Comisiwn Etholiadol yn galw am etholiad Senedd 'heb gamdriniaeth'

SeneddFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd etholiad Senedd Cymru yn cael ei gynnal ar 7 Mai

  • Cyhoeddwyd

Mae'r Comisiwn Etholiadol yng Nghymru wedi galw ar bleidiau, ymgyrchwyr ac etholwyr i gymryd rhan yn etholiad y Senedd "heb gamdriniaeth a bygythiadau", ac i "gymryd rhan â pharch".

Yn ôl ymchwil y Comisiwn Etholiadol, fe wnaeth 48% o ymgeiswyr etholiadau lleol Cymru yn 2022 brofi rhyw fath o fygythiad neu gamdriniaeth.

Fe wnaeth y ffigwr gynyddu i dros hanner ymhlith ymgeiswyr etholiad cyffredinol 2024, gyda menywod ac ymgeiswyr o leiafrifoedd ethnig yn fwy tebygol o gael eu targedu.

Mae Rhydian Thomas, pennaeth Comisiwn Etholiadol Cymru, yn rhybuddio bod y sefyllfa'n "atal pobl rhag sefyll", ac felly'n cael effaith ar ein democratiaeth.

Gorsaf BleidleisioFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Mae menywod ac ymgeiswyr o leiafrifoedd ethnig yn fwy tebygol o gael eu targedu, yn ôl ymchwil y comisiwn

Yn siarad ar raglen Dros Frecwast, dywedodd Rhydian Thomas: "Yn amlwg mae 'na broblemau ar-lein ar y cyfryngau cymdeithasol ond hefyd 'da ni'n gweld mwy a mwy o ymgeiswyr ar y stryd yn cael eu bygwth.

"Felly ry'n ni 'di partneru gyda'r heddlu a Sefydliad Jo Cox i alw am ymgyrch ym mis Mai, yn etholiad y Senedd, sy'n rhydd rhag y math yma o gamdriniaeth a bygythiadau."

Dywedodd fod y pedwar llu heddlu yng Nghymru wedi penodi pwynt cyswllt i ymgeiswyr i "ddelio yn benodol gyda'r math yma o gwynion" ac yn darparu sesiynau hyfforddi a chyngor diogelwch.

Mae'r comisiwn wedi cyhoeddi egwyddorion newydd ar gyfer ymgyrchu, gan annog "cadw parch, diogelwch a gonestrwydd" mewn dadleuon gwleidyddol.

Ychwanegodd Mr Thomas: "Mae'n bwysig fod ymgeiswyr a'r pleidiau gwleidyddol yn meddwl am y math o iaith maen nhw'n defnyddio yn yr etholiad hefyd."

'Angen mwy o addysg wleidyddol'

Mae'r comisiwn yn dweud ei bod yn bwysig fod gan gwmnïau cyfryngau cymdeithasol brotocolau cyflym mewn lle i dynnu camdriniaeth oddi ar lwyfannau a nodi'r rhai sy'n cyhoeddi cynnwys o'r fath.

Dywedodd y comisiwn hefyd eu bod wedi datblygu adnoddau addysg ddemocrataidd ar gyfer athrawon a phobl ifanc cyn etholiad y Senedd, "sy'n meithrin hyder mewn dadl barchus, yn gwella llythrennedd yn y cyfryngau, ac yn meithrin dealltwriaeth o rôl y Senedd a'i gwleidyddion".

Dywedodd Rhydian Thomas: "Mae angen mwy o addysg wleidyddol - addysg am ein democratiaeth ni i bobl ifanc.

"'Dan ni wedi gwneud lot dros y pedair blynedd diwethaf ond mae mwy sydd angen ei wneud i sicrhau bod y math yma o negeseuon yn cael eu trafod yn ein hysgolion ni yng Nghymru."

Mae angen porwr modern gyda JavaScript a chysylltiad rhyngrwyd sefydlog i weld yr elfennau rhyngweithiol hyn. Mwy o wybodaeth am yr etholiadau sydd ar y gweill (Yn agor mewn tab porwr newydd)

Dywedodd Simon Belcher, Prif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu De Cymru, fod camdriniaeth ac aflonyddu yn droseddau, ac mae "cosbau difrifol i'r rhai sy'n euog".

"Mae ymgyrchu a chyferbynnu safbwyntiau gwleidyddol yn nodwedd o ddemocratiaeth iach, ond ni ddylai'r rhain groesi'r llinell i gam-drin troseddol, aflonyddu nac anhrefn," meddai.

Ychwanegodd y bydd canllawiau newydd y Comisiwn Etholiadol yn helpu ymgeiswyr i aros yn ddiogel yn ystod ymgyrchoedd, a'u bod yn rhoi cyngor "ymarferol y gall ymgeiswyr eu cymryd i amddiffyn eu hunain".

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.