S4C yn amddiffyn penderfyniad i ddarlledu cyfres am Neil Foden

Neil Foden
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Neil Foden ei garcharu am 17 mlynedd ar ôl cael ei ganfod yn euog o gam-drin pedair merch yn rhywiol

  • Cyhoeddwyd

Mae S4C wedi amddiffyn eu penderfyniad i ddarlledu cyfres ddrama newydd am y cyn-brifathro a phedoffeil, Neil Foden.

Cafodd cyn-bennaeth Ysgol Friars ym Mangor ei garcharu am 17 mlynedd yn 2024 ar ôl cael ei ganfod yn euog o gam-drin pedair merch yn rhywiol.

Cyhoeddodd S4C ddydd Iau eu bod wedi comisiynu cyfres dair-rhan, sydd â'r teitl gweithredol Y Pennaeth, i'w darlledu yn 2027.

Maen nhw'n dweud y bydd yn seiliedig ar dystiolaeth a nodiadau o'r achos cyfreithiol yn Llys y Goron Yr Wyddgrug, ac ar adroddiad annibynnol i'r achos gan yr arbenigwr Jan Pickles.

Mae'r cyhoeddiad wedi denu beirniadaeth lem ar y cyfryngau cymdeithasol, gyda sawl un yn dweud ei bod yn "warth" bod S4C wedi comisiynu'r gyfres.

Yn siarad ar Dros Frecwast fore Gwener dywedodd y prif swyddog cynnwys, Llion Iwan, fod sgyrsiau wedi bod gyda goroeswyr, ac erbyn darlledu'r rhaglen "mi fydd yna sawl blwyddyn wedi bod ers yr arestio a'r ddedfryd".

Llion IwanFfynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Llion Iwan ar ran S4C y bydd "sawl blwyddyn wedi bod ers yr arestio a'r ddedfryd", erbyn i'r rhaglen gael ei darlledu

Dywedodd Mr Iwan ei bod hi'n "naturiol bo' pobl yn codi pryderon mewn achos fel hyn, ond alla' i sicrhau bod y broses wedi bod mewn datblygiad am ddwy flynedd".

"Y ffocws o'r cyntaf ydy'r goroeswyr a'r methiannau sefydliadol sy' wedi bod – yn golygu bod o [Foden] wedi gallu cario 'mlaen i neud y troseddau yna.

"Roedd 'na bolisïau yn eu lle ond doedden nhw methu, achos o'dd bobl ofn herio unigolyn mewn grym.

"Felly, [hanfod y gyfres yw] sut o'dd y sefyllfa yna wedi dod i fodolaeth a sut fod o 'di gallu para cyhyd?"

Wrth gael ei holi a oedd hi'n rhy fuan am y math yma o raglen, dywedodd Llion Iwan fod trafodaethau wedi cael eu cynnal cyn ei rhoi ar waith.

"Mae 'na sgyrsiau wedi bod hefo'r goroeswyr trwy grŵp cefnogi'r goroeswyr - trwy gydol y datblygu yma.

"O ran yr amseru - erbyn iddo fo gael ei darlledu mi fydd yna sawl blwyddyn wedi bod ers yr arestio a'r ddedfryd."

Mark Lewis Jones, sydd wedi serennu mewn cyfresi fel Y Golau: Dŵr, The Crown, a Dal y Mellt, fydd yn chwarae rhan Neil Foden yn y gyfres.

'Rhy fuan'

Mae'r cyn-Aelod Senedd Helen Mary Jones yn arbenigwr annibynnol yn y maes amddiffyn plant a phobl ifanc, ac mai hi'n gyn-gadeirydd corff Plant yng Nghymru.

Dywedodd hi ar Dros Frecwast fod ei hymateb i'r penderfyniad i gomisiynu'r rhaglen yn un "cymysg".

"Byddwn i byth yn dweud bod pynciau dylai drama byth gyffwrdd ynddyn nhw - ma' rhywun yn gallu meddwl am ddramâu a theledu sydd wedi gwneud newid cymdeithasol positif," meddai.

Helen Mary Jones
Disgrifiad o’r llun,

"Fy nheimlad i ydy ei fod just yn rhy fuan," medd Helen Mary Jones

Enghreifftiau o'r rhaglenni hynny a wnaeth gyfraniad yn ôl Ms Jones oedd Cathy Come Home yn yr 1960au a Mr Bates vs The Post Office yn fwy diweddar.

"Ond fy nheimlad i ydy ei fod just yn rhy fuan - i ba raddau fydd lleisiau goroeswyr yng nghanol hyn i gyd?

"A fydd perygl, yn lle herio diwylliant 'y dyn mawr' - person oedd yn amhosib ei herio fe fel ni'n gwybod o'r adroddiad - bod y fath 'na o raglen yn portreadu fe fel rhyw fath o anti-hero mewn ffordd?

"Fi'n teimlo'n anesmwyth, ond mae 'na flwyddyn i fynd."

Ychwanegodd Ms Jones ei bod hi'n "mawr obeithio y bydd y sawl sy'n datblygu'r rhaglen yn sicrhau bo' nhw'n gwrando ac yn rhoi lleisiau'r merched oedd wedi dioddef yng nghanol y rhaglen".

Dai Davies
Disgrifiad o’r llun,

"Be' sy'n fwy pwysig na hyn ydy bod rhywun yn cael eu dal i gyfrif," meddai Dai Davies

Dywedodd Dai Davies, cyn-Brif Uwch Arolygydd yn Heddlu'r Met, ar raglen Dros Frecwast mai'r dioddefwyr o fewn yr achos "sy'n bwysig yn hyn".

Ychwanegodd ei fod wedi cael gwybod gan gynghorwyr i'r cwmni teledu bod arbenigwyr yn rhoi cymorth i'r dioddefwyr.

"Be' sy'n fwy pwysig na hyn ydy bod rhywun yn cael eu dal i gyfrif," meddai Mr Davies, sydd hefyd yn gyn-lysgennad i elusen plant Kidscape.

"Mae 'na ormod yn y wlad yma - bo' ni ddim yn taclo y rhai sy'n gyfrifol ac maen nhw'n ymddeol hefo pensiwn da."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig