Plaid Cymru i wario £55m ar ehangu gofal i blant dwy oed

- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud y byddan nhw'n gwario £55m yn ychwanegol eleni er mwyn darparu gofal am ddim i fwy o blant dwy oed.
Mae Plaid Cymru wedi dod dan bwysau ers yr etholiad fis diwethaf i egluro sut y bydd yn fforddio cynnig gofal plant am ddim i bob plentyn rhwng naw mis a phedair blwydd oed.
Mae'r blaid yn dweud eu bod nawr wedi dod o hyd i arian i gynnig 3,300 o leoedd yn rhagor i blant dwy oed, gan ddarparu 12.5 awr o ofal yr wythnos.
Dywedodd y llywodraeth hefyd bod Wrecsam wedi ymuno â thri awdurdod lleol arall wrth ddarparu gofal plant am ddim i bob plentyn dwy oed yn eu siroedd.
Beth yw'r cefndir?
Mae Plaid Cymru yn bwriadu cynnig 20 awr o ofal plant am ddim i bob plentyn rhwng naw mis a phedair blwydd oed cyn etholiad nesaf y Senedd, fydd ym Mai 2030.
Dyw'r llywodraeth ddim wedi dweud pryd yn union y bydd babanod naw mis oed yn elwa, na chwaith be allai fod angen torri 'nôl arno er mwyn fforddio'r cynllun.
Maen nhw'n bwriadu cyflwyno'r cynllun mewn camau, gan ddechrau gydag ehangu ar ddarpariaeth y llywodraeth flaenorol ar gyfer plant dwy oed - sef 12.5 awr yr wythnos mewn ardaloedd sy'n rhan o gynllun dechrau'n deg.
Mae Plaid Cymru hefyd eisiau cadw'r 30 awr yr wythnos o ofal sydd ar gael i deuluoedd lle mae'r rhieni un ai'n gweithio neu mewn hyfforddiant.
Mewn dadl yr wythnos diwethaf dywedodd Reform UK nad yw'n glir a yw'r polisi yn fforddiadwy na realistig.
Dywedodd Plaid Cymru y byddan nhw'n darparu mwy o wybodaeth erbyn canol mis Gorffennaf.

Dywedodd Sioned Williams ei bod yn "benderfynol o helpu teuluoedd ledled Cymru"
Mae BBC Cymru wedi cael gwybod y bydd y £55m ychwanegol yn ariannu 3,300 o leoedd ychwanegol o fewn y trefniadau Dechrau'n Deg.
Bydd £10m ychwanegol hefyd yn cael ei wario ar ehangu a gwella safleoedd gofal plant.
Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog Sioned Williams, sy'n gyfrifol am gyflwyno'r polisi gofal plant: "Mae'r buddsoddiad hwn yn dangos ein bod yn cyflymu ein hymrwymiadau i deuluoedd Cymru.
"Costau gofal plant Cymru yw'r drutaf yn y DU ac rydw i'n benderfynol o helpu teuluoedd ledled Cymru, tra hefyd yn cefnogi datblygiad plant."
'Heriau' i gynghorau wrth geisio ehangu gofal plant am ddim
- Cyhoeddwyd2 ddiwrnod yn ôl
Plaid Cymru'n addo mwy o fanylion gofal plant erbyn canol Gorffennaf
- Cyhoeddwyd5 o ddyddiau yn ôl
Pryd fydd y polisi i ymestyn gofal plant am ddim yn dechrau?
- Cyhoeddwyd20 Mai
Fe wnaeth BBC Cymru adrodd ddydd Sul bod cynghorau'n wynebu heriau difrifol o ran ehangu gofal plant am ddim, a hynny oherwydd diffyg adnoddau a staff.
Mae ymchwil y BBC wedi canfod bod cynghorau'n ei chael hi'n anodd darparu ymrwymiad llai hael y llywodraeth flaenorol o 12.5 awr i bob plentyn dwy oed.
Tan ddydd Mawrth, dim ond Abertawe, Casnewydd a Merthyr Tudful oedd yn ariannu gofal plant trwy gynllun Dechrau'n Deg.
Mae Wrecsam bellach wedi dweud y byddan nhw'n ymuno â'r siroedd hynny.
Roedd Dechrau'n Deg yn wreiddiol wedi'i anelu at ardaloedd difreintiedig, ond fe gafodd ei ehangu yn raddol i ddarparu mwy o ofal i blant dwy oed.
Dywedodd Plaid Cymru bod y £55m yn arian newydd ac y bydd yn rhan o gyllideb atodol gyntaf y blaid, y mae disgwyl iddi gael ei chyhoeddi ar 23 Mehefin.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.