Cynnydd yn nhymheredd y môr 'yn peryglu cynefinoedd a morwellt'

Morwellt Porthdinllaen
Disgrifiad o’r llun,

Oddi ar arfordir Porthdinllaen mae gwely morwellt o blith y dwysau drwy Gymru

GanLiam Evans
Newyddion S4C
  • Cyhoeddwyd

Gallai cynefinoedd ar hyd arfordiroedd Cymru a phrosiectau morwellt fod mewn perygl o gael eu difrodi oherwydd cynnydd sylweddol yn nhymheredd y môr, yn ôl ymchwilwyr.

Ym mis Awst cafodd y tymheredd cyfartalog uchaf ar gofnod ei nodi ar gyfer arwyneb y môr ledled y byd, gydag arbenigwyr yn dweud fod hynny eisoes yn cael effaith yng Nghymru.

Yr El Nino sy'n datblygu dros y Cefnfor Tawel sy'n rhannol gyfrifol dros y cynnydd, ond mae ymchwilwyr yn dweud fod tymheredd moroedd Cymru wedi codi tua 2-3C dros y degawd diwethaf.

Mae disgwyl felly dros y blynyddoedd nesaf y gallai rhai rhywogaethau cynhenid adael arfordiroedd Cymru wrth i rywogaethau newydd gyrraedd.

Seren Harris
Disgrifiad o’r llun,

"Ni 'di gweld tymheredd mewn rhai ardaloedd dros 3C i be; 'sa ni'n ei ddisgwyl adeg yma'r flwyddyn," meddai Seren Harris

Oddi ar arfordir Porthdinllaen ym Mhen Llŷn mae gwely morwellt o blith y dwysaf drwy Gymru, sy'n gorchuddio ardal sy'n cyfateb i 40 cae pêl-droed.

Mae'n gynllun sydd wedi'i sefydlu gan ymchwilwyr ac yn feithrinfa i bysgod, yn amsugno carbon, ac yn hafan i fioamrywiaeth.

Ond yn ôl ymchwilwyr sy'n gwarchod y safle, mae'r cynnydd yn nhymheredd y môr yn golygu y gallai'r cynllun fod mewn perygl dros y blynyddoedd nesaf.

"Mae 'na gynnydd sylweddol 'di bod yn y 40 mlynedd diwethaf, ond yn enwedig yn y 10 mlynedd diwethaf," meddai Seren Harris, swyddog prosiect morol ACA.

"Ni 'di gweld tymheredd mewn rhai ardaloedd dros 3C i be' 'sa ni'n ei ddisgwyl adeg yma'r flwyddyn."

Morwellt
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cynnydd yn nhymheredd y môr yn golygu y gallai'r cynllun morwellt fod mewn perygl

Yn ôl Seren Harris mae'r cynllun morwellt yn un o bwysigrwydd cenedlaethol, ond wrth i dymheredd y môr godi fe allai ddifetha'r morwellt dros amser.

"Dydi o ddim yn licio tymereddau uchel felly yn anffodus os 'da ni'n gweld yr un cynnydd wrth symud 'mlaen, mi fydd o'n stryglo i addasu ac mi allen ni weld collapse yn y system," meddai.

Mae'r morwellt hefyd yn cynnig amddiffynfa i'r arfordir ac yn cynhyrchu ocsigen a hidlo dŵr.

Wedi haf o wres llethol a thannau gwyllt yng Nghymru, mae 'na rybudd hefyd fod anifeiliaid sy'n byw ar draws yr arfordir mewn perygl o un ai golli neu orfod cystadlu am eu cynefinoedd a bwyd.

Laura Hughes
Disgrifiad o’r llun,

Mae rhywogaethau newydd yn ymddangos wrth i'r môr o amgylch Cymru boethi, meddai Laura Hughes

Wrth i'r môr o amgylch Cymru boethi mae rhywogaethau newydd yn ymddangos, meddai Laura Hughes, cydlynydd arfordirol ardal cadwraeth Pen Llŷn a'r Sarnau.

"'Da ni wedi sylwi yn ddiweddar fod 'na fwy o ddolffiniaid cyffredin yn ymweld - 'da ni'n gweld llawer mwy o gwmpas Enlli nag oeddan ni 'chydig o flynyddoedd yn ôl," meddai.

"Mae'n debyg oherwydd bod nhw'n rhywogaethau sy'n hoffi dŵr cynhesach, ac maen nhw'n dechrau symud i mewn i'r ardal.

"Be' sy'n digwydd yw bod 'na fwy o gystadleuaeth i rywogaethau gwahanol – maen nhw am fod yn cystadlu dros yr un un bwyd ac o bosib fydd y llamhidydd wedyn yn cael ei wthio i'r gogledd tuag at y dyfroedd oerach."

Yn ôl arbenigwyr hinsawdd, mae disgwyl y bydd sgil effeithiau'r El Nino yn parhau ar foroedd y byd am fisoedd eto.

Ond mae'r tuedd yn dangos fod moroedd Cymru wedi bod yn poethi ers degawdau bellach.

Heb newid sylweddol felly mewn allyriadau carbon, mae'r ymchwilwyr sy'n gyfrifol am warchod prosiectau - fel yr un oddi ar arfordir Pen Llŷn - yn rhybuddio bod disgwyl y bydd arfordiroedd Cymru yn parhau i brofi sgil effeithiau'r cynnydd mewn tymheredd.

Maen nhw'n dweud bod y newid yma yn brawf o sut mae newid hinsawdd, ac El Nino sy'n digwydd ben arall y byd, yn cael effaith ar fywyd gwyllt yma.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.