Cyhuddo Reform o geisio dechrau ffrae am hil dros godi baner Pacistan

Baner PacistanFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Cyngor Caerdydd fod y faner wedi ei hedfan "fel rhan o arfer hirhoedlog i nodi dyddiadau ac achlysuron arwyddocaol"

  • Cyhoeddwyd

Mae Reform UK wedi cael eu cyhuddo o geisio dechrau ffrae am hil wedi i un o'u haelodau seneddol ymosod ar Gyngor Caerdydd am godi baner Pacistan dros gastell y brifddinas.

Dywedodd yr awdurdod lleol fod y faner wedi bod yno am ddeuddydd fis diwethaf i nodi diwrnod annibyniaeth y wlad.

Dywedodd Robert Jenrick, llefarydd y blaid ar yr economi yn San Steffan, ar gyfryngau cymdeithasol fod arddangos y faner yn "ymgais i ddominyddu ein diwylliant".

Yn ôl Natasha Asghar, aelod Ceidwadol yn Senedd Cymru, mae gweithredoedd o'r fath yn "dangos parch", ac nid yn enghraifft o "gymryd drosodd".

Dywedodd Reform Cymru na ddylai "unrhyw faner heblaw am y Ddraig Goch neu Faner yr Undeb hedfan dros ein hadeiladau hanesyddol".

Baner Pacistan yn chwifio dros Gastell CaerdyddFfynhonnell y llun, Peter Gillibrand
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y llun yma ei rannu'n wreiddiol gan newyddiadurwr y BBC ar 14 Awst, 2024 - diwrnod annibyniaeth Pacistan

Daeth sylw Jenrick ar Facebook yn dilyn nifer o sylwadau ar y pwnc gan ffigyrau a sylwebwyr asgell-dde ar X, gan gynnwys arweinydd Reform yn y Senedd, Dan Thomas.

Yn ogystal ag eleni, mae Castell Caerdydd wedi codi baner Pacistan yn y gorffennol hefyd.

Mae rhai o'r sylwadau ar-lein, gan gynnwys un Mr Thomas, yn defnyddio llun a gafodd ei bostio'n wreiddiol yn 2024 gan newyddiadurwr y BBC ar 14 Awst y flwyddyn honno - diwrnod annibyniaeth Pacistan.

Fe wnaeth cyfrif Jenrick rannu fideo o ddigwyddiad yng Nghastell Caerdydd, ble mae modd gweld rhai aelodau'r Senedd, a ble mae'r faner yn cael ei chodi.

Ysgrifennodd Mr Jenrick: "Mae gan Gastell Caerdydd fflag Pacistan yn hedfan drosti.

"Pam ydyn ni'n caniatáu'r ymgais yma i ddominyddu ein diwylliant? Rydyn ni'n gweld hyn nawr ymhobman.

"Rydw i wedi cael digon o faneri tramor yn cael eu codi dros ein hadeiladau hanesyddol.

"Dan lywodraeth Reform byddai'r ymostyngiad pathetig yma yn dod i ben a byddwn yn ailddatgan ein hunaniaeth genedlaethol."

Yn y gorffennol mae Reform Cymru wedi gwrthwynebu codi baner Wcráin y tu allan i'r Senedd ym Mae Caerdydd, gan nodi polisi tebyg.

'Ffordd o ddangos parch i'n gilydd'

Cafodd tad yr AS Ceidwadol Natasha Asghar, y diweddar Mohammad Asghar - a fu ei hun yn Aelod Senedd - ei fagu ym Mhacistan.

Dywedodd AS Casnewydd Islwyn: "Rydw i wedi mynychu sawl digwyddiad codi baneri i'r gymuned Indiaidd, diaspora Pacistan, y gymuned Bwylaidd, ac roedden nhw oll yn ddigwyddiadau gwych yn fy marn i, gyda nifer o bobl o wahanol safbwyntiau gwleidyddol yn mynychu.

"Rwy'n awgrymu'n gryf bod Reform yn mynd i'r digwyddiadau yma i weld sut mae integreiddio yn digwydd, a sut nad yw unrhyw gymuned yn cymryd drosodd mewn unrhyw ffordd - mae'n ffordd o ddangos parch i'n gilydd."

Pan gafodd ei holi am y sylwadau am "ddominyddu ein diwylliant", dywedodd Asghar ei bod "wedi cael digon o Reform yn ceisio dechrau ffrae am hil".

"Mae Reform yn nodi'r straeon bychan yma er mwyn tynnu sylw'r cyhoedd... [oddi wrth] straeon newyddion negyddol," ychwanegodd.

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville Roberts: "Yn dilyn cynhadledd ofnadwy, mae Robert Jenrick yn ymestyn tuag at hoff bwnc Reform i dynnu sylw - ysgogi rhaniadau a gobeithio bod neb yn sylwi ar y llanast yn ei blaid ei hun.

"Dyw hunaniaeth Gymreig ddim yn cael ei fygwth gan faner gwlad arall.

"Mae sefyll gyda gwleidydd sydd wedi brwydro dros eu rhyddid yn erbyn gorthrwm yn rhan o bwy ydyn ni.

"Dyw ein gwladgarwch ddim angen i eraill fod yn llai er mwyn i Gymru sefyll yn dal."

'Yr helynt yma wedi deillio o gamwybodaeth'

Dywedodd arweinydd Llafur Cyngor Caerdydd, Chris Weaver y bu "seremoni i godi'r faner ar 9 Awst, ac wedi hynny bu'r faner yn hedfan dros nos".

"Cafodd ei chodi hefyd ar 14 Awst i nodi diwrnod annibyniaeth Pacistan.

"Roedd yr achlysur yn gyfle i gydnabod a dathlu cyfraniad cymunedau Pacistanaidd i ddinas amrywiol ac amlddiwylliannol Caerdydd.

"Fe wnaethon ni'r un peth ar 15 Awst i nodi diwrnod annibyniaeth India."

Ychwanegodd fod y baneri wedi cael eu hedfan "fel rhan o arfer hirhoedlog y cyngor i nodi dyddiadau ac achlysuron arwyddocaol".

"Rydyn ni hefyd yn hedfan baneri Cymru a'r Deyrnas Unedig ar waliau'r castell, ac roedden nhw oll yno ar y diwrnod dan sylw.

"Fel un o adeiladau dinesig mwyaf amlwg yn ddinas, mae Castell Caerdydd yn darparu ffordd bwysig a gweladwy i brifddinas Cymru gydnabod achlysuron o bwys lleol, cenedlaethol, a rhyngwladol."

"Mae'r helynt yma wedi deillio o gamwybodaeth, ac mae'n amser i hynny stopio," meddai.

Roedd post X Dan Thomas ddydd Sul, oedd yn cynnwys llun o 2024, yn dweud: "Nawr mae Llafur yng Nghaerdydd yn hedfan baner Pacistan ar Gastell Caerdydd."

Doedd dim baner Pacistan i'w weld yno ddydd Llun. Dywedodd Castell Caerdydd y bu'n hedfan am un diwrnod, i nodi diwrnod annibyniaeth Pacistan.

Ar X, dywedodd cyn-arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd, Andrew RT Davies: "Wnaeth y castell hedfan y faner eleni? Os hynny, dyw hi ddim wir yn berthnasol a yw'n llun hen ai peidio. Y cwestiwn mwy perthnasol yw a ddylai'r cyngor fod yn hedfan y faner o gwbl."

Fe wnaeth BBC Cymru holi Reform pam bod Thomas wedi defnyddio llun o ddwy flynedd yn ôl, tra'n gwneud ei bwynt yn yr amser presennol.

Ni wnaeth Reform Cymru ymateb i'r pwynt yn eu datganiad.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.