Teyrnged i ddyn ifanc fu farw ar daith Gwobr Dug Caeredin

Umar DumbuyaFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Umar Dumbuya yn dilyn digwyddiad ar Afon Gwy yr wythnos diwethaf

  • Cyhoeddwyd

Mae teyrngedau wedi eu rhoi i ddyn ifanc fu farw yn dilyn digwyddiad ar Afon Gwy ym Mhowys yr wythnos diwethaf.

Roedd Umar Dumbuya o Lundain, oedd yn 18, ar weithgaredd Gwobr Dug Caeredin ar y pryd, ond fe aeth i drafferthion yn y dŵr yn Y Clas-ar-Wy ar 30 Mehefin.

Dywedodd ei deulu eu bod wedi "torri eu calonnau o golli ein mab, brawd, ac ŵyr", ac y byddan nhw'n cofio ei "garedigrwydd, cynhesrwydd a synnwyr digrifwch".

Mewn datganiad, dywedodd Coleg Chweched Dosbarth Leyton yn Llundain eu bod yn "hynod o drist" yn dilyn ei farwolaeth.

Blodau ar lan Afon Gwy
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd blodau eu gadael ar lannau'r Afon Gwy yr wythnos diwethaf wedi marwolaeth Umar

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i leoliad poblogaidd yn Y Clas-ar-Wy ar Afon Gwy nos Fawrth, yn dilyn adroddiadau bod "dyn wedi mynd i'r dŵr a methu â chael ei ganfod".

Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys bod gwirfoddolwyr achub mynydd, y gwasanaeth tân a hofrennydd yr heddlu yn rhan o'r chwilio.

Cafodd corff Umar Dumbuya ei ganfod yn ddiweddarach, a bu swyddogion heddlu'n cynnig cymorth i'w ffrindiau mewn cwt sgowtiaid gerllaw.

Yn dilyn y digwyddiad, dywedodd llefarydd ar ran Gwobr Dug Caeredin eu bod yn "gweithio'n agos gyda choleg y person ifanc a'r awdurdodau perthnasol i ddeall sut ddaeth y digwyddiad trasig hwn i fod".

'Dim geiriau all ddisgrifio'r boen'

Ddydd Mawrth fe wnaeth ei deulu roi teyrnged iddo, gan ddweud: "Rydym yn torri ein calonnau o golli ein mab, brawd, ac ŵyr.

"Does dim geiriau all ddisgrifio'r boen rydyn ni'n ei deimlo fel teulu.

"Roedd Umar yn fachgen cariadus a bydd colled fawr ar ei ôl ymhlith pawb oedd yn ei adnabod.

"Roedd Umar wrth ei fodd yn chwarae pêl-fasged, mynd i'r gampfa a threulio amser gyda theulu a ffrindiau.

"Byddwn wastad yn cofio Umar am ei garedigrwydd, cynhesrwydd a synnwyr digrifwch.

"Mae ei farwolaeth wedi gadael bwlch andwyol yn ein teulu, a gofynnwn nawr am breifatrwydd i alaru."

Afon Gwy
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd yr heddlu eu galw i Afon Gwy yn ardal Y Clas-ar-Wy ar 30 Mehefin

Ychwanegodd Coleg Chweched Dosbarth Leyton mewn datganiad fod marwolaeth Umar yn "ddamwain drasig", a'i fod yn "aelod gwerthfawr o'r coleg".

"Mae'r coleg yn cydweithio gyda'r awdurdodau perthnasol wrth iddyn nhw ymchwilio i amgylchiadau'r farwolaeth, ac rydym yn cynnig cefnogaeth i staff a myfyrwyr oedd yno pan ddigwyddodd."

Mae tudalen GoFundMe wedi cael ei sefydlu, gyda'r bwriad o godi arian ar gyfer ei deulu fydd yn mynd tuag at gostau angladd.

Dywedodd teyrnged: "Bydd Umar yn cael ei gofio am ei garedigrwydd, ei gynhesrwydd, a'i effaith bositif a gafodd ar ei deulu, ffrindiau, cyd-ddisgyblion, a phawb gafodd y fraint o'i adnabod.

"Bydd colled Umar yn gadael bwlch anfesuradwy yng nghalonnau pawb oedd yn ei garu."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Straeon perthnasol