'Mwy o bwysau' ar gynorthwywyr dysgu ond 'dim tâl i helpu'

Protestwyr yn Ystrad Mynach
GanAnnell Dyfri
BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae staff cymorth ysgolion yn dweud eu bod "wedi blino" wrth orfod delio â phwysau cynyddol i "weithio mwy", heb dderbyn tâl am waith ychwanegol.

Ar hyn o bryd, dyw cynorthwywyr dysgu ond yn derbyn cyflog am eu gwaith yn ystod y tymor – sef 32 wythnos o'r flwyddyn, yn hytrach na thâl am 52 wythnos.

Bu degau o gynorthwywyr dysgu a staff ysgolion yn protestio fore Iau er mwyn galw am gyflogau uwch a "mwy o gydnabyddiaeth", a hynny wrth i ddeiseb undeb Unison Cymru ddenu bron i 16,000 o lofnodion.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn "ystyried a ddylem gyflwyno cynigion deddfwriaethol neu newidiadau posibl nad ydynt yn statudol".

Disgrifiad,

Staff cymorth ysgolion yn galw am dâl uwch wrth "weithio mwy"

Fe ddaeth tua 40 o bobl ynghyd yng Nghaerffili fore Iau er mwyn tynnu sylw at y mater, ac roedd Angharad King yn eu plith.

"Dwi'n gwybod bod cwpwl o ysgolion yn brin o staff oherwydd eu bod yn mynd i weithio i lefydd eraill ond mae lot o bobl yn caru'r gwaith a beth maen nhw'n gwneud. Ni'n helpu plant bach i dyfu," meddai.

"Mae'n anodd achos mae lot o newidiadau yn digwydd gyda'r athrawon i gyd... Ma' lot mwy o bwysau arnom ni i weithio mwy ond does dim tâl i helpu ni gyda hwnna."

Angharad King
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Angharad King fod nifer o gynorthwywyr dysgu yn mynd mewn i'r gwaith yn ystod cyfnodau o wyliau

Yn ôl ystadegau gan Lywodraeth Cymru, roedd 29,070 o weithwyr cefnogi yn cael eu cyflogi mewn ysgolion yn Nhachwedd 2025.

Mae hynny'n cynnwys 14,370 o gynorthwywyr dysgu, 1,820 gynorthwywyr dysgu lefel uwch a 3,040 o staff cymorth ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol.

Mae'r gweithlu ehangach hefyd yn cynnwys staff gweinyddol, technegwyr a rolau eraill nad ydynt yn ymwneud ag addysgu.

Roedd bron i 90% o staff cymorth ysgol yn fenywod.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ym mis Mawrth y byddai hyd at 3,350 o gynorthwywyr dysgu lefel un yn derbyn codiad cyflog o hyd at £1,350 wrth i'w rolau symud i lefel dau o fis Medi 2026 ymlaen.

'Ni'n gweithio drwy'r flwyddyn i gyd'

Ychwanegodd Ms King fod y criw eisiau gweld "mwy o gydnabyddiaeth" am y gwaith y maen nhw'n ei wneud hefyd.

"Ni yma heddiw yn ystod hanner tymor i adael pawb wybod bo' ni yn gweithio drwy'r tymor i gyd a'r flwyddyn i gyd, nid jyst yn y tymor ysgol," esboniodd.

"Dydyn ni ddim yn gorffen am 15:00 a trwy'r chwe wythnos bant ni dal yn dod mewn, ma' dal pethau i'w gwneud."

Er ei bod yn cydnabod mai gwaith yr athrawon yw cynllunio, dywedodd eu bod yn aml yn gorfod addasu'r deunyddiau.

"Ni wir wedi blino ar y sefyllfa, mae'n anodd mynd adref a gadael gwaith chi yna a dwi'n gwybod ma' lot o swyddi lle chi'n gallu gorffen am 15:00, mynd adref a ddim poeni. Ond mae lot o bethau, dim jyst 09:00 tan 15:00 ni'n gweithio."

Hannah Richards
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Hannah Richards, mae pwysau'r gwaith yn gallu cael effaith ar fywyd teuluol hefyd

Un arall sydd wedi cael digon ar y sefyllfa bresennol ydy Hannah Richards.

Daeth i brotestio am fod ganddi "ddau o blant a dyw gofal plant ddim yn dod i ben pan mae'r ysgol yn dod i ben".

“Mae nifer o fy nghydweithwyr yn gweithio ail swydd a dwi'n gweld yr effaith y mae hynny yn ei gael ar amser teulu," meddai.

"Mae'n rhwystredig achos mae athrawon yn amlwg yn derbyn tâl am 52 wythnos, ac yn bersonol dwi'n gweithio y tu hwnt i'r oriau ysgol.

"Mae'r pwysau meddyliol hefyd o bethau sy'n digwydd yn ystod y dydd, ti ddim yn switsh i ffwrdd am 15:30."

Protestwyr

Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast, dywedodd Merlin Gable, trefnydd rhanbarthol Unison Cymru, fod staff cymorth yn chwarae rhan hanfodol yn ysgolion Cymru, gan "helpu plant i ddysgu a chefnogi disgyblion ag anghenion ychwanegol".

"Mae staff cymorth addysgu, y glanhawyr a staff yn y swyddfa yn cadw eu hysgolion i fynd," meddai.

Ond dywedodd fod y trefniadau cyflog presennol yn rhoi llawer o weithwyr dan bwysau ariannol.

Dywedodd bod un o bob chwech o staff cymorth wedi dweud wrth yr undeb eu bod wedi defnyddio banc bwyd, gan gynnwys banc bwyd a sefydlwyd yn benodol ar gyfer staff cymorth mewn ysgolion yn 2023.

Nododd hefyd fod un o bob tri wedi dweud bod angen iddynt gael ail neu drydedd swydd er mwyn gallu talu eu biliau.

Ysgolion 'ddim yn gallu gweithredu heb staff cymorth'

"Dyw e ddim yn dda i'r plant i gael staff cymorth sy'n poeni am sut i dalu eu biliau, sut i gadw eu tai," meddai Mr Gable.

"Mae'n gwestiwn o beth sy'n deg hefyd - mae athrawon yn cael eu talu dros y flwyddyn i gyd, ac i staff cymorth, mae'r sefyllfa'n wahanol.

"'Dan ni'n meddwl mae'n amser i newid hyn a thalu'r staff cymorth dros y flwyddyn i gyd jyst fel yr athrawon."

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn cydnabod "y rôl hollbwysig" sydd gan staff cymorth ysgolion yn y system addysg a'u bod yn ddiolchgar am eu gwaith.

Dywedodd llefarydd fod "cyflog ac amodau staff cymorth ysgolion yn gyfrifoldeb i awdurdodau lleol" ar hyn o bryd, ond bod y llywodraeth yn "ystyried a ddylem gyflwyno cynigion deddfwriaethol neu newidiadau posibl nad ydynt yn statudol".

"Byddwn yn gweithio gyda'n partneriaid cymdeithasol i archwilio'r holl opsiynau cyn penderfynu ar y ffordd orau ymlaen."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig