Tanau'r Rhondda yn 'gwbl frawychus' a phedwar yn cael eu harestio

Y tân yng Nglynrhedynog yn y Rhondda
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu'r De yn parhau i ymchwilio i dân a gredir o fod wedi cael ei gynnau'n fwriadol ym Mhorth yn sir Rhondda Cynon Taf.
Mae pedwar bachgen, 14 oed, wedi cael eu harestio ar amheuaeth o gynnau'r tân a bellach ar fechnïaeth tra bod ymchwiliad yr heddlu yn parhau.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Steve Jones: "Mae digwyddiadau fel y rhain yn heriol i gymunedau - maen nhw'n gallu cael effaith ar iechyd pobl, yn fygythiad i fywyd gwyllt a gan bod y gwasanaethau brys yn gorfod delio â'r tân dydyn nhw ddim ar gael i bobl anghenus eraill.
"Mae cynnau tanau yn fwriadol yn drosedd ac os ydych yn amau bod rhywun yn gwneud hynny cysylltwch â ni."
Rhybudd brys am 'berygl difrifol' o dân a'r fyddin yn cael eu galw
- Cyhoeddwyd9 awr yn ôl
Ar raglen Dros Frecwast fore Sadwrn dywedodd Dafydd Rogers, sy'n byw yn Nhrealaw yn y Rhondda Fawr, fod y tân gerllaw wedi symud yn frawychus o gyflym.
"Roedd hi'n bosib gweld y tân yn datblygu'n gyflym iawn. Roedd cyflymder y tân yn symud yn arswydus," meddai.
"Mae pobl yn wirioneddol yn pryderu, ac ar ôl y neges destun neithiwr - y rhybudd dros y wlad - dwi'n meddwl bod pobl yn wirioneddol ofni."
Gan gyfeirio at brofiad ei ferch, ychwanegodd: "Daeth y tân wythnos diwethaf o fewn rhyw ddeg llath i wal gefn y tŷ. A ma' hi'n gofyn i fi 'Sut alla i warchod y tŷ? Beth alla i wneud?' Ond does dim llawer allwch chi wneud, felly mae'n rhaid i bobl fod yn ofalus iawn."
Wrth ddisgrifio'r hyn a welodd wrth deithio drwy Gwm Rhondda Fach, dywedodd: "Es i lawr drwy Gwm Rhondda Fach. Roedd tân mawr yn llosgi uwchben Glynrhedynog, roedd yna dân uwchben Penrhys, ac roedd yna dri thân pan aethon ni lawr i'r Porth."
Ychwanegodd fod maint y difrod yn dod yn fwy amlwg ar ôl i'r fflamau ddiffodd:"Dim ond nawr, ar ôl i'r tanau gael eu diffodd a'r mynyddoedd yn mygu o hyd rydych chi'n gweld maint y tân oherwydd mae'r mynyddoedd i gyd yn ddu."

Mewn neges a gafodd ei gyrru i bob ffôn symudol ar draws Cymru a Lloegr nos Wener dywedodd Llywodraeth y DU "na ddylai trigolion, tirfeddianwyr nac ymwelwyr ymgymryd ag unrhyw weithgaredd a allai achosi tân".
Mae hyn yn cynnwys "barbeciwiau tafladwy, pyllau tân, llosgyddion gardd neu dân gwyllt".
Ychwanegodd y neges: "Gall hyd yn oed fflam fach ddatblygu'n gyflym yn dân gwyllt mawr, gan beryglu bywydau, cartrefi, busnesau ac ymatebwyr brys."
Mae manwerthwyr hefyd wedi cael gwybod bod yn rhaid iddyn nhw roi barbeciwiau tafladwy o'r neilltu ar unwaith gan beidio â'u gwerthu am y tro.

Hofrennydd y fyddin yng Ngwmafon yn Sir Torfaen ddydd Sadwrn
Yn y cyfamser, mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru wedi gofyn am gymorth milwrol i helpu gyda'r ymateb.
Cadarnhaodd Llywodraeth Cymru ddydd Gwener eu bod wedi cytuno i hyn ac yn "hynod ddiolchgar i'r fyddin am ddarparu'r gefnogaeth ychwanegol".
Dywedodd Stephen Kinnock, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, fod personél milwrol wedi cael eu defnyddio ar gyfer cymorth ymarferol ac i helpu i "leihau'r pwysau".
Fore Sadwrn dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Torfaen bod y fyddin, offer milwrol a hofrennydd yn cael eu defnyddio i ddiffodd tân mawr yng Nghwmafon.
"Os gwelwch yn dda peidiwch â hedfan dronau gan fod hynny yn amharu ar hediad yr hofrennydd a drôn y gwasanaeth tân," ychwanegodd y llefarydd.
Fe ddiolchodd hefyd am y cymorth milwrol a gwasanaeth y diffoddwyr tân gan ychwanegu bod cymorth ffermwyr a thrigolion lleol wedi bod yn gwbl hanfodol.

Y tân yn Rhandirmwyn ddydd Mercher
Mae'r tân yn ardal Rhandirmwyn ger Llanymddyfri yn parhau i gael ei ystyried yn ddigwyddiad difrifol ond dywed Gwasanaeth Tân ac Achub y Canolbarth a'r Gorllewin bod eu hymdrechion i ddiffodd y tân yn fwy llwyddiannus ond yn parhau'n heriol.
Ar hyn o bryd mae hofrennydd yn parhau ar y safle er mwyn arllwys dŵr ar y tân.
Mae Gwasanaeth Tân y Gogledd a Gwasanaeth Tân Sir Gaerhirfryn yn cynorthwyo ac asiantaethau yn parhau i gefnogi y rhai sydd wedi cael eu heffeithio.
Mae nifer o ffyrdd yn yr ardal yn parhau ar gau ac mae'r gwasanaethau brys yn rhybuddio pobl i beidio ymweld â'r ardal.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.