Gwrthod cais dyn a lofruddiodd ei wraig o Sir Gâr i adael y carchar

Glyn RazzellFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Glyn Razzell wedi bod yn mynychu'r gwrandawiad yn yr Uchel Lys

  • Cyhoeddwyd

Ni fydd dyn a lofruddiodd ei wraig o Sir Gâr yn 2002 yn cael ei ryddhau o'r carchar, wedi i'r Uchel Lys wrthdroi penderfyniad y bwrdd parôl.

Cafodd Glyn Razzell, o Wlad yr Haf, ddedfryd o garchar am oes yn 2003 am lofruddio ei wraig Linda.

Diflannodd Linda - o Lanybydder yn wreiddiol - o Swindon yn Wiltshire yn 2002, tra roedd y cwpl wedi gwahanu.

Dyw Glyn Razzell erioed wedi datgelu ble roedd wedi cuddio corff ei wraig.

Roedd y bwrdd parôl wedi penderfynu fis Ebrill eleni y gallai gael ei ryddhau o'r carchar ar drwydded, gan ddweud nad oedd ei garcharu "bellach yn angenrheidiol er mwyn amddiffyn y cyhoedd".

Ond fe wnaeth yr Ysgrifennydd Cyfiawnder gyfeirio'r achos at yr Uchel Lys, sydd wedi gwrthdroi penderfyniad y bwrdd parôl yn dilyn deuddydd o wrandawiad.

Linda RazzellFfynhonnell y llun, Heddlu Wiltshire
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Linda yn wreiddiol o Lanybydder, ac roedd hi yn y broses o ysgaru Glyn cyn ei llofruddiaeth

Cafodd Linda - 41 oed a mam i bedwar o blant - ei gweld ddiwethaf yn parcio ei char tra ar ei ffordd i'w gwaith yng Ngholeg Swindon ym Mawrth 2002.

Fe wnaeth Glyn Razzell ymddangos yn y wasg yn pledio iddi gael ei dychwelyd, cyn iddo'n ddiweddarach gael ei arestio a'i gyhuddo o'i llofruddio.

Roedd Linda yn y broses o ysgaru ei gŵr ar y pryd.

Fe wnaeth yr heddlu ganfod gwaed yng nghar Glyn Razzell, ac fe gafodd ei ddedfrydu i o leiaf 16 mlynedd dan glo yn dilyn achos llys.

Ond mae wastad wedi gwadu bod yn gyfrifol am ladd Linda.

Glyn Razzell yn 2003Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Glyn Razzell ei ddedfrydu i isafswm o 16 mlynedd yn y carchar yn 2003

Clywodd gwrandawiad yn yr Uchel Lys ar 10 ac 11 Awst bod Razzell wedi mynychu 20 sesiwn gyda seicolegydd, a bod "gweithwyr proffesiynol sy'n ymwneud â'i ofal a'i asesiadau wedi casglu y byddai'n ddiogel i'w ryddhau".

Ond dywedwyd hefyd bod Razzell yn "dwyllodrus iawn", a'i fod yn "parhau i achosi niwed i ddioddefwyr" am nad yw'n datgelu ble mae corff Linda.

Roedd merch Linda a Glyn wedi dweud na ddylai ei thad gael ei ryddhau tan iddo gyfaddef yr hyn mae wedi gwneud, a dweud ble mae corff ei mam.

Roedd cyfnither Linda, Judy Westmore, hefyd wedi rhybuddio'r gwrandawiad y byddai "unrhyw obaith o ganfod gweddillion Linda yn cael ei golli" pe bai Razzell yn cael ei ryddhau.

Cat Razzell
Disgrifiad o’r llun,

Dyw Cat Razzell ddim yn credu bod ei thad yn haeddu cael ei ryddhau cyn iddo gyfaddef i'w drosedd

Roedd Cat Razzell yn 13 oed pan gafodd ei mam ei lladd gan ei thad, ac mae hi bellach yn byw yng Nghaerdydd.

Dywedodd nad yw hi eisiau i'w thad farw yn y carchar, ond mae hi eisiau iddo gyfaddef i'w drosedd.

"Dy'n ni jest eisiau rhoi hi i orffwys, rhoi'r urddas mae hi'n ei haeddu iddi, ac o'r diwedd gallu dweud 'mae hyn ar ben'.

"Cyhyd ag y mae e'n gwrthod cyfaddef be' wnaeth e iddi - ac o ganlyniad, yr hyn mae'n gwneud i ni - mae effaith y drosedd yn parhau.

"Dydyn ni ddim yn credu bod rhywun sy'n fodlon gwneud hynny yn haeddu cael ei ryddhau."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig