Cadw mast 4G ar fy nhir yn 'hunllef' ac yn costio miloedd medd ffermwr

Mae Alan Watson yn dweud bod y rhent y mae'n ei dderbyn i gael mast 4G ar ei dir wedi haneru o dan newidiadau i'r telerau
- Cyhoeddwyd
Mae ffermwr ym Mhowys yn dweud bod cael mast 4G ar ei dir wedi troi'n "hunllef", ar ôl i'r rhent y mae'n ei dderbyn haneru gyda'r ffioedd yn cyfateb i £5,000.
Mae Alan Watson o Lanbadarn Fynydd wedi bod â mast ar ei dir ers dros 20 mlynedd, ond mae'n honni bod ffermwyr wedi cael eu "bwlio" i dderbyn telerau gwaeth, oherwydd newidiadau cyfreithiol rhwng y cwmni telegyfathrebu a thirfeddianwyr.
Mae Undeb Amaethwyr Cymru (FUW) yn dweud eu bod yn bryderus y bydd y gostyngiad mewn taliadau rhent yn golygu y bydd pobl yn llai parod i gael mastiau ar eu tir, gan effeithio ar gysylltedd mewn ardaloedd gwledig.
Dywedodd adran Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA) Llywodraeth y DU bod eu newidiadau yn sicrhau bod tirfeddianwyr yn "cael eu trin yn deg wrth drafod gyda chwmnïau ffonau symudol".
'Brwydr Dafydd a Goliath'
Mae bron i chwarter Cymru â diffyg darpariaeth 4G gan bob un o'r rhwydweithiau ffonau symudol yn ôl rheoleiddiwr y diwydiant cyfathrebu, Ofcom, gan adael rhai cymunedau yn ddibynnol ar fastiau y mae ffermwyr a thirfeddianwyr yn cytuno i'w gosod ar eu tir.
Dywedodd Alan Watson iddo gael ei adael heb "unrhyw le i drafod" y rhent sy'n cael ei dalu iddo am ei dir, ac mae o'n rhybuddio ffermwyr sy'n cael eu temptio i gael mast i "beidio ar unrhyw gyfrif".
"Mae'n teimlo fel bod tirfeddianwyr yn ceisio gwneud eu rhan, ond yn cael eu bwlio i dderbyn telerau gwaeth, gan olygu na fydd pobl eisiau gwneud lle i'r isadeiledd sydd ei angen ar y wlad," meddai.
"Pan wnes i geisio cwblhau fy nghytundeb, fe gostiodd y broses dros £5,000 i fi."
Yn ganolog i'r anghydfod mae newidiadau i'r Côd Cyfathrebu Electronig yn 2017, sydd yn ymwneud â'r cytundebau rhwng y cwmnïau cyfathrebu a'r tirfeddianwyr.
Fe wnaeth y diwygiadau newid y ffordd y mae rhent yn cael ei gyfrifo, er mwyn ceisio lleihau costau darparu seilwaith ffonau symudol.
Ond yn ôl Mr Watson mae'n frwydr "Dafydd yn erbyn Goliath", ac mae'n dweud ei fod yn teimlo nad oes "unrhyw beth y gall ei wneud o dan y côd."
"Rydw i bob amser wedi bod yn hapus i wneud fy rhan i gefnogi gwell cysylltedd ffonau symudol yn fy ardal.
"Ond mae'r newidiadau i'r system wedi golygu bod fy rhent wedi haneru, o £5,000 i £2,500, tra bod delio gyda'r cwmnïau telegyfathrebu wedi troi'n hunllef."
Mae Mr Watson yn amcangyfrif ei fod wedi derbyn tua £55,000 cyn treth yn y cyfnod o dros ugain mlynedd y mae'r mast wedi bod ar ei dir, gyda'r dreth yn tynnu 40% oddi ar hynny.
Mae'n honni ei fod bellach wedi talu £10,000 mewn ffïoedd a chostau cyfreithiol wrth "ddelio gyda'r cwmnïau telegyfathrebu".

Mae bron i chwarter Cymru â diffyg darpariaeth 4G gan bob un o'r rhwydweithiau ffonau symudol yn ôl Ofcom
Ers i'r newidiadau gael eu cyflwyno, mae dros 1,000 o achosion o anghytuno dros isadeiledd telegyfathrebu wedi cyrraedd y llysoedd, o'i gymharu â 33 yn y 30 mlynedd blaenorol, yn ôl ymchwil gan y Social Market Foundation.
"Does dim sicrwydd y buaswn i'n ennill petawn i'n mynd â fy achos i'r llys", meddai Alan Watson.
"Mae'r ddeddf yn dweud y dylai trafodaethau gael eu cynnal, ac os nad ydi'r trafodaethau rheiny yn dwyn ffrwyth yna gall y cwmni fynd â chi i'r llys.
"Yr hyn mae'r cwmnïau yn ei wneud ydi peidio cael trafodaethau, mae'n mynd yn syth i'r llys."
Dywedodd Mr Watson ei fod yn bryderus y gallai cysylltedd drwy'r DU gael ei "leihau'n sylweddol" o ganlyniad i'r newidiadau.
"Pam fyddai perchennog tir eisiau rhentu darn o'u tir pan maen nhw'n cael prin unrhyw dâl amdano?"
Dywedodd hefyd nad oes unrhyw gorff y mae'n ymwybodol ohono, fel Ombudsman y gallai fynd ato am gefnogaeth - "rwy'n brwydro ar fy mhen fy hun", meddai.

Mae Alan Watson yn poeni y gallai cysylltedd drwy'r DU gael ei "leihau'n sylweddol" o ganlyniad i'r newidiadau i'r rhent ar gyfer cael mast ar dir
Mae wedi galw ar i Lywodraeth y DU ymyrryd, gan honni eu bod yn "ddall i'r hyn sy'n digwydd i dirfeddianwyr drwy'r wlad".
"Os ydyn nhw o ddifrif ynglŷn â gwella cysylltedd ffonau symudol, yna mae angen system sy'n annog cydweithredu rhwng tirfeddianwyr a chwmnïau, yn hytrach na'u gyrru ar wahân."
Mae Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru, dolen allanol wedi rhybuddio bod gostyngiad mewn rhent yn gwanhau'r cymhelliad i bobl roi lle ar gyfer mastiau, ac yn peryglu'r safleoedd presennol, gyda Chaerdydd ac Abertawe o dan bwysau gan dirfeddianwyr sy'n gwneud cais i roi'r gorau i ddarparu eu tir.
Dywedodd Tim Faire, cadeirydd pwyllgor Defnydd Tir a Newid Hinsawdd Undeb Amaethwyr Cymru:
"Mae ffermwyr ar draws Cymru wedi gwneud lle i fastiau am ddegawdau, gan helpu i gadw cysylltedd mewn cymunedau gwledig.
"Ond does dim posib disgwyl iddyn nhw barhau i wneud hynny tra bod rhent yn cael ei leihau, a thra bod dod i gytundeb yn mynd yn gynyddol gostus ac anodd."
"Ar adeg pan fo gormod o gymunedau gwledig yn dal i gael problemau gyda rhwydweithiau ffonau symudol, mae angen i ni gael fframwaith polisi sy'n trin ffermwyr yn deg, ac sy'n annog tirfeddianwyr a chwmnïau i weithio gyda'i gilydd, yn hytrach na'u gyrru nhw'n bellach ar wahân".
'Cael y cydbwysedd cywir'
Wrth ymateb dywedodd DEFRA eu bod yn cydnabod "rôl allweddol" tirfeddianwyr wrth gynnal cysylltedd digidol.
Ychwanegodd eu bod eisiau "cael y cydbwysedd cywir" rhwng anghenion y tirfeddianwyr ac anghenion cymunedau o ran cysylltedd.
"Mae ein newidiadau yn cefnogi'r uchelgais o gael darpariaeth 5G o safon i bob ardal erbyn 2030 ac yn sicrhau bod tirfeddianwyr yn cael eu trin yn deg wrth drafod gyda'r cwmnïau ffonau symudol."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon Perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Mehefin 2022

- Cyhoeddwyd22 Mehefin 2021

