Gallai cynghorau Cymru wynebu diffyg o fwy na £272m yn 2027-28

Dywed Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru fod "cynghorau yn parhau i wynebu pwysau ariannol sylweddol"
- Cyhoeddwyd
Gallai pob cyngor yng Nghymru orfod codi'r dreth gyngor a gwneud rhagor o doriadau i wasanaethau'r flwyddyn nesaf wrth iddyn nhw wynebu diffygion yn eu cyllidebau.
Mae ffigyrau cyfredol yn awgrymu bod cynghorau yng Nghymru yn wynebu diffyg o fwy na £272m yn 2027-28, yn ôl dadansoddiad gan uned data arbenigol y BBC (BBC Shared Data Unit).
Dywedodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru fod "cynghorau yn parhau i wynebu pwysau ariannol sylweddol" ond y bydd "yr union sefyllfa yn dibynnu ar gyllidebau llywodraethau Cymru a'r DU yn y dyfodol".
Dywedodd Llywodraeth Cymru fod "pob awdurdod yn derbyn cynnydd o o leiaf 4% y flwyddyn ariannol hon" a bod cynghorau "yn cynllunio ar gyfer amrywiaeth o sefyllfaoedd ar hyn o bryd, a byddwn yn cyflwyno ein cynigion cyllideb yn yr hydref."
Yn ôl yr ymchwil, mae pob cyngor yng Nghymru yn disgwyl wynebu diffyg yn y gyllideb erbyn diwedd 2027-28.
Mae'r diffyg hwn yn cael ei ragweld er gwaethaf y ffaith bod cynghorau wedi gwneud arbedion gwerth cyfanswm o £132m eleni ac wedi codi'r dreth gyngor ar gyfartaledd o 4.9%.
Caerdydd sy'n wynebu'r diffyg mwyaf yn gyffredinol, sef bron i £43m, ond Conwy sy'n rhagweld y bwlch mwyaf fesul person, sef £200.
Mae bwlch yn y gyllideb yn golygu'r gwahaniaeth rhwng y swm o incwm y mae cyngor yn disgwyl ei dderbyn a'r swm y mae'n disgwyl ei wario.
Mae'n rhaid i gynghorau sicrhau bod y gyllideb yn cydbwyso drwy gynyddu refeniw, torri gwariant neu ddefnyddio cronfeydd wrth gefn.
'Pob cyngor ddim am godi'r dreth'
Dywedodd Anthony Hunt, arweinydd Cyngor Torfaen a phennaeth Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, fod cynghorau ar hyn o bryd yn cyfrifo gwariant ar gyfer y flwyddyn i ddod.
"Rydym yn amcangyfrif faint y credwn y bydd yn ei gostio i ni gynnal y gwasanaethau y mae angen i ni eu rhedeg fel cynghorau lleol, ac yn ceisio amcangyfrif hefyd faint o arian y credwn y bydd ei angen arnom i gynnal y gwasanaethau hynny."
Dywedodd y bydd cynghorau yn y misoedd nesaf yn "ceisio gweld beth allwn ei wneud i geisio pontio'r bwlch hwnnw", gan gynnwys lobïo "y llywodraeth ar bob lefel i geisio sicrhau bod gwasanaethau lleol yn cael yr arian sydd ei angen arnynt i weithredu".
Dywedodd Mr Hunt fod cynghorau yn ceisio dod o hyd i arbedion drwy ddulliau newydd.
"Mae cynghorwyr o bob plaid wleidyddol yn casáu gorfod gofyn am fwy o dreth," meddai.
Ond "os mai'r dewis arall yw diddymu gwasanaethau, yna mae'n benderfyniad anodd iawn i gynghorwyr ei wneud".

Addysg a gwasanaethau cymdeithasol yw gwariant mwyaf cynghorau
Addysg a gwasanaethau cymdeithasol yw gwariant mwyaf cynghorau, ac mae'r galw yn ystod y degawd diwethaf wedi codi'n sylweddol.
Rhybuddiodd Archwilydd Cyffredinol Cymru yn ddiweddar fod "costau uwch mewn meysydd fel gwasanaethau plant a darparu llety dros dro yn gwthio rhai cynghorau i'r pen yn ariannol".
Mae CLlLC wedi amcangyfrif eu bod wedi gwneud £3 biliwn o doriadau ers 2009-10 ac mae sawl man wedi colli gwasnaethau fel canolfannau hamdden a pharciau - gwasanaethau nad oes yn rhaid i gynghorau eu darparu.
Ar yr un pryd mae'r dreth gyngor yn cynyddu tra bod y gwasanaethau mae pobl yn eu derbyn yn lleihau.
Mae tua chwarter o gyllideb Llywodraeth Cymru yn cael ei rhoi i awdurdodau lleol ac ni fydd cynghorau'n gwybod beth maen nhw'n debygol o'i gael ar gyfer 2027-28 nes bod gweinidogion yn cyhoeddi'r gyllideb ddrafft ym mis Tachwedd.
Mae hynny'n golygu bod y ffigyrau ariannol sy'n cael eu rhagweld ar hyn o bryd ar gyfer pob cyngor yn debygol iawn o newid yn ddiweddarach yn y flwyddyn.
Treth y cyngor: Ystyried a ddylid bwrw ymlaen â newidiadau
- Cyhoeddwyd5 Mehefin
Rhai cynghorau yn 'agos iawn' at fynd i'r wal - Archwilydd Cyffredinol
- Cyhoeddwyd1 Rhagfyr 2025
Dywedodd CLlLC: "Heb ddigon o gyllid, bydd cynghorau'n wynebu penderfyniadau anoddach wrth iddyn nhw geisio gydbwyso eu cyllidebau tra'n amddiffyn y gwasanaethau y mae cymunedau'n dibynnu arnynt.
"Byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau eu bod yn deall faint o bwysau sydd ar gynghorau ac i sicrhau setliad ariannol cynaliadwy ar gyfer gwasanaethau lleol."
Dywedodd Llywodraeth Cymru fod y cynnydd o 4% (ar ei isaf) a dderbyniodd cynghorau eleni yn "helpu cynghorau i amddiffyn gwasanaethau ac yn ceisio cyfyngu ar faint mae'r dreth gyngor yn codi".
"Rydym wedi ymrwymo i adolygu fformiwla ariannu llywodraeth leol, gan weithio gyda llywodraeth leol, i adlewyrchu cost darparu gwasanaethau mewn gwahanol rannau o Gymru yn well," ychwanegodd llefarydd.

Mae sefyllfa ariannol awdurdodau lleol yn anodd ers sbel, medd Bryan Davies, arweinydd Cyngor Ceredigion a'r arbenigwr llywodraeth leol Dr Marlene Davies, a hynny oherwydd amryw o ffactorau
Ar raglen Dros Frecwast, dywedodd arweinydd Plaid Cymru Cyngor Ceredigion, Bryan Davies bod sefyllfa eleni "ddim yn wahanol i unrhyw flwyddyn arall... fel awdurdod gwledig ni'n gweld ein hunen ar waelod y rhestr amser mae'n dod i'r gyllideb".
Mae'r opsiynau posib o ran gwneud arbedion "yn brin iawn", meddai, i gynghorau lleol sy'n gorfod cydbwyso'u cyllidebau bob blwyddyn, yn wahanol i'r maes iechyd ble mae gorwario'n digwydd gyda'r llywodraeth yn ariannu'r diffyg - system, meddai, sy'n "gwobrwyo methiant".
Er bod lle i ddefyddio deallusrwydd artiffisial i dorri costau, dyw'r cyngor, meddai, ddim yn awyddus i wneud "gormod o ran hynny", fel cyflogwr "dros 3,000 o bobl yng Ngheredigion [lle] mae yna deuluoedd cyfan yn dibynnu arno ni", ond mae'r cyngor yn "edrych ar ranbartholi gwasanaethau" gan gydweithio gyda Chynghorau Powys a Sir Gâr.
Yn ôl yr arbenigwr llywodraeth leol, Dr Marlene Davies o Brifysgol De Cymru, mae diffyg arian yn y setliad blynyddol i dalu am yr holl wasanaethau y mae disgwyl i gynghorau sir eu darparu yn "ben tost ers 15 mlynedd".
Gan fod y gwasanaethau mwyaf costus yn rhai statudol, y canlyniad, meddai, yw "bod pethe fel pylle nofio neu llyfrgelloedd yn cael eu towli naill ochor [ac] maen nhw'n gorfod edrych ar ffyrdd er'ill o roi'r gwasanaethau yna".
"Os y'ch chi'n codi'r treth cyngor, ma' pobol yn gweud 'beth fi'n ca'l am y codiad yma?' Ac yn anffodus dy'n nhw'm yn cael dim mwy."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.