Gwireddu breuddwyd tad wrth ail agor becws olaf tre'r Cofis

Y brodyr Radoslaw a Milosz Fabian
- Cyhoeddwyd
Mae brodyr o Wlad Pwyl wedi gwireddu breuddwyd eu tad drwy ailagor becws deuluol yng Nghaernarfon.
Fis Tachwedd 2024 roedd tristwch wrth i fecws olaf tre'r Cofis - Carlton - gau ei drysau ar ôl dros ganrif o bobi bara. Roedd y busnes wedi cael ei redeg gan yr un teulu ers 1922.
Ond nawr mae'r brodyr Fabian wedi ailsefydlu'r becws - ac fel teulu'r Roberts gynt, mae'r sgiliau a'r ryseitiau wedi eu pasio o un genhedlaeth i'r llall.
‘Da ni mewn sioc’: tristwch wrth i fecws olaf Caernarfon gau
- Cyhoeddwyd9 Tachwedd 2024
Fe gafodd Radoslaw Fabian ei fagu mewn ardal fynyddig ger Krakow, cyn i'w deulu symud i brifddinas gwlad Pwyl, Warsaw. Roedd ei dad, Rafal, yn bobydd.
"Roedd o'n bobydd artisan," eglurodd Radoslaw. "Mae'n rhaid i bob dim fod yn berffaith i Dad - os doedd un dorth ddim yn iawn fyddai o ddim yn ei werthu neu'n ei werthu'n rhatach.
"Roedd o'n bobydd am tua 40 mlynedd - mae bob dim 'da ni'n gwneud oherwydd fo."
Yn 2010, fe symudodd ei dad i Lundain cyn i weddill y teulu ymuno gydag o y flwyddyn ganlynol.

Rafal Fabian wrth ei waith yn 1994
Am gyfnod roedd Radoslaw yn gweithio fel cogydd yn y brif ddinas cyn i'r teulu symud i Gymru, gan fyw ym Methesda ac agor lle pizza yng Nghaergybi.
Wrth chwilio am leoliad i ehangu'r busnes fe welon nhw fod Carlton ar werth.
Bellach maen nhw wedi ail-agor drysau'r becws - ac yn gwneud surdoes sy'n defnyddio rysáit cychwynnwr (starter) gafodd ei roi i'r teulu yng Ngwlad Pwyl o gwmpas cyfnod yr Ail Ryfel Byd.

Mae arwydd y siop newydd, Fabian, yn debyg i un yr hen fecws Carlton
Mae dau o frodyr Radoslaw yn helpu gyda'r busnes, gan gynnwys Milosz - oedd tua 12 oed pan symudodd i Gymru, ac yn gyn-ddisgybl Ysgol Uwchradd Friars, Bangor.
Dyddiau Gwener a Sadwrn mae hynny'n golygu dod i mewn tua dau neu dri yn y bore, a tydi'r lle ddim yn cau tan 23:00 gan eu bod wedi dechrau gwneud pizzas gyda'r nos. Ar y diwrnod cynta' fe wnaethon nhw 100 pizza mewn tair awr.
"Ar y dechrau do'n i'm yn rili licio'r gwaith ond neshi ddod fewn idda fo," meddai Milosz. "Mae'n waith caled ond mae'n rhywbeth i fod yn falch ohono, ti'n gweld be' sy'n cael ei neud a ti'n gallu deud 'fi wnaeth hwnna i gyd o scratch'."
Mae cysylltiadau hanesyddol rhwng gogledd orllewin Cymru a Gwlad Pwyl, gan gynnwys hen wersyll Penrhos lle wnaeth nifer o Bwylwyr ymgartrefu ar ôl ffoi o'u gwlad yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Yno wnaeth rhieni'r brodyr fynd i ail-dyngu eu llw i ddathlu 30 mlynedd o briodas.

Un o deisennau Radoslaw, sy'n defnyddio rysáit ei fam
Meddai Radoslaw: "Mae ganddon ni gwsmeriaid sy'n dod yma ac yn dweud bod eu taid wedi bod yn gyn-filwr yng Ngwlad Pwyl a bod y teulu wedi symud yma.
"Becws arferol ydan ni sy'n gwneud beth mae'r gymuned yma eisiau yn ardal Caernarfon, ond mae'r gymuned Bwylaidd wedi clywed amdanom ni ac yn dod yma i gael eu bara hefyd.
"'Dan ni wedi symud yma ac eisiau bod yn rhan o'r gymuned ac wedi cael ein croesawu.
"Doedden ni erioed wedi disgwyl y croeso cynnes 'da ni wedi cael - mae pobl yma mor gyfeillgar ac yn cefnogi ni a'r busnesau lleol yn cefnogi ei gilydd.
"Dw i'n meddwl bod pobl yn ddiolchgar bod 'na fecws yn ôl yn y dref."
Ac mae un dyn penodol sydd hefyd yn ddiolchgar - eu tad, sydd ar hyn o bryd yn wael yn yr ysbyty.
"Ei freuddwyd o oedd i agor becws - tŷ bwyta oedd fy mreuddwyd i - felly roedd Dad yn falch iawn pan wnaethon ni agor fan yma," meddai Radoslaw.
"Fo ydy'r prif reswm dros ein llwyddiant."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Hydref 2025

- Cyhoeddwyd4 Rhagfyr 2023
