Teyrnged i dad 'unigryw ac annwyl' fu farw wedi gwrthdrawiad

Bu farw Craig Assirati wedi gwrthdrawiad ar yr A472 nos Sadwrn
- Cyhoeddwyd
Mae teulu "tad annwyl" ac "unigolyn hyfryd" fu farw yn dilyn gwrthdrawiad car dros y penwythnos wedi rhoi teyrnged iddo.
Cafodd Heddlu Gwent eu galw am 18:15 ddydd Sadwrn i Ffordd Hafodyrynys, sydd ar yr A472 rhwng pentref Crymlyn a thref Pont-y-pŵl, i wrthdrawiad rhwng Audi A5 a Volkswagen ID5.
Bu farw Craig 'Boney' Assirati, 43, a oedd yn deithiwr mewn un o'r ceir, yn y fan a'r lle, meddai'r heddlu.
Wrth roi teyrnged iddo, dywedodd ei deulu ei fod yn "unigolyn hyfryd, enaid pob parti. Roedd yn unigryw a digyfaddawd."
"Roedd yn byw bywyd i'r eithaf - o fod yn ŵr, tad a mab annwyl, yn frawd i Brett a Dane i fod yn ewythr llawn hwyl, ffrind, a phopeth arall," medden nhw.
"Roedd yn caru ei deulu a'i ffrindiau yn fawr a byddai yno ar unwaith i unrhyw un oedd ei angen."
Ychwanegodd ei deulu: "Roedd yn frwd iawn am feiciau, cwadiau, ceir, unrhyw beth gydag olwynion, a gwyliau llawn antur.
"Byddai'n barod i wneud unrhyw weithgaredd y gallwch chi feddwl amdani. Roedd yn byw bywyd yn llawn brwdfrydedd ac yn gwneud y mwyaf o bob eiliad.
"Ein cnaf bach annwyl, person diffuant, gofalgar a charedig y bydd colled ar ei ôl gan bawb. Ry'n ni'n dy garu di cymaint, ein Peter Pan ni."
Mae'r heddlu yn awyddus i glywed gan unrhyw un a welodd y ddau gerbyd yn teithio yn yr ardal cyn y gwrthdrawiad, neu sydd â deunydd fideo perthnasol.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.