Troseddu ar dir eglwysi Cymru ar gynnydd ac yn creu 'baich pellach'

Mynwent Eglwys Llanbeblig, Caernarfon
Disgrifiad o’r llun,

Mae cais rhyddid gwybodaeth yn dangos bod 271 o droseddau ar dir eglwysi yng Nghymru wedi'u cofnodi y llynedd

GanDafydd Morgan
Newyddion S4C
  • Cyhoeddwyd

Mae ffigyrau newydd yn awgrymu bod cynnydd wedi bod yn nifer yr achosion o droseddu ar dir eglwysi yng Nghymru.

Mae cais rhyddid gwybodaeth i'r pedwar llu heddlu gan y Gynghrair Cefn Gwlad yn dangos bod 271 o droseddau wedi eu cofnodi y llynedd.

Yn y tair blynedd cyn hynny, roedd cyfartaledd o 162 o droseddau bob blwyddyn.

Yn ôl yr Eglwys yng Nghymru mae cost unrhyw drosedd yn rhoi baich pellach ar eglwysi.

Mae Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu yn dweud eu bod nhw wedi ymrwymo i fynd i'r afael â'r broblem.

Y Cynghorydd Dewi Jones ger Eglwys Llanbeblig, Caernarfon
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y cynghorydd Dewi Jones fod y difrod ym mynwent Eglwys Llanbeblig yn "eithaf brawychus"

Bron i ddwy flynedd yn ôl fe wnaeth mynwent Eglwys Sant Peblig yng Nghaernarfon ddioddef difrod troseddol, gyda cherrig beddi wedi'u difrodi a rhywun wedi ceisio agor bedd.

"Roedd 'na bethau wedi cael eu hysgrifennu ar y beddi," medd y cynghorydd lleol, Dewi Jones.

"Roedd rhai o'r beddi wedi cael eu symud ac ambell garreg wedi'i thorri, felly roedd hi'n eithaf brawychus. Dwi'n meddwl bod y dre' i gyd yn eitha' siomedig.

"Dwi'n meddwl taw dyma'r lle ola' 'da chi isio'r math yma o ymddygiad - mae mynwentydd yn lefydd arbennig, hyd yn oed os ydyn nhw'n hen fynwentydd fel hyn.

"Mae'r bobl sydd wedi eu claddu yma, ma' nhw'n anwyliaid i bobl, ma' nhw wedi gwneud cyfraniad a dwi'n credu eu bod nhw'n haeddu ychydig o barch ac urddas."

Gwyndaf Owen, dyn gyda gwallt a mwstash gwyn, yn cael ei holi ger cerrig beddi a thyfiant ar dir Eglwys Llanbeblig, Caernarfon
Disgrifiad o’r llun,

Mae Gwyndaf Owen yn gwirfoddoli yn Eglwys Sant Peblig ac yn helpu i ofalu am y tir yno

Er bod y troseddu wedi lleihau, mae problemau o hyd, yn ô Gwyndaf Owen sy'n gwirfoddoli yn yr eglwys ac yn gofalu am y tir.

"Mae rhai yn dal i ddod yma a lluchio caniau cwrw a photeli a phethau," meddai.

Er bod pethau wedi gwella rhywfaint yn Eglwys Sant Peblig, mae'r ystadegau o gais rhyddid gwybodaeth y Gynghrair Cefn Gwlad yn awgrymu cynnydd mewn troseddu ar dir eglwysi.

Carreg bedd ar dir Eglwys Llanbeblig, Caernarfon
Disgrifiad o’r llun,

Dwyn oedd y drosedd fwyaf cyffredin, gyda dros gant o achosion o ladrata yn 2025

Yn ôl ficer yn ardal Treganna yng Nghaerdydd, Sion Brynach, mae hyn yn "peri gofid" ond "mae'n bwysig cadw persbectif" hefyd.

Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast dywedodd bod rhywun wedi torri i mewn i Eglwys St Catherine ddeunaw mis yn ôl.

"Y peth pennaf ddigwyddodd oedd y difrod i'r adeilad... fe dorron nhw ffenest liw eithaf nodedig yn yr eglwys."

Ond "mae'r cymhelliad yn anodd iawn i weld".

"Dwi'n meddwl mai rhywbeth fel hanner can ceiniog mewn newid mân aeth y lleidr gydag e."

Mae yna "gamargraff ymhlith y boblogaeth yn gyffredinol bod eglwysi'n lefydd cyfoethog," meddai.

"Ac wrth gwrs nid dyna'r gwirionedd o gwbl," ychwanegodd. "Yn aml iawn mae cynulleidfaoedd yn ei chael hi'n anodd iawn cael dau ben llinyn ynghyd."

Ond pwysleisiodd mai "atgyfodi yw hanfod stori'r Pasg felly mae'n bwysig bo' ni ddim yn mynd dros ben llestri gyda hyn".

"Nid yr adeilad yw'r eglwys," ychwanegodd.

'Maen nhw'n bach o darged'

Yn ôl y ffigyrau, ardal Heddlu De Cymru welodd y nifer fwyaf o droseddau - 47% o'r cyfanswm.

Dwyn oedd y drosedd fwyaf cyffredin, gyda dros 100 o achosion o ladrata yn 2025.

"Mae'n dangos i ni pa mor fregus yw llefydd fel hyn," medd Rachel Evans o'r Gynghrair Cefn Gwlad.

"Mas yng nghefn gwlad ma' nhw fel arfer, ma' nhw mas 'na ar eu pen eu hun ac felly maen nhw'n bach o darged rhwydd i'r rhai sydd am ddwyn.

"Mae hyn wedi codi pryder mewn cymunedau gwledig sydd ddim yn gyfarwydd â chael cymaint o droseddu yn digwydd yn eu hardal nhw.

"Mae'n rhaid i ni gael y plismyn yng nghefn gwlad i ddangos i bobl eu bod nhw yma, achos ni braidd byth yn gweld neb, felly mae'n rhaid i ni sicrhau bod y visibility yno, bod pobl yn gallu gweld yr heddlu yn eu cymunedau."

Cyfarwyddwr Cymru Cynghrair Cefn Gwlad, Rachel Evans - menyw gwallt brown ar ei hysgwyddau - yn cael ei holi yn Eglwys Llangadog
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Rachel Evans fod llefydd crefyddol gwledig yn "dargedau rhwydd" i droseddwyr

Yn ôl yr Eglwys yng Nghymru, mae'r ffigyrau'n "destun pryder" ac mae troseddau o'r fath "nid yn unig yn effeithio ar adeiladau" ond "clerigwyr a gwirfoddolwyr" hefyd.

Maen nhw'n dweud bod cost ariannol unrhyw ddifrod yn "rhoi baich pellach ar eglwysi".

Dywedodd y dirprwy brif gwnstabl Rachel Nolan o Gyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu eu bod wedi ymrwymo i "daclo'r broblem" ac yn "croesawu unrhyw ymchwil" sy'n eu helpu i ddeall ac atal trosedd.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.