Myfyriwr yn 'ofnus' am golli adnoddau Cymraeg o lyfrgell Prifysgol Caerdydd

Mae Lili Evans yn dweud bod y cynllun yn fygythiad i un o adnoddau mwyaf poblogaidd y brifysgol
- Cyhoeddwyd
Mae myfyriwr yn "ofnus iawn" na fydd yr adnoddau Cymraeg sydd eu hangen arni ar gael dros yr haf ar ôl clywed am gynlluniau posibl i un o lyfrgelloedd Prifysgol Caerdydd.
Cafodd staff a myfyrwyr y brifysgol wybod mewn e-bost am gynlluniau posib i greu mannau addysgu newydd ar ail lawr Llyfrgell y Celfyddydau a'r Gwyddorau Cymdeithasol (ASSL).
Ar hyn o bryd, mae'r ail lawr yn gartref i filoedd o lyfrau ar bynciau fel Athroniaeth, Moeseg, Hanes, Llenyddiaeth, a'r casgliadau o lenyddiaeth Gymraeg a Cheltaidd, sef y casgliad Salisbury.
Mi fyddai colli'r casgliadau hyn yn "drychineb" meddai'r uwch-ddarlithydd Dr David Callander, ac mae deiseb yn galw ar bobl i "achub ail lawr" y llyfrgell wedi cyrraedd 7,500 o lofnodion.
Mae Prifysgol Caerdydd yn pwysleisio nad ydy'r cynlluniau wedi eu cwblhau ac maen nhw'n gwrthod unrhyw awgrym y bydd "pob llyfr" yn cael ei symud neu "y gallai llyfrau gael eu gwaredu".

Dywedodd Lili bod llawer o lyfrau Cymraeg "heb gael eu digido a does dim mynediad at rai ohonyn nhw mewn llyfrgelloedd eraill"
Y gred ydy y gallai rhai llyfrau gael eu symud i lyfrgell arall dros yr haf, lle na fyddai'r un mynediad cyhoeddus ar gael.
Mae Lili Evans, sy'n astudio gradd meistr ym maes Astudiaethau Cymreig a Cheltaidd yn teimlo'n "bryderus" na fydd y llyfrau a'r adnoddau sydd eu hangen arni ar gael dros y misoedd nesaf.
"Mae llawer o lyfrau Cymraeg sydd yn y llyfrgell heb gael eu digido a does dim mynediad at rai ohonyn nhw mewn llyfrgelloedd eraill."
Ychwanegodd: "O ystyried y sefyllfa ofnadwy mae'r dyniaethau ynddi yn gyffredinol... mae'n anodd peidio darllen hwn fel bygythiad sydd mwy neu lai wedi'i dargedu'n uniongyrchol at y dyniaethau."
"Os mae Prifysgol Caerdydd dro ar ôl tro fel maen nhw'n awgrymu eu bod yn gwrando ar lais y myfyrwyr, pam felly maen nhw'n bygwth un o'r adnoddau mwyaf poblogaidd?"

Dywedodd Dr David Callander, "o dan unrhyw gynlluniau byddwn i, a bydde pawb, isio sicrhau bod y llyfrau mor hygyrch â phosib"
Dywedodd Uwch-ddarlithydd ym Mhrifysgol Caerdydd a Swyddog Llyfrgell Ysgol y Gymraeg, Dr David Callander fod y fath ymateb wedi digwydd gan fod y llyfrgell "mor bwysig i ni yma".
"Nid yn unig i ni yn y brifysgol ond i'r ddinas hefyd, mae'n un o lyfrgelloedd mwyaf a phrysuraf Cymru," ychwanegodd.
Er nad yw'r cynlluniau wedi eu cadarnhau mae'r ffaith bod yr adnoddau a'r casgliadau yma ar gael i unrhyw un yn rhad ac am ddim "yn gyfraniad mawr at genhadaeth civic y brifysgol", meddai.
"O dan unrhyw gynlluniau byddwn i, a bydde pawb, isio sicrhau bod y llyfrau mor hygyrch â phosib fel maen nhw ar hyn o bryd.
"Fel bod aelodau'r cyhoedd yn gallu cael mynediad atyn nhw yn hawdd, a fel bod myfyrwyr a staff yn gallu cael mynediad yn hawdd - a bod y casgliadau pwysig hyn yn cael eu diogelu, a nid yn unig hynny yn cael eu dathlu."
Prifysgol Caerdydd i gynnig cyrsiau cerdd ac ieithoedd modern wedi'r cyfan
- Cyhoeddwyd27 Mai 2025
Prifysgol Caerdydd i dorri 148 yn llai o swyddi na'r disgwyl
- Cyhoeddwyd15 Mai 2025
Pennaeth Prifysgol Caerdydd yn amddiffyn toriadau
- Cyhoeddwyd12 Mehefin 2025
Mae deiseb i geisio "achub ail lawr" y llyfrgell bellach wedi cael miloedd o lofnodion.
Mae'n honni bod 7,000 o lyfrau yno ar hyn o bryd ac yn eu plith casgliad Salisbury - sy'n gasgliad o lyfrau astudiaethau Cymraeg gafodd eu casglu gan Enoch Robert Gibbon Salisbury.
"Roedd Salisbury yn casglu cyn bod y Llyfrgell Genedlaethol yn cael ei sefydlu yn Aberystwyth," meddai Dr Callander.
"Roedd y casgliad yma i fod yn gnewyllyn llyfrgell cenedlaethol petai'r llyfrgell honno wedi cael ei sefydlu yng Nghaerdydd felly mae hynny yn rhoi arwydd i chi o ran pa mor bwysig oedd ac yw'r casgliad."
"Felly, wrth gwrs ddylie hyn fod yn flaenoriaeth i'r brifysgol, fel nid yn unig rhywbeth i'w edrych ar ei hôl ond rhywbeth i'w ddathlu, rhywbeth sydd yn denu myfyrwyr yma i Gaerdydd."
'Darlun heriol iawn'
Yn ôl Dr Callander mae "prifysgolion mewn sefyllfa argyfyngus yn ariannol a dyna sy'n gyrru llawer o'r pethau hyn".
Esboniodd bod yn rhaid iddyn nhw fel staff dyniaethau adael eu swyddfeydd dros yr haf i "swyddfeydd llai wedi'u rhannu".
Bydd "llai o le i storio llyfrau" ac maen nhw dan "llawer iawn o bwysau... heb sôn am yr heriau gyda'r llyfrgell hefyd felly mae'n ddarlun heriol iawn ar gyfer addysg uwch yng Nghymru ar hyn o bryd".

Wrth ymateb, roedd Prifysgol Caerdydd yn pwysleisio nad oedd y cynlluniau wedi'u cadarnhau.
Ychwanegon nhw na fydden nhw'n tynnu "pob llyfr", ac ni fyddai llyfrau'n cael eu gwaredu.
Eu bwriad medden nhw yw creu gofod dysgu newydd ar y campws fel cynllun peilot, er mwyn gweld a allai wella profiad dysgu myfyrwyr.
Pe bai'r cynlluniau yma'n mynd rhagddo dywedon nhw "wrth gwrs y byddem yn gweithio gyda'r llyfrgell a rhanddeiliaid allweddol eraill".
Dywedon nhw hefyd y byddai mannau astudio eraill yn cael eu darparu i fyfyrwyr os nad oedden nhw'n gallu defnyddio rhai mannau presennol dros dro.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.