Cyhoeddi enw prifwyl 2027

- Cyhoeddwyd
Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn Meirionnydd fydd enw swyddogol y brifwyl y flwyddyn nesaf.
Cyhoeddodd y cyflwynydd Aled Hughes yr enw ar Radio Cymru yn dilyn cystadleuaeth gan ei raglen a Phwyllgor Gwaith Eisteddfod 2027 i ddewis enw.
Derbyniwyd dros 250 o geisiadau amrywiol fel rhan o'r gystadleuaeth, a bu'n dipyn o waith i ddewis rhestr fer o'r holl geisiadau ddaeth i law.
Yn y pendraw, Maldwyn Meirionnydd aeth â hi, gan ei fod yn syml ac yn disgrifio rhan helaeth o'r dalgylch.
Meddai Is-gadeirydd Strategol y Pwyllgor Gwaith, Heulwen Davies, "Rydyn ni'n edrych ymlaen at groesawu pawb i Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn Meirionnydd y flwyddyn nesaf!
"'Doedd dewis enw ar gyfer yr ŵyl ddim yn hawdd, ac rydyn ni'n ddiolchgar i bawb am eu holl awgrymiadau. Roedd 'na rai enwau hynod o greadigol, ond doedden nhw ddim yn gweithio fel enw i'r ŵyl, ac eraill yn hyfryd ond yn rhy blwyfol, a ddim yn adlewyrchu'r dalgylch.
"Felly, ar ôl cryn drafod, cytunwyd ar Eisteddfod Maldwyn Meirionnydd, yn y gobaith y bydd pawb yn gwybod yn syth ble mae'r Eisteddfod am gael ei chynnal y flwyddyn nesaf! Diolch i bawb am ymgeisio, a llongyfarchiadau mawr i'r enillwyr."
Cafodd yr enw buddugol ei gynnig gan ddau berson, Arwel Jones a Nest Evans, a bydd y ddau'n derbyn tocyn wythnos i Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn Meirionnydd y flwyddyn nesaf.
Cynhelir seremoni Cyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn Meirionnydd yn Llanidloes am 15:00 ddydd Sadwrn 9 Mai, yn dilyn gorymdaith Orseddol a chymunedol drwy'r dref a fydd yn cychwyn o Ysgol Uwchradd Llanidloes am 14:00.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd11 Awst 2025

- Cyhoeddwyd11 Awst 2025

- Cyhoeddwyd6 Awst 2025
