ar ôl trechu Llafur Cymru yn etholiadau'r Senedd am y tro cyntaf ers dros ugain mlynedd.

Ar ôl yr etholiad, dywedodd y Prif Weinidog, Rhun ap Iorwerth, ei fod yn gobeithio meithrin perthynas adeiladol â Llywodraeth y DU, er na chynhaliwyd cyfarfod arfaethedig rhwng y ddwy ochr ym mis Mehefin.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.