Crynodeb

  • Prif Weinidog Cymru Rhun ap Iorwerth wedi bod yn wynebu cwestiynau arweinwyr y gwrthbleidiau ac aelodau'r meinciau cefn yn y Senedd

  • Dyma oedd y trydydd tro iddo wynebu sesiwn Cwestiynau i'r Prif Weinidog ers i Plaid Cymru ffurfio llywodraeth wedi'r etholiad ddechrau Mai

  • Dywedodd Rhun ap Iorwerth y bydd cyhoeddiad y prynhawn 'ma gan y gweinidog addysg ar ffonau clyfar mewn ysgolion

  • Fe wnaeth arweinydd Reform Dan Thomas honni bod y gyllideb atodol yr wythnos nesaf yn "ein paratoi" ar gyfer cyhoeddiadau annymunol gan y llywodraeth ar wariant

  • Shav Taj o'r blaid Lafur yn emosiynol wrth siarad am fod yn blentyn i fewnfudwyr, yn dilyn cwestiwn am bolisi cenedl noddfa Cymru

  1. Hwyl fawrwedi ei gyhoeddi 14:45 GMT+1

    Dyna ni o sesiwn Cwestiynau i’r Prif Weinidog heddiw - y drydedd a gymerwyd gan Rhun ap Iorwerth.

    Diolch am ddilyn - mae gweddill straeon y dydd ar hafan Cymru Fyw.

  2. 'Iawn gofyn am sicrwydd am drefniadau diogelu'wedi ei gyhoeddi 14:43 GMT+1

    Yn ddiweddarach, dywed Sam Rowlands o'r Ceidwadwyr ei bod yn "iawn" i ASau "ofyn am sicrwydd gan ei llywodraeth ynghylch y trefniadau diogelu sydd ar waith ar gyfer unrhyw fath o bobl ledled ein gwlad".

    Mae'n galw ar lywodraeth Plaid Cymru i gefnogi ymchwiliad i 'grooming gangs' ledled Cymru.

    Mae'r prif weinidog yn cyhuddo Mr Rowlands o "ffordd greadigol" o gyd-fynd â sylwadau Joe Martin.

    Mae'n dweud y bydd y llywodraeth yn cefnogi unrhyw fesurau i wneud yn siŵr "ein bod yn deall y bygythiadau y mae pobl ifanc neu fenywod yn eu hwynebu".

  3. Sylwadau 'ffiaidd... yn wirioneddol syfrdanol'wedi ei gyhoeddi 14:40 GMT+1

    Dywed Shav Taj o'r blaid Lafur ei bod yn "blentyn balch i fewnfudwyr" a, bron mewn dagrau, mae'n dweud "dewisodd fy niweddar dad Gymru dros Loegr pan gyrhaeddodd gyntaf".

    "Yn y pendraw, mae cenedl noddfa yn ymwneud â chadw ein cymunedau'n ddiogel," meddai, gan ychwanegu "mae pobl yn chwilio am loches oherwydd eu bod nhw'n ofnus".

    "Mae rhai o'r pethau ffiaidd rydyn ni newydd glywed yn wirioneddol syfrdanol," meddai, mewn ymateb i sylwadau AS Reform Joe Martin.

    "Mae'n destun pryder i'r plant sy'n ymweld â'r Senedd, a fydd yn... gwylio ein dadl yma."

    Dywed y prif weinidog mai swydd y Senedd yw dangos arweinyddiaeth "a dangos na fyddwn yn cael ein dychryn gan y rhai sy'n anoddefgar ac eisiau ein rhannu".

    Shav TajFfynhonnell y llun, Senedd Cymru
  4. Beth yw'r polisi Cenedl Noddfa?wedi ei gyhoeddi 14:27 GMT+1

    Nod y polisi yw rhoi help i ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru i integreiddio a chael mynediad at wasanaethau cyhoeddus.

    Llywodraeth y Deyrnas Unedig sy'n gyfrifol am bolisïau lloches, ond mae gan Lywodraeth Cymru rôl o ran darparu gofal iechyd ac addysg.

    Rhwng 2019 a 2025 fe wnaeth Llywodraeth Cymru wario 0.05% o'u cyllideb ar y polisi Cenedl Noddfa.

    Ond mae'r Ceidwadwyr a Reform UK wedi dweud y byddan nhw'n cael gwared â'r polisi, gan leisio pryderon am y neges mae'n ei gyrru.

    Mae mwy ar y polisi yma.

  5. 'Ymgais i rannu cymunedau' gan Reformwedi ei gyhoeddi 14:25 GMT+1

    Mewn cwestiwn am bolisi cenedl noddfa Llywodraeth Cymru, mae AS Reform Joe Martin cyfeirio at ymosodiad yn Belfast, lle cafodd dyn o Swdan ei arestio. Ymddangosodd yn y llys yn gynharach fis yma.

    Mae Mr Martin yn honni bod ASau Plaid Cymru wedi bod eisiau i'r un dynion gael eu croesawu gan Gymru.

    "Beth fyddwch chi'n ei wneud i sicrhau, pan fydd yr ymosodiad anochel nesaf yn digwydd, nad yw'n digwydd yng Nghymru," meddai.

    Dywedodd Rhun ap Iorwerth: "Mae'n debyg y bydd yn rhaid i ni ddod i arfer â'r math hwn o gyfraniad lle mae ymgais yma i rannu cymunedau.

    "Felly, ni fyddaf i fel prif weinidog... yn ymostwng i hynny."

    Atgoffodd ef yr AS o 10fed pen-blwydd llofruddiaeth Jo Cox, yr AS Llafur a laddwyd ychydig cyn refferendwm Brexit yn 2016.

  6. 'Diwydiant amddiffyn cryf yn hanfodol i'n heconomi'wedi ei gyhoeddi 14:10 GMT+1

    Dywed arweinydd y Ceidwadwyr Darren Millar y bydd cymunedau ledled y DU yn nodi Diwrnod y Lluoedd Arfog ymhen 11 diwrnod.

    Mae'n gofyn i'r prif weinidog, "ar adeg pan mae rhyfel wedi dychwelyd i Ewrop" a gyda sefyllfa ddiogelwch fregus, "a ydych chi'n cytuno â mi fod diwydiant amddiffyn cryf yng Nghymru yn hanfodol i'n heconomi?"

    Dywed Rhun ap Iorwerth mai un o'i ymweliadau cyntaf oedd cyfarfod â chyn-filwyr, a bod y sector amddiffyn yn chwarae "rhan bwysig iawn".

    Darren MillarFfynhonnell y llun, Senedd Cymru

    Mae Mr Millar yn cyfeirio at y ddau ymddiswyddiad diweddar o Lywodraeth y DU dros wariant amddiffyn.

    Dywedodd ei bod hi'n bwysig os oes mwy o fuddsoddiad bod "Cymru'n cael ei chyfran deg".

    Dywed y prif weinidog fod Mr Millar yn iawn i ddweud y dylai Cymru gael hynny, ond mae'n galw am "rybudd ymlaen llaw" os yw mwy o arian ar gyfer amddiffyn yn dod "oddi ar gefn gwariant cyhoeddus".

    Mae cyllideb Llywodraeth Cymru yn cael ei phennu i raddau helaeth gan faint sy'n cael ei wario ar wasanaethau cyhoeddus yn Lloegr.

  7. Oes gan Lywodraeth Cymru'r cyllid i gyflawni eu haddewidion?wedi ei gyhoeddi 14:06 GMT+1

    Ken SkatesFfynhonnell y llun, Senedd Cymru

    Mae arweinydd dros dro Llafur Cymru, Ken Skates, yn sôn am gyfweliad BBC Cymru gyda'r Gweinidog Cyllid Elin Jones dros y penwythnos, lle dywedodd hi fod cyllid Llywodraeth Cymru yn anoddach na'r disgwyl.

    Mae Mr Skates yn dweud bod y Sefydliad Astudiaethau Cyllid wedi adrodd cyn etholiad mis Mai y byddai addewidion Plaid Cymru "yn gofyn am gynnydd mewn trethi neu doriadau i wasanaethau" ac mae'n gofyn i'r prif weinidog a oedd y Sefydliad Astudiaethau Cyllid yn iawn.

    Mae Rhun ap Iorwerth yn dweud bod Llafur Cymru yn "llywodraeth flaenorol a addawodd adeiladu ysbyty gwerth biliynau o bunnoedd ond na allen nhw hyd yn oed gael eu symiau'n iawn ar faint o arian a ddyrannwyd ar gyfer gofal plant".

  8. Reform yn galw am beidio â chodi trethiwedi ei gyhoeddi 13:57 GMT+1

    Dywed Dan Thomas ei fod yn falch bod y gyllideb atodol yn dod yr wythnos nesaf, ond mae'n honni bod Rhun ap Iorwerth yn "ein paratoi" ar gyfer cyhoeddiadau annymunol.

    Mae'n galw ar y prif weinidog i ddiystyru codiadau treth a thoriadau i wasanaethau.

    Mae Mr Thomas hefyd yn galw am iddo fod yn "ddigwyddiad cyllidol mawr" sy'n helpu Cymru i godi ar ei thraed.

    "Neu a fydd yn barhad o gynlluniau gwariant Llafur gyda rhywfaint o addasu o amgylch yr ymylon?" gofynna arweinydd Reform yng Nghymru.

    Dywed Rhun ap Iorwerth ei fod wedi ei gwneud yn glir ar sawl achlysur na fydd yn codi trethi.

    Ond honnodd fod y llywodraeth flaenorol wedi gadael pwysau o "filiynau o bunnoedd" mewn gofal iechyd yn ystod y flwyddyn ariannol yma.

    "Mater i Lafur yw ateb sut y daeth y sefyllfa hon i fodolaeth," meddai..

    "Mater i'r llywodraeth hon yw rholio ein llewys i fyny a bod yn benderfynol o gyflawni'r addewidion hynny a roesom o flaen pobl Cymru."

    Dan ThomasFfynhonnell y llun, Senedd Cymru
  9. 'Prinder tai oherwydd mewnfudo heb ei reoli a diffyg adeiladu'wedi ei gyhoeddi 13:51 GMT+1

    Mae Dan Thomas, arweinydd Reform yng Nghymru, yn honni ei bod yn "ffaith bod diffyg adeiladu tai a mewnfudo heb ei reoli wedi arwain at brinder tai ledled y DU".

    Mae Plaid Cymru wedi addo adeiladu 20,000 o gartrefi newydd, meddai, ac mae'n dweud bod angen diwygio'r system gynllunio yn radical. Sut fydd yn cyflymu cynllunio i gyflawni eu haddewid?

    Mae Rhun ap Iorwerth yn dweud bod y prinder tai yng Nghymru yn "real iawn" ond mae'n gwrthod eu bod yn cael eu hachosi gan fewnfudo.

    "Ydym, rydym wedi gosod uchelgais lefel uchel," meddai, gan ddweud bod angen iddyn nhw weithio gydag adeiladwyr tai a darparwyr tai cymdeithasol.

    "Nid yw beio un rhan o gymdeithas am y mater yn ein helpu ni," meddai'r Prif Weinidog.

    "Does neb yn beio mewnfudwyr," honna Dan Thomas, i wawd o feinciau Plaid Cymru.

    TaiFfynhonnell y llun, PA Media
  10. Beth fydd yn y datganiad am ffonau symudol mewn ysgolion?wedi ei gyhoeddi 13:49 GMT+1

    Daniel Davies
    Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru

    Ry'n ni’n disgwyl datganiad gan y gweinidog addysg, Anna Brychan, prynhawn yma, ac yn ôl Rhun ap Iorwerth fe fydd hi’n dweud mwy am bolisi y llywodraeth ar ffonau symudol yn ysgolion.

    Dyw Plaid Cymru ddim am wahardd ffonau o ysgolion yn llwyr, yn rhannol achos bod gan rai plant resymau meddygol dros fynd â ffôn i’r ysgol.

    Ond mae’r defnydd o ffonau yn amlwg yn destun pryder ac roedd y pleidiau yn wynebu cwestiynau ynglŷn â sut oedden nhw’n bwriadu ymateb i hynny yn ystod ymgyrch yr etholiad.

    Fe wnaeth y llywodraeth Lafur flaenorol gomisiynu arolwg o athrawon ar ffonau symudol.

    Mae disgwyl i Anna Brychan gyhoeddi canlyniad yr arolwg heddiw.

  11. Addo cryfhau gwasanaethau meddygon teuluwedi ei gyhoeddi 13:45 GMT+1

    Mae Louise Emery, AS Reform, yn gofyn am ddatganiad ar y ddarpariaeth o wasanaethau meddygon teulu yn ei hetholaeth - Clwyd.

    Dywed y prif weinidog: "Meddygon teulu yw sylfaen gofal y GIG yng Nghymru.

    "Bob mis, mae meddygfeydd teulu yn darparu tua 1.5 miliwn o gysylltiadau â chleifion.

    "Pan fydd mynediad at ofal sylfaenol o dan bwysau, mae'r system gyfan yn teimlo hynny.

    "Dyna pam rydym wedi ymgymryd â'n hymrwymiadau maniffesto i gryfhau gwasanaethau meddygon teulu, gwella mynediad y tu allan i oriau, ehangu cefnogaeth ddigidol a theleiechyd, a darparu mwy o ofal yn agosach at adref."

    Cynhaliodd pwyllgor yn y chweched Senedd ymchwiliad i ddyfodol meddygaeth deulu, dolen allanol yng Nghymru.

    Mae'n cynnwys argymhellion ar gyfer mynd i'r afael â'r pwysau presennol a sicrhau cynaliadwyedd gwasanaethau.

    meddyg teuluFfynhonnell y llun, Getty Images
  12. 'Penderfynol o weithredu' ar ffonau clyfar mewn ysgolionwedi ei gyhoeddi 13:39 GMT+1

    Mae cwestiwn yn cael ei ofyn gan Donna Cushing o Blaid Cymru am ffonau clyfar mewn ysgolion.

    Mae Rhun ap Iorwerth yn dweud bod ei lywodraeth "yn benderfynol o weithredu" a bod y dystiolaeth bellach yn "glir" ynglŷn ag effaith ffonau ar addysg.

    Mae'n dweud y bydd y Gweinidog Addysg Anna Brychan yn darparu manylion y prynhawn yma.

  13. Addysg 'wrth wraidd ein huchelgais i Gymru'wedi ei gyhoeddi 13:37 GMT+1

    Daw'r cwestiwn cyntaf gan y cyn-weinidog addysg Lynne Neagle, sy'n gofyn beth yw blaenoriaethau'r prif weinidog ar gyfer addysg yn ei hetholaeth, Sir Fynwy Torfaen.

    Dywed Rhun ap Iorwerth: "Mae addysg wrth wraidd ein huchelgais i Gymru.

    "Rydym yn gweld addysg fel yr allwedd i ddatgloi cyfleoedd newydd a gwell ac adeiladu y genedl fwy hyderus, arloesol a chynhyrchiol rydym yn gwybod y gall Cymru fod."

    Mae Neagle yn gofyn ymhellach: "A yw eich addewid gofal plant i'w thalu ar gost plant ag anghenion dysgu ychwanegol?"

    Atebodd y prif weinidog eu bod "yn edrych ymlaen at weithio gyda'r teuluoedd a'r awdurdodau lleol hynny i ddarparu'r ateb hirdymor hwnnw yn hytrach na'r ateb cyflym".

    Lynne Neagle
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae Lynne Neagle yn un o ddau aelod sydd wedi bod yn y Senedd ers dechrau datganoli yn 1999 (Elin Jones yw'r llall)

  14. Y sesiwn wedi dechrauwedi ei gyhoeddi 13:30 GMT+1

    Mae sesiwn Cwestiynau i'r Prif Weinidog wedi dechrau yn y Senedd.

    Mae modd gwylio'r cyfan trwy glicio ar yr eicon "Gwylio'n Fyw" ar frig y llif byw.

  15. Drakeford yn gwrthod honiadau am bwysau ariannol y llywodraethwedi ei gyhoeddi 13:28 GMT+1

    Hefyd dros yr oriau diwethaf, mae cyn-ysgrifennydd cyllid Llafur, Mark Drakeford wedi gwrthod honiadau Plaid Cymru am y pwysau ariannol sy'n wynebu llywodraeth newydd Cymru.

    Dydd Sul dywedodd ei olynydd Elin Jones eu bod yn "fwy heriol" nag yr oedd hi wedi'i ddisgwyl.

    Rhybuddiodd am benderfyniadau "anodd iawn" i ariannu ymrwymiadau maniffesto, sy'n cynnwys un o'u prif bolisïau sef ehangu gofal plant.

    Dywedodd Mark Drakeford dros nos fod Plaid Cymru wedi cael gweld "yr holl wybodaeth oedd ar gael", ac awgrymodd y byddai gweinidogion yn ei chael hi'n anodd cyflawni eu haddewidion maniffesto.

    Dywedodd cynrychiolwyr Plaid Cymru yn ystod yr ymgyrch etholiad fis diwethaf y bydden nhw'n talu am y polisi trwy ailflaenoriaethu rhywfaint o'r £7bn a wariodd y llywodraeth Lafur ddiwethaf ar fynd i'r afael â thlodi plant.

    Gwadodd Elin Jones fod y blaid yn "datgymalu gwaddol" Llafur ond dywedodd mai "newid gêr ar ble rydym ni wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus yw'r hyn yr wyf am ei weld".

    Mae rhagor am sylwadau Mark Drakeford yma.

    Mark DrakefordFfynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
  16. Llywodraeth Cymru i wario £55m ar ehangu gofal i blant dwy oedwedi ei gyhoeddi 13:24 GMT+1

    Daw'r sesiwn heddiw ar ôl i Lywodraeth Cymru ddweud y byddan nhw'n gwario £55m yn ychwanegol eleni er mwyn darparu gofal am ddim i fwy o blant dwy oed.

    Mae Plaid Cymru wedi dod dan bwysau ers yr etholiad fis diwethaf i egluro sut y bydd yn fforddio cynnig gofal plant am ddim i bob plentyn rhwng naw mis a phedair blwydd oed.

    Mae'r blaid yn dweud eu bod nawr wedi dod o hyd i arian i gynnig 3,300 o leoedd yn rhagor i blant dwy oed, gan ddarparu 12.5 awr o ofal yr wythnos.

    Dywedodd y llywodraeth hefyd bod Wrecsam wedi ymuno â thri awdurdod lleol arall wrth ddarparu gofal plant am ddim i bob plentyn dwy oed yn eu siroedd.

    Darllenwch fwy yma.

    Gofal plantFfynhonnell y llun, Getty Images
  17. Croesowedi ei gyhoeddi 13:20 GMT+1

    Croeso i Gwestiynau i'r Prif Weinidog - cyfle wythnosol yn y Senedd i'r gwrthbleidiau ac ASau meinciau cefn i holi arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.

    Mae ychydig dros fis ers llwyddiant Plaid Cymru yn etholiad y Senedd ar 7 Mai, gyda'r blaid yn ffurfio llywodraeth am y tro cyntaf.

    Mae'r rhan fwyaf o gwestiynau yn cael eu cyflwyno o leiaf dri diwrnod gwaith ymlaen llaw a'u dewis drwy falot.

    Gall arweinwyr y gwrthbleidiau hefyd ofyn cwestiynau heb rybudd.

    Ar ôl cwpl o gwestiynau sydd wedi'u cyflwyno ymlaen llaw, byddwn yn clywed gan Dan Thomas o Reform, Ken Skates o'r blaid Lafur a Darren Millar o'r Ceidwadwyr.

    Senedd