'Rhoi stamp ein hunain': Edrych ymlaen at Eisteddfod 2027

y cyfranwyr i gyd
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r criw uchod yn edrych ymlaen at groesawu'r 'Steddfod y flwyddyn nesaf

GanAnnell Dyfri
BBC Cymru FywYn gohebu oEisteddfod Genedlaethol Y Garreg Las
  • Cyhoeddwyd

Gydag wythnos Eisteddfod gofiadwy y Garreg Las yn dirwyn i ben, mae'r gwaith paratoi ar gyfer Eisteddfod Maldwyn Meirionnydd eisoes wedi cychwyn.

Bydd yr Eisteddfod yn cael ei chynnal ar dir fferm yn ardal Glantwymyn ger Machynlleth.

Dyma'r tro cyntaf i'r Eisteddfod ymweld â Phowys ers Prifwyl Meifod yn 2015.

Bydd de Gwynedd hefyd yn rhan o ddalgylch Eisteddfod Genedlaethol 2027 wrth i'r ardal ymestyn i'r gogledd cyn belled ag Afon Mawddach gan gynnwys Dolgellau, Y Bala, Tywyn, Aberdyfi a'r Bermo.

'Ymwybodol o'r gwaith sydd o'n blaenau'

Wrth siarad ar faes yr Eisteddfod yn Llantwd, dywedodd Aled Griffiths, Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Maldwyn Meirionydd: "'Da ni wedi dechrau ers misoedd wrth gwrs, ac oes ma' gennym ni lawer iawn o waith i'w wneud.

"Mae'r wythnos yma wedi hedfan, felly mae'r flwyddyn nesaf yn mynd i hedfan yn yr un modd.

"Wrth gwrs ni'n gyffrous, ni'n ymwybodol iawn o'r gwaith sydd o'n blaenau ni i drefnu ac i godi arian i'r gronfa leol.

"Ond be' 'da ni'n gyffrous iawn ynglŷn â fo ydi'r ffaith bo' ni'n croesawu'r eisteddfod i Ddyffryn Dyfi, ac i Lannau afon Dyfi a 'da ni'n edrych ymlaen yn ofnadwy."

Aeth yn ei flaen i ddweud bod 'na "fwrlwm a chyffro mawr trwy dalgylch Powys a de Sir Feirionnydd".

Aled Griffiths
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Aled Griffiths ei fod eisiau "croesawu'r 'Steddfod a rhoi stamp ein hunain arno"

Yn dilyn yr wythnos hon, dywedodd Mr Griffiths fod 'na "nifer o bobl wedi dweud wrthai, ma' gyno' ni waith caled o'n blaenau i efelychu'r 'Steddfod yma ac i guro'r 'Steddfod yma.

"'Da ni ddim am drio curo'r 'Steddfod yma, mae'r 'Steddfod yma yn wych wrth gwrs ac mae'n rhaid llongyfarch John Cwmbetws.

"Mae pob 'Steddfod yn wahanol a dyna be' 'da ni'n anelu am wneud ydi croesawu'r 'Steddfod a rhoi stamp ein hunain a chael 'Steddfod gartrefol, glyd yn nyffryn Dyfi a dwi'n ffyddiog byddwn ni'n gwneud hynny."

Wrth sôn am yr her ariannol sydd o'u blaenau, dywedodd: "Dwi'n edrych ar y targed fel rhywbeth eilradd, y bwriad ydi cael mwynhau y digwyddiadau a'r bwrlwm.

"Mae'n rhaid i chi gael targed er mwyn cael bwrlwm ac felly mae 'na rywbeth yn digwydd rŵan bob penwythnos felly 'da ni'n edrych ymlaen yn arw."

Mari Fychan
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Mari Fychan ei bod yn edrych ymlaen i bobl glywed acen yr ardal

Ac un sydd wedi bod ynghlwm â'r gwaith codi arian eisoes yw Mari Fychan sy'n byw ger Machynlleth.

Dywedodd ei bod "mor gyffrous ac mae'r gymuned a phawb yn edrych ymlaen yn fawr yn yr ardal."

"Dwi'n edrych ymlaen i ddangos yr acen, achos mae lot o'r acen i'w weld 'leni gyda'r Wes Wes, so edrych ymlaen i bawb glywed hwnna.

"Mae'r 'Steddfod yma yn un llwyddiannus iawn, so bydd hi'n lot o bwyse i wneud rhywbeth mor debyg ond dwi'n siwr bydd o.

"Fel person ifanc dwi wir yn edrych ymlaen at flwyddyn nesa' i gael y 'Steddfod yn agos ar fy stepen drws adre', jysd i weld pawb yn yr ardal a'r cyffro, a'r Cymreictod a dathlu hwnna."

Rhian a Daniel
Disgrifiad o’r llun,

Rhian a Daniel o gyngor Gwynedd a Phowys yn edrych ymlaen at yr Eisteddfod y flwyddyn nesaf

Gyda siroedd yn cydweithio er mwyn cynnal yr Eisteddfod, dywedodd Rhian Evans, a oedd yn cynrychioli Gwynedd ar eu stondin, fod hynny yn "ffordd dda ymlaen".

"Dwi'n meddwl fod o'n syniad gwych ehangu yr ardal ymgyrchu sy'n mynd lawr i Aberhonddu yn y de ac i fyny at y Bala yn y gogledd.

"Mae 'na dipyn o waith i'w wneud ond mae'r paratoadau wedi hen gychwyn.

"Mi fydd 'na groeso cynnes iawn ym Maldwyn Meirionnydd," meddai.

Ychwanegodd Daniel Burgess oedd yno ar ran Sir Powys ei fod yn "hyfryd" i weld yr Eisteddfod yn dod i'r ardal, er bod "blwyddyn brysur iawn" o'u blaenau.

"Mae pwysigrwydd yr iaith ym Mhowys ambell waith wedi cael ei anghofio dros y blynyddoedd," ychwanegodd gan ddweud ei fod yn edrych ymlaen at groesawu'r 'Steddfod i'r Sir.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.