'Cymru ddim yn barod i ymdopi â phoblogaeth sy'n heneiddio'

Gyda datblygiadau ym maes iechyd yn golygu bod mwy o bobl yn byw yn hŷn, mae nifer yn y sector yn rhybuddio nad oes digon o gyllid na chapasiti
- Cyhoeddwyd
Dydi Cymru ddim yn barod i ymdopi â phoblogaeth sy'n heneiddio, yn ôl corff sy'n cynrychioli dros 400 o gartrefi gofal.
Yn ôl Fforwm Gofal Cymru, mae angen gwella a chyflymu'r paratoadau i gefnogi pobl hŷn.
Mae gwaith ymchwil yn dangos erbyn 2030 y bydd bron i filiwn o bobl dros 60 oed yn byw yng Nghymru.
Ategu'r neges mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru sy'n dweud y bydd yn rhaid i lywodraeth nesaf Cymru flaenoriaethu'r pwnc.

"'Da ni mewn crisis yn barod ond mae o am fynd yn waeth," meddai Kim Ombler
Gyda datblygiadau ym maes iechyd yn golygu bod mwy o bobl yn byw yn hŷn, mae nifer yn y sector yn rhybuddio nad oes digon o gyllid na chapasiti yn y system i ddelio â'r heriau a ddaw.
Y gred yw y bydd mwy angen gofal mewn cartrefi preswyl a hefyd yn eu cymunedau, ond gyda phryder recriwtio mae Fforwm Gofal Cymru yn galw am wella'r gwaith cynllunio.
"'Da ni mewn crisis yn barod ond mae o am fynd yn waeth," meddai Kim Ombler sydd â chartref gofal gyda 52 o welyau ym Mrynsiencyn, Ynys Môn.
"Mae'n rhaid i awdurdodau iechyd a chynghorau lleol edrych ar y ddemograffeg a gwneud yn siŵr fod pob dim yn barod.
"Dydyn nhw ddim - 'dyn nhw ddim yn siarad efo'i gilydd."
Yn ôl Ms Ombler, sydd hefyd yn llefarydd i Fforwm Gofal Cymru, dydi Cymru ddim yn barod i ddygymod â'r sgil effeithiau o weld poblogaeth yn heneiddio.

"Dwi'n poeni braidd am ofal yn y gymuned fel dwi'n mynd yn hŷn," medd Elwen Green
Yn y ganolfan hamdden ym Miwmares, mae sesiynau yn cael eu cynnal i bobl hŷn gadw'n heini.
Mae unigolion sydd angen cymorth gyda chadw cydbwysedd a hyder yn gallu cael eu cyfeirio yma gan y gwasanaeth iechyd.
Yno hefyd mae cyfle i gymdeithasu mewn gweithfeydd gwnïo, a'r syniad o fynd yn hŷn yn bwnc llosg ar drothwy'r etholiad.
"Dwi'n poeni braidd am ofal yn y gymuned fel dwi'n mynd yn hŷn," medd Elwen Green, 65.
"'Da ni 'di bod efo mam a dad, a mam a dad yng nghyfraith, yn mynd yn hen yn gymuned - 'da ni 'di gweld trafferthion yn cael gofalwyr yn dod yna i edrych ar ôl nhw.
"Mae hynny'n bryderus i mi."

"Dydi'r gwasanaethau eisoes heb fod yna i mi," meddai Alwen Mair Ingledew
Poeni am ddarpariaeth gwasanaethau mae Alwen Mair Ingledew, 70.
"Dydi'r gwasanaethau eisoes heb fod yna i mi," meddai.
"Ges i glun newydd ac oedd o'n edrych fel 'swn i'n gorfod aros am dair blynedd ar y gwasanaeth iechyd.
"Mi es i'n breifat felly'n anffodus, a minnau wedi gweithio fy mywyd i gyd yn y GIG."
Yn gred yw bod 908,728 o bobl dros 60 oed yn byw yng Nghymru, gyda disgwyl i hynny gynyddu.
O'r rheiny mae 331,023 dros 75 oed, 179,635 dros 80 oed, a 86,057 dros 85 oed.
Ardaloedd cynghorau Conwy a Phowys sydd â'r ganran uchaf o bobl hŷn yn byw yno.

"Mae'r boblogaeth yn heneiddio ond dydi'n gwasanaethau ni heb ymateb yn y ffordd 'da ni am weld yma," medd Rhian Bowen-Davies
Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Rhian Bowen-Davies, yn dweud fod yn rhaid paratoi ar gyfer poblogaeth sy'n heneiddio.
"'Da ni'n gwybod hyn ers sbel felly be' dwi'n edrych ar efo llywodraeth newydd Cymru yw i fynd ati ar yr heriau hynny ac i sicrhau fod ein polisïau ni'n cael eu gweithredu yng Nghymru ac yn ein cymunedau a bod ein pobl hŷn yn gweld hynny.
"Mae'r boblogaeth yn heneiddio ond dydi'n gwasanaethau ni heb ymateb yn y ffordd 'da ni am weld yma".
Ychwanegodd y byddai'n rhoi pwysau ar y llywodraeth nesaf i wireddu hynny.
Beth mae'r pleidiau yn ei ddweud?
Wrth ymateb i gwestiynau, cafodd ymgeiswyr y prif bleidiau yn etholaeth Bangor Conwy Môn gyfle i ymateb ddydd Mercher.
Dywedodd y Democratiaid Rhyddfrydol eu bod "am fuddsoddi £300m mewn gofal cymdeithasol ac am helpu i achub y gwasanaeth iechyd".
Yn ôl y Blaid Lafur "y disgwyl yw y bydd hwn yn cynyddu fel her a bod angen paratoi, felly mae angen twf yn yr economi a'r Blaid Lafur ar ddwy ochr yr M4 fod y gwasanaeth iechyd yn cael ei barchu".
Yn ôl Reform UK mae angen "mwy o hwb llawfeddygol a chanolfannau diagnostig, er mwyn arbed y system rhag y bottle neck rhwng gofal sylfaenol ac eilaidd".
Dywed y Ceidwadwyr Cymreig fod "mwy a mwy o adnoddau wedi'u rhoi mewn i'r system iechyd ers degawdau ond does dim gwelliant, felly mae'n rhaid edrych ar y problemau systemig o fewn y system gofal ac iechyd".
Yn ôl y Blaid Werdd mae angen buddsoddi mewn "gofal cymunedola gofal sylfaenol. Un o'r problemau ydy fod meddygon teulu, deintyddion a nyrsys, dydyn nhw ddim yn aros yn ein cymunedau a'r GIG".
Dywedodd Plaid Cymru fod angen edrych ar "y cyllid sy'n dod o San Steffan ac ydi hynny yn seiliedig ar anghenion y boblogaeth yng Nghymru ac yn enwedig poblogaeth sy'n heneiddio, ac i awdurdodau lleol mae angen edrych ar y fformiwla gyllido".
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.