Capten Tîm Cymru ar gyfer Gemau'r Gymanwlad yw'r 'dewis perffaith'

Olivia BreenFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Olivia Breen - sydd wedi ennill dwy fedal aur yng Ngemau'r Gymanwlad - fydd capten Tîm Cymru ar gyfer Glasgow 2026.

Mi fydd y para-athletwr 29 oed yn arwain tîm o 115 o athletwyr wrth gystadlu yn ei phedwerydd Gemau'r Gymanwlad.

Enillodd fedal aur yn ras 100m T38 yn Birmingham yn 2022, ar ôl ennill medal efydd yn yr un gystadleuaeth yn ogystal â medal aur yn y naid hir T38 bedair blynedd ynghynt.

"Mae'n golygu cymaint," meddai Breen, a dyw hi methu aros "i weld Tîm Cymru'n gwneud popeth er mwyn gwneud pawb yng Nghymru'n falch."

Disgrifiad,

Bu Tîm Cymru yn derbyn eu dillad ar gyfer Gemau’r Gymanwlad fore Mawrth

Dywedodd y Chef de Mission ar gyfer Tîm Cymru, Gethin Jones fod y penderfyniad ddim ar sail ei llwyddiant yn unig - "mae'n ymwneud â'i phersonoliaeth hefyd".

"Mae'n wych gyda'r tîm, mae gwên ar ei hwyneb bob amser, mae hi wir yn credu yng Nghymru ac rwy'n credu mai hi yw'r dewis perffaith."

Bydd y Gemau'n cychwyn yn Glasgow ar 23 Gorffennaf ac yn para tan 2 Awst.

Bydd athletwyr yn cystadlu mewn 10 o gampau gwahanol, gyda 66 o fenywod a 48 dyn rhwng 16-73 oed a 22 o bara-athletwyr.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig