Rhybudd am 'dalu mwy am gynnyrch gwaeth' yn sgil tywydd eithafol

Mae sychder dros yr haf wedi creu amodau anodd i dyfu cnydau a chadw anifeiliaid
- Cyhoeddwyd
Mae rhybudd y gallwn ni fod yn gorfod talu prisiau uwch am fwyd o safon is yn y dyfodol, yn sgil tywydd eithafol.
Ond gallai ffermwyr Cymru fod mewn gwell sefyllfa i addasu eu systemau bwyd wrth ddelio ag effeithiau newid hinsawdd, yn ôl un undeb amaeth.
Ar ddiwedd un o'r hafau sychaf ar gofnod, ac wrth wynebu mwy o stormydd a glaw dros y gaeaf, mae'r tywydd eithafol yn cael effaith amlwg ar gyflenwadau bwyd.
Yn ôl un asiantaeth mae 10% yn llai o anifeiliaid wedi dod i'r farchnad dros yr haf wrth i'r tywydd gael effaith.
Mae Llywodraethau Cymru a'r Deyrnas Unedig wedi addo cymorth i ffermwyr ddelio ag effaith newid hinsawdd wrth i nifer ystyried addasu systemau i warchod cyflenwadau bwyd.
'Prisiau'n codi a phrinder rhai eitemau'
Yn gynharach eleni, dywedodd ffermwyr tatws Sir Benfro mai dyma'r haf mwyaf heriol iddyn nhw ei wynebu "ers cyn cof".
Gyda llai o fwyd yn cael ei gynhyrchu, bydd llai o ddewis yn y siopau a galw am newid meddylfryd yn y dyfodol, meddai'r hanesydd bwyd, Carwyn Graves.
Dywedodd: "Ry'n ni'n gweld tri pheth yn digwydd - bydd prisiau'n codi eto a bydd prinder rhai pethau fel ffrwythau a llysiau.
"Falle'r peth arall fydd ansawdd. Fe fydd pethau ar gael - ry'n ni'n lwcus bod y system yn gweithio'n effeithiol - ond y pethau sydd ar gael, fydd y tato yn llai, y brocoli falle'n fwy chwerw.
"Byddwn ni'n talu mwy am gynnyrch o ansawdd is."

Mae'n bosib y gwelwn ni brinder rhai pethau fel ffrwythau a llysiau meddai Carwyn Graves
Ychwanegodd bod rhai pethau y gall pobl wneud i helpu, gan gynnwys osgoi gwastraffu bwydydd.
Meddai: "Ry'n ni'n gweld diffyg hyder gan bobl a weithiau bod bwyd yn mynd yn wastraff hyd yn oed os yw e'n saff i'w fwyta.
"Mae angen dechrau meddylfryd am sut i ddefnyddio bwyd dros ben. Mae'r ystadegau'n dangos yn glir bod ni'n gwastraffu a hyder yw lot o hynny.
"Ni hefyd wedi dod i arfer bod bwyd ar gael drwy'r flwyddyn yn rhad. Mae'n anodd gweld sefyllfa lle fyddwn ni ddim yn gorfod newid ein disgwyliadau."

"Pwy a ŵyr, fyny yma yn Eryri y bydda' i'n tyfu gwenith yn fuan iawn," meddai Paul Williams sy'n ffermio ger Llanrwst
Ond mae Paul Williams, o undeb NFU Cymru ac sy'n ffermio ger Llanrwst, yn credu y gallai fod yn haws i amaethwyr yma addasu.
"Rhai o'r cnydau sydd wedi bod yn cael eu tyfu yn y dwyrain, mi fydd rheiny'n sicr rŵan yn cael eu tyfu fwy yn y canolbarth a'r gorllewin yn y Deyrnas Unedig," meddai.
"Fydd rhaid i bobl sy'n cadw da byw edrych os oes ganddyn nhw gyflenwad dŵr digonol drwy'r haf. Hwyrach fydd rhaid i ni edrych ar ein da byw yn cael eu cadw mewn yn yr haf hyd yn oed.
"Gan bod ni'n fwy i'r gorllewin, mi ydan ni mewn llawer gwell lle i fynd ymlaen efo newid hinsawdd.
"Ond be' mae hynny'n olygu hwyrach ydy bod pethau sy'n cael eu tyfu yn y dwyrain rŵan yn gorfod symud i gael eu tyfu yn y gorllewin.
"Pwy a ŵyr, fyny yma yn Eryri y bydda' i'n tyfu gwenith yn fuan iawn."

Mae effeithiau tywydd yr haf i'w gweld yng nghostau ffermwyr, meddai John Richards
Yn ôl John Richards, o Hybu Cig Cymru, mae tua 10% yn llai o anifeiliaid wedi dod i'r farchnad dros yr haf, a'r sector yn wynebu heriau penodol.
"Beth y'n ni'n gallu gweld yn y sector cig coch yw'r effaith ariannol ar ffermwyr, a hefyd faint o waith sy'n mynd mewn i fe," meddai.
"Nawr 'leni ry'n ni'n gweld llawer o ffermwyr wedi gorfod cario dŵr, sydd yn jobyn llawn amser i rai yn anffodus.
"Ond hefyd ry'n ni'n gallu gweld bod yr anifeiliaid ddim wedi gallu cael eu pesgi fel y dylen nhw fod wedi gallu gwneud ar laswellt.
"Felly mae hynny'n golygu bod mwy o waith a mwy o gostau ynglŷn â'r system wedyn."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Awst

- Cyhoeddwyd15 Awst

- Cyhoeddwyd25 Mehefin
