Lluniau: Dydd Mercher yn Sioe Môn 2026
- Cyhoeddwyd
Mae Sioe Môn yn un o'r gwyliau amaethyddol fwyaf yng Nghymru, gan ddenu degau o filoedd i Faes Sioe Mona dros ddau ddiwrnod.
Eleni roedd yr ŵyl yn cael ei chynnal ar 11-12 Awst, ac fe anfonodd Cymru Fyw y ffotograffydd Arwyn Roberts (Arwyn Herald) i'r sioe i ddal rhywfaint o'r golygfeydd.
Dyma luniau dydd Mercher o'r sioe.

Iestyn a Mared o Lanbabo gyda phencampwr yr adran iau a phencampwr y brid

Alun Roberts o Langefni gafodd gyntaf gyda'i bot blodau yn y sioe

Morfudd Davies o Landdaniel a gafodd ail am ei harddangosfa o flodau

Diwrnod da i Greta Stuart o Amlwch a gafodd gyntaf am ei harddangosfa o flodau

Jane Tully o Trallwng gipiodd yr arddangosfa orau yn yr adran gosod blodau

Fe gafodd Jessie Parry o Gorwen gyntaf gyda'i cheffyl adran B

Daeth Ashley Oldroyed o Ddolgellau yn fuddugol gyda'i geffyl adran A

Mabon Roberts o Langernyw ddaeth yn fuddugol a'i geffyl Brenhines y Sêr, Caseg Adran D

Daeth Andrew Carling o Rydwyn yn fuddugol gyda'i darw Hereford

Janice Wood a Steven Richardson gyda'i fochyn; pencampwr y sioe a phencampwr Môn

Lowri Hughes o Fryngwran gyda'i chacen a ddaeth i'r brig yn y gystadleuaeth adddurno cacen i ddathlu 90 mlynedd o fodolaeth Mudiad Ffermwyr Ifanc Cymru

Mae gan Cara Jones o Bensarn ddawn arbennig wrth addurno cacennau

Harri Williams o Aberystwyth gyda'i ddafad Torwen, pencampwr yr adran

Edryd a Caren Jones o Fryncroes, Pen Llŷn gyda phencampwr y defaid benfrith

Ioan Roberts o Lannerch-y-medd gyda phencampwr y gwartheg duon
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd2 ddiwrnod yn ôl
