'Blynyddoedd' cyn y bydd achosion yn cael eu clywed mewn tribiwnlys

FFlur
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cyfreithiwr cyflogaeth, Fflur Jones, yn rhybuddio y gall achosion gymryd blynyddoedd i gyrraedd tribiwnlys

GanEllis Roberts
Newyddion S4C
  • Cyhoeddwyd

Fe all fod yn flynyddoedd cyn y bydd achosion o ddiswyddo annheg yn cael eu clywed mewn tribiwnlysoedd – dyna rybudd cyfreithiwr amlwg ym maes cyflogaeth.

Mae Fflur Jones yn disgwyl mwy o achosion gan fod y gyfraith wedi newid yn ddiweddar, ac mae hi hefyd yn rhagweld mwy o oedi pan fo achosion yn gwneud defnydd o'r Gymraeg.

Mae Gwasanaeth y Tribiwnlysoedd yn dweud bod camau'n cael eu cymryd i gyflymu'r broses.

Daw'r rhybudd wrth i'r newid yn y gyfraith olygu y gall gweithwyr ddwyn achos o ddiswyddo annheg ar ôl chwe mis o waith, yn hytrach na dwy flynedd fel oedd yn ofynnol gynt.

'Gallu para blynyddoedd'

Mae Fflur Jones yn bartner rheoli gyda chwmni cyfreithwyr Darwin Gray.

Cyn i'r newid yn y gyfraith ddod i rym ym mis Rhagfyr y llynedd, roedd yn rhaid i rywun fod wedi bod mewn cyflogaeth am ddwy flynedd cyn gallu dwyn achos o'r fath.

"Mae'r achosion yma'n gallu para blynyddoedd," meddai.

"Yn Llundain ar hyn o bryd, maen nhw'n rhestru achosion i gael eu gwrando yn 2030, a dan ni yn 2026, jyst i roi enghraifft i chi.

"Yng Nghymru dydy'r sefyllfa ddim cweit mor ddrwg, ond dydy hi ddim yn wych chwaith.

"Mae'n rhaid i achosion ddigwydd mewn amser rhesymol oherwydd, os nad ydyn nhw, mae'r cof yn pallu, mae treigl amser yn golygu bod pobl yn symud ymlaen, mae'r foment yn pasio, ac dydyn nhw ddim yn cael mynediad at gyfiawnder."

LlysFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Mae galwad am gamau pellach i leihau'r oedi mewn tribiwnlysoedd cyflogaeth

Mae bron i chwarter canrif ers i un o'r achosion mwyaf adnabyddus yn hanes Cymru gael ei glywed yn y tribiwnlysoedd.

Enillodd 86 o weithwyr Friction Dynamics yng Nghaernarfon achos o ddiswyddo annheg, er na wnaethon nhw gael iawndal yn y pen draw.

Bu'n rhaid aros bron i flwyddyn a hanner cyn cynnal yr achos.

Prif dyst y gweithwyr ar y pryd oedd John Davies.

"Mae'r wybodaeth mae rhywun yn gorfod ei chael yn cymryd lot o amser, ac wrth gwrs mae 'na bwysa' wedyn ar y sawl sy'n disgwyl mynd i'r tribiwnlys.

"Lle oeddan ni'n lwcus oedd ein bod ni'n perthyn i'r undeb, ac roedd yr undeb yn gwneud y rhan fwya' o'r gwaith."

Gerald
Disgrifiad o’r llun,

Roedd tribiwnlys Friction Dynamics yn bwysau, medd Gerald Parry

Un arall o'r gweithwyr enillodd yr achos hwnnw oedd Gerald Parry.

"Oedd o'n stress," meddai. "Mae'n dibynnu ar yr unigolyn - sut oedd hi adra' efo'r plant a phetha' - individual oedd o 'de."

Yn Saesneg y cafodd tribiwnlys gweithwyr Friction Dynamics ei gynnal, gyda'r gwrandawiad yn Lerpwl a'r cyfreithwyr yn dod o Loegr.

'Gweld mwy o rwystredigaeth'

Mae gan bobl yr hawl i ddefnyddio'r Gymraeg mewn tribiwnlysoedd yng Nghymru, ond mae Fflur Jones yn rhybuddio y gall hynny arwain at fwy o oedi eto.

"O'n profiad ni fel firm, a 'da ni'n gwneud lot o waith drwy gyfrwng y Gymraeg, 'da ni'n gweld mwy o oedi a mwy o rwystredigaeth pan mae rhywun yn dod ag achos yn Gymraeg oherwydd nid yn unig falla' nad yw'r barnwr ar gael, ond yn aml mae angen cyfieithydd hefyd."

Mae'r cyn-farnwr Nic Parry hefyd yn ymwybodol o'r anawsterau all godi.

"Be sy'n ddiddorol ydy bod gan unigolion, o dan y ddeddf briodol, hawl i gael eu hachosion yn Gymraeg.

"Ond wrth gwrs, dydy cyfiawnder ddim wedi cael ei ddatganoli a dydy'r ddau beth ddim wedi'u plethu.

"Y gŵyn ydy nad ydy hi'n hawdd dwyn eich achos yn Gymraeg, a bod dod ag achos efo elfen o'r Gymraeg yn ychwanegu at yr oedi.

"Mae 'na apêl hefyd i well ystadegau gael eu cadw i weld yn union be' 'di dyfnder y broblem yna."

Mewn ymateb, dywedodd Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Fawrhydi eu bod yn ceisio cyflymu'r broses fod gwrandawiadau bellach yn digwydd ar fwy o ddyddiau, a mwy o farnwyr yn cael eu recriwtio ym maes cyflogaeth.

Bydd rhai o'r rheini'n dechrau ar y gwaith yn ystod yr haf, ac mae hyd at 150 o bobl hefyd yn cael eu recriwtio i wasanaethu ar bwyllgorau tribiwnlysau.

Ychwanegodd y gwasanaeth fod gan bobl yr hawl i ddefnyddio'r Gymraeg mewn tribiwnlysoedd yng Nghymru ers Deddf yr Iaith Gymraeg 1993, gyda barnwyr Cymraeg yn cael eu defnyddio lle bo modd.

Pynciau cysylltiedig