Prisiau disel yn taro eu lefel uchaf erioed ac yn 'dal i fynd fyny'

Mae prisiau disel bellach yn tua 199.18 ceiniog y litr
- Cyhoeddwyd
Mae prisiau disel wedi taro eu lefel uchaf erioed wrth i'r digwyddiadau yn y Dwyrain Canol barhau i effeithio ar y farchnad, yn ôl y sefydliad moduro, RAC.
Mae pris cyfartalog disel bellach yn 199.18 ceiniog y litr, o'i gymharu â'r record flaenorol o 199.09 ceiniog a gafodd ei osod ym Mehefin 2022.
Dywedodd RAC fod prisiau disel wedi cyrraedd lefel na welwyd o'r blaen a'i fod yn atgoffa rhywun o "ba mor agored i niwed ydy'r Deyrnas Unedig i ddigwyddiadau sy'n digwydd ymhell i ffwrdd".
Mae cost disel wedi codi 59 ceiniog, neu ychydig o dan 20%, ers i'r gwrthdaro rhwng America ac Iran ddechrau ym mis Chwefror.
Dywedodd Prys Jones o Garej Glasfryn, Ceir Cymru, yng Ngherrigydrudion fod pris disel yn "uchel iawn" ar hyn o bryd ac yn parhau i godi.

Fe rybuddiodd Prys Jones o Garej Glasfryn yng Ngherrigydrudion fod prinder disel yn debygol yn y dyfodol agos
Esboniodd Prys fod pris disel a phetrol yn ddrytach nag arfer yn y garej, gan fod disel yn 202.9c y litr a phetrol yn 179.9c.
"Ma' prisie' yn dal i godi - pan gafon ni'r llwyth dwytha' o ddisel mewn, o'dd o bron 10 ceiniog yn ddrytach na be' o'dd o'r wythnos gynt.
"Bydd 'ne brinder disel mewn 'chydig siŵr o fod, achos mae o'n brin be' bynnag a ma' lot ohono fo yn dod o lefydd fatha Rwsia - lle ma' rhyfel Wcráin yn amlwg yn stopio hwnnw a hefyd ma' gen ti'r rhyfel 'ma rhwng America ac Iran.
"Ond ma' rhaid 'fi ddeud, er bo' prisie' yn codi, 'den ni'n brysurach na 'den ni 'rioed 'di bod yn dal i fod," meddai Prys.
Rhybudd am ladrad tanwydd yng nghefn gwlad wrth i brisiau godi
- Cyhoeddwyd24 Mawrth
Bil tanwydd cwmni cludo yn codi £64,000 yr wythnos yn sgil rhyfel Iran
- Cyhoeddwyd19 Mawrth
Awgrymodd Prys eu bod yn brysurach yn ystod "gwylie' haf ofnadwy o brysur" o bosib gan fod "pobl yn gweld bo' prisie'n rhatach yng nghanol cefn gwlad nag ar motorways".
"Pobl ar eu gwylie' ac wrach bo' llai o bobl yn mynd dramor achos bo' prisie'n uchel."
Ar nodyn gwahanol ganddo, esboniodd fod prisiau tanwydd yn cael effaith ar werthiant ceir trydan.
"Achos bod yne fwy o alw am geir trydan 'ŵan, ma' gwerth rheiny'n mynd fyny. Dos 'nôl dwy flynedd a byse ti'n gallu cael car trydan eitha' da am o dan £15,000.
"Rŵan, fyse ti'n nes at £20,000."
'Mwy yn holi' am geir trydan
Ychwanegodd Prys nad oes cymaint o'u cwsmeriaid yn yr ardal yn prynu ceir trydan ar hyn o bryd.
"Ond ma' mwy yn holi amdanyn nhw," meddai.
"'Nathon ni werthu ambell un pan oedden nhw'n rhatach, ond mae 'ne lai yn prynu ochre' yma achos di'r seilwaith ddim cweit yno eto i redeg car letrig."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.