44 llawdriniaeth yn ysbrydoli myfyriwr gyda Syndrom Pfeiffer i fod yn feddyg

Thomas Pearce Ffynhonnell y llun, Thomas Pearce
Disgrifiad o’r llun,

Thomas Pearce

GanAngharad Rhys
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Wedi iddo gael ei eni gyda Syndrom Pfeiffer, bu'n rhaid i Thomas Pearce wynebu blynyddoedd o ofal meddygol dwys gan gynnwys 44 llawdriniaeth yn ystod ei blentyndod.

Er gwaethaf colli bron i draean o'i addysg cynradd, erbyn hyn mae'r myfyriwr ifanc o Fae Colwyn yn astudio i fod yn feddyg, wedi iddo gael ei ysbrydoli gan y meddygon wnaeth ofalu amdano yn ystod 18 mlynedd o driniaethau.

Bu'n trafod byw gyda'r cyflwr geneteg sy'n effeithio un ymhob 100,000 o blant gyda Cymru Fyw.

Meddai Thomas, sy'n 19 oed a newydd orffen ei flwyddyn gyntaf yn astudio meddygaeth ym Mhrifysgol Caerdydd: "Ers cael fy ngeni dwi wedi treulio lot o amser mewn ysbytai oherwydd Syndrom Pfeiffer.

"Dwi wedi bod mewn ac allan o ysbytai yn cael llawdriniaethau felly dwi wedi cael llwyth o brofiad o'r amgylchedd yna. A dwi o hyd wedi cael fy ysbrydoli gan y llawfeddygon a'r effaith anhygoel maen nhw wedi cael ar fy mywyd.

"Fyddwn i ddim yma heddiw ond am eu gwaith caled nhw ac mae hynny wedi ysbrydoli fi i drio gwneud yr un peth dros bobl eraill."

Syndrom Pfeiffer

Cyflwr ar y penglog yw Syndrom Pfeiffer sy'n achosi i'r benglog ymdoddi (fuse) o flaen amser yn y groth, gan effeithio ar siâp y pen a'r wyneb.

Dywedodd Thomas: "Y ffordd symlaf o ddisgrifio Syndrom Pfeiffer Math 2 yw nad yw fy mhenglog wedi tyfu fel y byddai'n gwneud fel arfer.

"Mae'n golygu 'mod i wedi gorfod cael llawer o lawdriniaethau i greu lle i'm hymennydd dyfu i mewn iddo, gan nad oedd y benglog yn tyfu ar ei phen ei hun.

"Dwi'n credu mod i wedi cael 44 o lawdriniaethau, ac maen nhw'n rhai arbenigol iawn oedd yn cael eu gwneud yn Ysbyty Plant Alder Hey yn Lerpwl.

"Mae gen i hydroseffalws [dŵr ar yr ymennydd] hefyd, felly mae gen i shunt sy'n draenio hylif i ffwrdd.

"Yn y flwyddyn pan o'n i'n sefyll arholiadau TGAU, dwi'n credu mod i ffwrdd o'r ysgol am fwy na thri mis oherwydd problemau gyda'r shunt yn methu ac oedd rhaid i fi gael tair neu bedair llawdriniaeth.

"Ond roedd yr athrawon yng Ngholeg Dewi Sant [yn Llandudno] yn fy helpu fi i ddal i fyny gyda'r gwaith ac yn treulio amser ar ôl y wers yn helpu fi."

Bwlio

Er gwaethaf cael ei fwlio am ei ymddangosiad yn ei ysgol gynradd ac er gwaethaf colli cymaint o ysgol llwyddodd Thomas i gael un A* a 3 A yn ei Lefel A.

Ond mae'n dweud fod y bwlio wedi cael cryn effaith arno: "Yn yr ysgol gynradd, ro'n i'n edrych yn wahanol iawn, a dyna oedd yn achosi'r bwlio.

"Pan mae bwlio yn digwydd mae'n anodd iawn i ddelio efo. Fe wnaeth yr athrawon drio delio efo fo ond roedd cymaint ohono roedd yn anodd iawn i gadw rheolaeth arno.

"Felly fe effeithiodd ar fy hunan-hyder yn yr ysgol gynradd ond mae fy mhrofiadau yn yr ysgol uwchradd wedi bod yn hollol wahanol.

"Ac mae'r person swil o'n i yn cychwyn yng Ngholeg Dewi Sant wedi mynd a dwi'n berson llawer fwy hyderus heddiw."

Thomas gyda'i frawd Ollie Pearce a'u mam Nikki Pearce a phennaeth Coleg Dewi Sant Andrew RussellFfynhonnell y llun, Thomas Pearce
Disgrifiad o’r llun,

Thomas gyda'i frawd Ollie a'u mam Nikki, a phennaeth Coleg Dewi Sant, Andrew Russell

Mae Thomas yn canu clod staff yr ysgol am sicrhau ei fod yn ffynnu er gwaethaf ei gyflwr.

Meddai: "Roedd dechrau Blwyddyn 13 yn anodd hefyd, oherwydd yn ystod yr haf cefais lawdriniaeth fawr iawn i gywiro'r ffaith bod fy ngên isaf yn gwthio allan yn sylweddol, ac i'n helpu i i fwyta'n iawn.

"O'n i'n methu cnoi am ddeufis ar ôl y llawdriniaeth a gollais i 9kg o bwysau."

Digwyddodd llawdriniaeth gyntaf Thomas pan oedd ychydig fisoedd oed ac mae'r un diweddaraf wedi digwydd eleni.

Ond nid yw Thomas yn cofio ei blentyndod fel un o fyw mewn poen, meddai: "Mae'r poen yn digwydd mwy pan fo pethau'n mynd o'i le ac mae'r mwyafrif o'r poen wedi bod tra mod i'n gwella yn dilyn llawdriniaeth.

"Gyda'r nifer o lawdriniaethau dw i wedi cael a'r amser dw i wedi'i dreulio yn yr ysbyty, 'da chi'n mynd i brofi poen eithaf difrifol ar adegau.

"Cafodd y shunt ei osod i ddraenio hylif yr ymennydd i fy mol. Ac o bryd i'w gilydd, pan fydd pethau'n mynd o'i le mae'n gallu achosi cynnydd anferth ym mhwysau'r ymennydd yn gyflym iawn. Ar adegau felly mae'r boen yn eithaf difrifol a dwi'n cael cur pen ac yn chwydu.

"Roedd un o'r llawdriniaethau diweddaraf yn Blwyddyn 12 yn lawdriniaeth ddwbl ar y gên lle cymeron nhw graft o'r glun a'i roi yn fy ngên uchaf i'w symud ymlaen, ac yna symudon nhw fy ngên isaf yn ôl. Ac oherwydd bod honno'n llawdriniaeth fawr iawn roedd hi'n boenus iawn ar ôl y llawdriniaeth hefyd."

Effaith

Wedi treulio canran mawr o'i fywyd yn cael llawdriniaethau a gofal mewn ysbytai mae Thomas wedi datblygu gwydnwch.

Erbyn hyn mae'n aelod o baneli yn y Gwasanaeth Iechyd lle mae'n cael cyfle i roi ei lais fel claf er mwyn gwella'r gofal i gleifion.

Mae e'n credu bod ei brofiadau wedi helpu iddo ddatblygu empathi tuag at gleifion eraill, fydd yn help iddo fel meddyg dan hyfforddiant, fel mae'n sôn: "Dwi'n meddwl fod o wedi 'ngwneud i'n llai sensitif i'r sefyllfa i raddau; mae'r rhan fwyaf o bobl sy'n mynd i gael llawdriniaeth am y tro cyntaf yn ofnus ac yn nerfus.

"Ond dw i wedi cyrraedd pwynt lle dwi'n derbyn ac yn meddwl, dim ond llawdriniaeth arall ydi o. Dwi'n gyfarwydd efo'r broses.

"Yn bendant dwi'n credu ei fod wedi 'ngwneud i'n berson llawer mwy gwydn o ran delio â straen. A dwi wedi gorfod datblygu dulliau cadarn o ymdopi efo ofn neu straen.

"Mae hynny wedi paratoi fi'n dda ar gyfer bywyd bob dydd ac mae'r ffordd dwi'n meddwl wedi newid oherwydd 'mod i wedi mynd drwy bethau mor ddifrifol.

"Mae'r rhan fwyaf o bethau bob dydd yn ymddangos yn ddibwys."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig