'Ella un tymor arall' i'r Queen of the Sea wedi 42 mlynedd ar y Fenai

Mae Emrys Jones wedi bod yn cynnal teithiau ar y Queen of the Sea am 42 mlynedd
- Cyhoeddwyd
Mae gweld y cwch pleser 'Queen of the Sea' yn ymuno â'r Fenai o afon Seiont yn olygfa gyfarwydd yng Nghaernarfon.
Mae wedi bod yn cynnal teithiau o'r dref ar draws y Fenai ac at Ynys Llanddwyn ers 42 mlynedd ac mae'r cysylltiadau â'r dref yn mynd yn ôl hyd yn oed ymhellach.
Tu ôl i'r llyw ers y dechrau mae Emrys Jones sy'n wyneb cyfarwydd i bobl y dref. Ef yw'r chweched genhedlaeth o beilotiaid cychod yn ei deulu,
Ond ar ôl bron i 90 mlynedd ers y daith gyntaf, yn mynd a phobl yn ôl ac ymlaen o ddinas Efrog Newydd i Long Island yn yr UDA, mae taith Queen of the Sea ar y Fenai ar fin dod i ben.
Os nad eleni bydd y teithiau yn dod i ben y flwyddyn nesaf, yn ôl Emrys.

Y Queen of the Sea yng nghei Caernarfon, lle mae'r daith yn cychwyn
Dywedodd Emrys, sy'n 76 oed ac wedi byw yng Nghaernarfon gydol ei oes, ei fod wedi prynu'r cwch yn Plymouth yn 1984 heb sylwi ei fod wedi hwylio'r Fenai yn barod - a hynny gan ei dad.
Cafodd y cwch ei adeiladu yn 1937 ar gyfer Stein Ferries a oedd yn cynnal teithiau rhwng Long Island a Fire Island yn Efrog Newydd o dan yr enw Wayfarer II.
Fe wnaeth Llywodraeth y DU brynu'r cwch yn 1941a chafodd ei drosglwyddo i Gaergybi yn 1942 lle cafodd ei ailenwi yn HMS Macaw.
Yn dilyn hynny, cafodd y cwch ei brynu gan deulu Emrys Jones yn 1945 i'w defnyddio ar gyfer teithiau ar y Fenai - tebyg i'r rhai sy'n cael ei gynnal heddiw. c
Erbyn i Emrys ddod â'r cwch yn ôl i Gaernarfon, roedd wedi bod yn Y Rhyl, gogledd yr Alban, Falmouth a Plymouth.
"Wnes i'm ffeindio allan am ryw 10 mlynedd wedyn tan i ddyn o Stein Ferries, a oedd yn chwilio am rai o hen gychod y cwmni i farcio'i ganmlwyddiant, gysylltu," meddai.
"Roedd wedi newid ei henw dipyn o weithiau erbyn iddi ddod 'nôl i Gaernarfon - Royal Princess oedd hi yn Rhyl a wedyn Queen of the Fal yn Falmouth - ac erbyn i fi brynu hi yr enw oedd Queen of the Sea.
"Pan es i â hi i fyny wnaeth fy yncl ddeud 'dwi'n siŵr mai'r hen Wayfarer 'di hwn' a wnaeth yr hen go' ddeud 'na, oedd y Wayfarer mewn well condition na hyn' a wnaeth fy yncl ddeud 'odd a chitha fyd 35 years yn ôl' - a troi allan oedd o'n iawn."

Y Queen of the Sea yn gadael am y Fenai - golygfa gyfarwydd yng Nghaernarfon dros yr haf
Bydd teithiau'r Queen of the Sea yn dod i ben ar ddiwedd y tymor ym mis Hydref, neu ar ôl yr un nesaf, meddai Emrys.
Dywedodd ei fod yn cymryd "dipyn o waith" i gael y cwch yn barod ar gyfer y tymor teithiau, sydd fel arfer yn rhedeg o fis Gorffennaf tan fis Hydref, gyda'r gwaith cynnal a chadw yn ogystal â'r holl waith papur.
"Dwi wrth fy modd yn 'neud y teithia. Y gwaith caled dros y gaea' a'r paratoi sy'n cymryd tua tri mis sy'n mynd yn anodd - o'n i'm yn meindio hynna pan o'n i'n fengach," meddai.
Dywedodd fod yr ymateb y mae wedi'i gael ar ôl cyhoeddi bod y teithiau'n dod i ben yn "anhygoel" a'i fod yn "ddiolchgar iawn i bawb am eu cefnogaeth".
"Mae 'na lwythi o bobl yn deud 'fedrwch chi'm gorffen' ond fedrai'm cario 'mlaen am byth ia," meddai.
"Mae'r gwch yn 90 blwyddyn nesa so swn i'n licio neud un tymor arall ond gawn ni weld sut eith hi dros y gaea' - ella un arall.
"Da ni di bod reit hapus efo sut mae pethau 'di mynd yn y ddwy flynedd diwetha' yn enwedig a ma'n rhaid diolch i'r bobl am hynna, da ni'n cael cefnogaeth ofnadwy o dda. Mae'n codi dy ysbryd di."

Mae teithiau'r Queen of the Sea yn mynd at Bont y Borth ac Ynys Llanddwyn
Dywedodd Emrys fod "bod ar y môr yn fy ngwaed i" a'i fod yn teimlo'n ffodus i allu gwneud bywoliaeth o deithio ar y Fenai.
"Mae'r teulu wedi bod ar y Fenai am y 200 mlynedd diwethaf, da ni'n saith genhedlaeth o beilots ac mae'r gwch yma 'di bod yn fywoliaeth i ni ers dros 40 mlynedd," meddai.
"Dwi di bod ar y Fenai ers y 60au ac ar gwch trwy fy oes - dyna'r cwbl dwi'n ei wybod. Mae o'n le sbeshal i fi."
Bydd y daith olaf, boed eleni neu'r flwyddyn nesaf, yn un emosiynol, meddai Emrys, sy'n awyddus i ohirio'r dyddiad am gyfnod cyn hired â phosib.
"Dwi'n dreadio pan ma'n dŵad rili. Mae o am ddod un diwrnod ond fyddai ar y môr tan mae'r iechyd genna fi," ychwanegodd.
"Allai'm deud yn union be ydi o amdana fo, dwi just yn mwynhau neud o. Dyma dwi 'di neud erioed a ma'n blesar - ambell i ddiwrnod 'di o ddim mor bleserus, ond pan mae'n braf neis a da ni'n gweld y dolphins - dim otch faint o aml ti'n gweld nhw mae'n sbeshal."

"Allai'm deud yn union be ydio amdana fo, dwi just yn mwynhau neud o," meddai Emrys am fod ar y môr
O ran dyfodol y Queen of the Sea ar ôl i'r teithiau ddod i ben, dywedodd Emrys ei fod am geisio ei gwerthu "os fydd rhywun yn fodlon ei phrynu hi".
"Os ti methu neud lot o'r gwaith dy hun ma'n mynd yn ddrud wedyn i gael pobl i mewn i weithio arni," meddai.
"Mae rhaid i chdi gael y cyfleusterau hefyd fel gen i hefo'r hen weithdy dros aber - sy'n stori arall yn ei hun."
Ond cyn i'r Queen of the Sea adael am y daith olaf ar y Fenai, mae Emrys yn gobeithio y bydd cyfle i un grŵp o bobl yn enwedig i weld y cwch.
"Ar ôl i ni gyhoeddi bo ni'n meddwl darfod, 'naeth great-grandson hen skipper y Wayfarer gysylltu i ddeud fod o a'i deulu yn dod drosodd o America ym mis Medi i weld y cwch cyn y daith ola'.
"Roedd ei dad a'i daid wedi meddwl gwneud yr un peth cyn i nhw farw ond gaethon nhw ddim y cyfla yn anffodus achos oedden nhw mewn oed.
"Mae gymaint o hanes i'r cwch - yn dre, ond hefyd mewn llefydd eraill ac ar draws yr Iwerydd. Mae hi di gweld dipyn yn ei hoes."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.