Crynodeb

  • Arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, wedi ei ethol yn brif weinidog

  • Dywedodd yn ei araith fod "ein dyddiau gorau o'n blaenau" i Gymru

  • Huw Irranca-Davies o'r blaid Lafur wedi'i ethol yn Llywydd, a Kerry Ferguson o Blaid Cymru yn ddirprwy Lywydd

  • Roedd y Gwyrddion wedi cefnogi ethol Rhun ap Iorwerth, tra bo' Llafur a'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi ymatal

  • Roedd aelodau Reform wedi pleidleisio o blaid Dan Thomas, a'r Ceidwadwyr o blaid Darren Millar

  • Dyma oedd y tro cyntaf i'r Senedd gwrdd ers yr etholiad yr wythnos diwethaf

  • Plaid Cymru enillodd y mwyaf o seddi yn yr etholiad - 43 - ond maen nhw chwe aelod yn brin o fwyafrif

  • Enillodd Reform 34 sedd, Llafur 9, Ceidwadwyr 7, Y Blaid Werdd 2, a'r Democratiaid Rhyddfrydol 1

  1. Diolch am ddilynwedi ei gyhoeddi 19:03 GMT+1 12 Mai

    Dyna'r cyfan gan ein tîm ar y llif byw am heddiw - diwrnod hanesyddol wrth i Blaid Cymru ethol prif weindog am y tro cyntaf.

    Dyma grynhoi'r cyfan ddigwyddodd yn fyr:

    • Mae arweinydd Plaid Cymru wedi cael ei ethol yn Brif Weinidog Cymru yn dilyn pleidlais yn y Senedd
    • Dywedodd yn ei araith mai dyma "fraint fy mywyd" a bod "ein dyddiau gorau o'n blaenau"
    • Mae'n dal i aros i dyngu llw fel mae'n sefyll, ond y disgwyl yw y bydd hynny'n digwydd rhyw ben heno
    • Dywedodd Reform, Llafur a'r Ceidwadwyr y byddan nhw'n wrthbleidiau cryf fydd yn dal y llywodraeth i gyfrif
    • Cyn hynny fe gafodd y cyn-ddirprwy brif weinidog Huw Irranca-Davies o'r blaid Lafur ei ethol yn Llywydd y Senedd
    • Kerry Ferguson - AS newydd Plaid Cymru - gafodd ei dewis i fod yn ddirprwy Lywydd

    Bydd rhagor o fanylion ar hafan BBC Cymru Fyw dros yr oriau a'r dyddiau nesaf.

    Diolch am ddilyn, a hwyl am y tro.

    Rhun ap IorwerthFfynhonnell y llun, Getty Images
  2. Aros o hyd i dyngu llwwedi ei gyhoeddi 19:02 GMT+1 12 Mai

    Does dim arwydd bod y tyngu llw wedi digwydd eto.

    O'r hyn rydyn ni'n gwybod, mae angen cyfnewid negeseuon e-bost i gadarnhau gwarant frenhinol wedi'i awdurdodi gan y Brenin.

    Dyw hi ddim yn ymddangos bod hyn wedi digwydd eto. Bydd y llif byw felly'n dod i ben.

  3. 'Diolch am y fraint o wasanaethu ein gwlad'wedi ei gyhoeddi 18:51 GMT+1 12 Mai

    Eluned MorganFfynhonnell y llun, Senedd Cymru

    Mae Eluned Morgan wedi dymuno’r gorau i’r llywodraeth newydd ac wedi diolch i bobl Cymru am y “fraint” o’u gwasanaethu.

    Mewn datganiad ar y cyfryngau cymdeithasol dywedodd mai “anrhydedd fwyaf” ei bywyd oedd bod yn brif weinidog ar ei gwlad a chynrychioli ei hetholaeth yn y Senedd.

    Diolchodd i’w thîm, ffrindiau, cyd-weithwyr a phobl Cymru gan ddweud ei bod yn “hynod falch o’r hyn rydyn ni wedi ei gyflawni gyda’n gilydd” gan gynnwys cefnogi’r GIG a buddsoddi mewn pobl ifanc.

    Meddai: “At Lywodraeth newydd Cymru, anfonaf fy nymuniadau gorau. Beth bynnag yw ein gwahaniaethau gwleidyddol, rwy'n credu ein bod ni i gyd eisiau'r un peth yn y bôn: Cymru decach, gryfach a mwy hyderus.”

    Ychwanegodd: “Mae Cymru'n genedl fach â chalon fawr. Mae ei stori yn dal i gael ei hysgrifennu, ac rwy'n falch iawn o fod wedi chwarae rhan yn y stori honno.

    “Diolch i chi, o waelod fy nghalon, am y fraint o wasanaethu ein gwlad.”

  4. Sut mae'r Senedd yn edrych ar ei newydd wedd?wedi ei gyhoeddi 18:41 GMT+1 12 Mai

    Mae'r 43 o aelodau Plaid Cymru yn golygu mai nhw yw'r blaid fwyaf yn y Senedd newydd, ond maen nhw chwe aelod yn brin o fwyafrif.

    Mae hyn yn golygu y byddan nhw angen cefnogaeth pleidiau eraill i basio deddfau a'u cyllideb.

    Senedd
  5. Beth oedd canlyniad yr etholiad?wedi ei gyhoeddi 18:26 GMT+1 12 Mai

    Os ydych chi wedi bod yn byw dan garreg, roedd 'na etholiad yng Nghymru ddydd Iau diwethaf, gyda 96 aelod o'r Senedd yn cael eu hethol.

    Roedd hynny dan system newydd, gyda 16 o etholaethau mwy o ran maint yn ethol chwe aelod i'w cynrychioli yn y Senedd.

    Plaid Cymru enillodd y nifer fwyaf o seddi, a hynny'n cynnwys o leiaf dau aelod ym mhob un o'r 16 etholaeth.

    Reform UK ddaeth yn ail ar 34, ac mae ganddyn nhw o leiaf un aelod ym mhob etholaeth.

    Mae Llafur wedi mynd o'r blaid fwyaf yn y Senedd ddiwethaf i'r trydydd safle nawr, tra bo'r Ceidwadwyr hefyd wedi colli tir.

    Mae'r Blaid Werdd wedi ethol eu haelodau cyntaf i'r Senedd - dau ohonyn nhw - tra bo' arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, Jane Dodds, wedi cadw ei sedd ac yn parhau fel unig aelod ei phlaid ym Mae Caerdydd.

    Map
  6. 'Rhaid i Blaid Cymru godi cyflog gweithwyr gwasanaethau cyhoeddus'wedi ei gyhoeddi 18:12 GMT+1 12 Mai

    Yn ymateb i benodiad Rhun ap Iorwerth yn brif weinidog newydd Cymru, dywedodd ysgrifennydd rhanbarthol undeb Unsain Cymru, Jess Turner, fod y blaid "wedi gwneud ymrwymiadau maniffesto sy’n cyd-fynd yn agos â blaenoriaethau y mae gweithwyr gwasanaethau cyhoeddus wedi bod yn eu codi ers blynyddoedd".

    "Rhaid i’r addewidion hynny nawr ddod yn gamau gweithredu sydd wedi’u hariannu’n briodol," meddai.

    "Mae Unsain yn disgwyl i Rhun ap Iorwerth gyflawni ei addewid i sicrhau codiadau cyflog blynyddol i weithwyr gwasanaethau cyhoeddus."

    Ychwanegodd y bydd "gweithwyr gwasanaethau cyhoeddus yn barnu’r Senedd yma ar gyflawniad".

    "Rhaid i’r llywodraeth newydd nawr droi ymrwymiadau maniffesto yn weithredu."

  7. Dim cynllwyn i’w benodi, meddai’r Llywydd newyddwedi ei gyhoeddi 17:55 GMT+1 12 Mai

    Yn gynharach heddiw fe wnaeth arweinydd y Ceidwadwyr Darren Millar gyhuddo Plaid Cymru a’r Blaid Lafur o "gynllwynio" i benodi Huw Irranca-Davies yn Llywydd.

    Fe gafodd Mr Irranca-Davies gefnogaeth gan y Senedd gyfan bron, heblaw am naw wnaeth bleidleisio yn ei erbyn ac un wnaeth ymatal. Mae hynny'n golygu bod aelodau Reform UK wedi ei gefnogi.

    Yn ei gyfweliad cyntaf gyda'r BBC ers cael ei benodi dywedodd Huw Irranca-Davies bod Darren Millar “yn bell o fod yn gywir".

    “Roeddech chi'n gallu gweld hynny o ymateb yr aelodau eraill yn y Siambr ac mae'n debyg y rhai yn yr oriel hefyd," meddai.

    Felly, a oedd yn bryderus am beth fyddai pobl yn feddwl o gael Llywydd o’r Blaid Lafur a phrif weinidog o Blaid Cymru yn dilyn etholiad wnaeth newid y drefn wleidyddol yng Nghymru?

    Byddai cyfle yn y dyfodol i gael dirprwy Lywydd arall, meddai, yn ogystal â Kerry Ferguson o Blaid Cymru.

  8. Angen gwarant frenhinol i Lywydd y Senedd o Balas Buckinghamwedi ei gyhoeddi 17:48 GMT+1 12 Mai

    Mae angen i Rhun ap Iorwerth gael ei dyngu’n ffurfiol fel prif weinidog cyn y gall ddechrau cyflawni ei ddyletswyddau.

    Mae hynny’n gofyn am warant frenhinol i Lywydd y Senedd o Balas Buckingham.

    Mae'n ymddangos bod ychydig o oedi oherwydd hyn.

  9. 'Angen llawer mwy o fuddsoddiad ar ysgolion'wedi ei gyhoeddi 17:42 GMT+1 12 Mai

    Mae Laura Doel, ysgrifennydd cenedlaethol undeb penaethiaid addysg NAHT Cymru wedi llongyfarch Rhun ap Iorwerth ar gael ei ethol yn brif weinidog.

    “Roedd maniffesto Plaid Cymru yn cydnabod rhai o’r pwysau allweddol ar ysgolion – o gefnogi plant ag anghenion dysgu ychwanegol i effaith materion fel tlodi ac afiechyd meddwl," meddai.

    “Ond bydd angen llawer mwy o fuddsoddiad ar ysgolion, gyda llawer yn wynebu pwysau ariannol difrifol sy’n llesteirio eu gallu i ddarparu’r addysg y mae pobl ifanc yn ei haeddu.”

    Laura Doel
  10. A helo i'r rhai newydd!wedi ei gyhoeddi 17:33 GMT+1 12 Mai

    Mae'r nifer fwyaf erioed o aelodau wedi'u hethol i gynrychioli'r cyhoedd yn y Senedd - 96.

    Ac o'r 96 hynny mae 67 ohonyn nhw'n aelodau cwbl newydd - record arall.

    Un sydd ymhlith y 67 newydd yw Paul Rock, AS y Blaid Werdd dros etholaeth Caerdydd Ffynnon Taf.

    Dywedodd ei fod yn teimlo fel "diwrnod cyntaf ysgol eto".

    "Mae pob dydd hyd yn hyn wedi dod â phrofiad newydd, o dyngu llw am y tro cyntaf i ddelio gyda'r holl waith papur a dod yn gyfarwydd gyda'r Senedd ei hun."

    pedwar aelod newydd
    Disgrifiad o’r llun,

    O'r chwith uchaf gyda'r cloc: Anna Brychan, Zaynub Akbar, Helen Jenner a Paul Rock

    Wyneb newydd arall yw Zaynub Akbar - Plaid Cymru, sydd â chefndir ym myd chwaraeon - ar un adeg roedd hi'n rhan o dîm gymnasteg GB.

    "Fi oedd un o'r cyntaf i dyngu llw ddydd Gwener... profiad arbennig yn ei hun," meddai.

    "Dwi'n dechrau dod i ddeall pethau'n well ond mae fe'n teimlo fel dechrau blwyddyn 7 eto, gyda fy ffolder llawn gwaith darllen pwysig a fy mag anferth."

    Disgrifiad,

    Helen Jenner o Reform yn trafod y broses o ddechrau fel aelod newydd o’r Senedd

    Mae Helen Jenner yn un o'r 34 aelod Reform UK sydd wedi eu hethol i'r Senedd.

    "O'n i yn y dosbarth yn dysgu chwe wythnos yn ôl, felly ma' hwn yn hollol newydd i fi," meddai ar raglen Dros Frecwast.

    "Cyn dod i'r Senedd do'n i ddim yn gwybod be' i ddisgwyl ond dwi bendant yn barod i weithio'n galed."

    Nid Helen Jenner yw'r unig aelod newydd o'r Senedd gyda chefndir ym myd addysg.

    Roedd Anna Brychan o Blaid Cymru yn gyfarwyddwr undeb prifathrawon (NAHT) Cymru cyn troi ei llaw at wleidyddiaeth.

    Nawr yn aelod o'r Senedd am y tro cyntaf, mae hi'n ceisio dygymod â'i chyfrifoldeb newydd.

    "Does dim byd yn wirioneddol yn paratoi chi ar gyfer y ffaith eich bod chi wedi cael eich ethol," meddai.

    "Dyw e ddim cweit yr un peth, gwybod bod e'n debygol o ddigwydd, a derbyn y cyfrifoldeb o flaen etholwyr yn fyw ar y teledu."

  11. Hwyl fawr i hen wynebau...wedi ei gyhoeddi 17:27 GMT+1 12 Mai

    Fe wnaeth 16 AS geisio yn aflwyddiannus i gael eu hail-ethol - wyth o'r blaid Lafur, pump o'r Ceidwadwyr, un o Blaid Cymru a dau aelod annibynnol.

    Gall cyn-aelodau'r Senedd a geisiodd gael eu hail-ethol yn aflwyddiannus hawlio dau fath o daliad.

    Yn gyntaf, taliad dirwyn i ben, sef tri mis o gyflog. Yn ail, taliad ailsefydlu, sef cyflog un mis am bob blwyddyn (ddi-dor) yr oeddent yn AS, hyd at uchafswm o chwe mis o gyflog – gall hyn fod yn uwch os oedd gan yr AS swydd ychwanegol o fewn y Senedd.

    Gall person sy'n gadael am nad oeddyn nhw'n ymgeiswyr, hawlio taliad dirwyn i ben sy'n cyfateb i ddau fis o gyflog.

    Eluned Morgan
    Disgrifiad o’r llun,

    Eluned Morgan - y prif weinidog cyntaf i golli ei sedd yn hanes Prydain fodern

    Pwy oedd yr aelodau aflwyddiannus?

    Llafur: Hannah Blythyn, Alun Davies, Eluned Morgan, Rhianon Passmore, David Rees, Jack Sargeant, Carolyn Thomas a Buffy Williams

    Ceidwadwyr: Gareth Davies, Tom Giffard, Altaf Hussain, Joel James a Samuel Kurtz

    Plaid Cymru: Luke Fletcher

    Annibynnol: Rhys ab Owen a Russell George

    Gallwch ddarllen mwy am y bobl fu'n aflwyddiannus yma.

  12. '100 diwrnod cyntaf llywodraeth newydd yn hollbwysig' i brifysgolionwedi ei gyhoeddi 17:20 GMT+1 12 Mai

    Wrth longyfarch Rhun ap Iorwerth dywedodd corff Prifysgolion Cymru eu bod yn barod i weithio gyda’r llywodraeth newydd i "adeiladu Cymru decach, gryfach a mwy llewyrchus".

    Dywedodd yr Athro Elwen Evans KC, cadeirydd Prifysgolion Cymru, bod ganddyn nhw "rôl glir" i "ryddhau potensial Cymru".

    "Rydym yn rhan hanfodol o seilwaith y wlad – yn sbarduno cyfleoedd a thwf, yn cefnogi gwasanaethau cyhoeddus, ac yn darparu ymchwil ac arloesedd o’r radd flaenaf yn fyd-eang.

    "Bydd 100 diwrnod cyntaf Llywodraeth newydd Cymru yn hollbwysig i brifysgolion Cymru - ac i economi Cymru - gan lunio canlyniadau am flynyddoedd i ddod."

  13. Jo Stevens yn llongyfarch Rhun ap Iorwerthwedi ei gyhoeddi 17:13 GMT+1 12 Mai

    Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru Jo Stevens wedi "llongyfarch Prif Weinidog newydd Cymru, Rhun ap Iorwerth, a phawb sydd wedi’u hethol i’r Senedd wythnos diwethaf".

    Dywedodd y “bydd cyhoedd Cymru yn disgwyl gweld eu dwy lywodraeth yn gweithio gyda’i gilydd i fynd i’r afael â chostau byw, gwella gwasanaethau cyhoeddus, creu swyddi a sbarduno twf economaidd".

    “Fel Ysgrifennydd Gwladol Cymru, rwy’n edrych ymlaen at weithio’n gynhyrchiol gyda’r Llywodraeth Cymru newydd i gyflawni er budd pobl Cymru.”

    Mae Jo Stevens wedi bod yn cynrychioli Dwyrain Caerdydd yn San Steffan ers mis Gorffennaf 2024, ac wedi buddugoliaeth Llafur yn 2024 cafodd ei phenodi yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru.

    Jo StevensFfynhonnell y llun, Getty Images
  14. Torri allyriadau carbon - un o addewidion mwyaf uchelgeisiol Plaid Cymruwedi ei gyhoeddi 17:06 GMT+1 12 Mai

    Steffan Messenger
    Gohebydd Amgylchedd BBC Cymru

    Mae lle i ddadlau taw un o'r addewidion mwyaf uchelgeisiol ym maniffesto Plaid Cymru oedd torri allyriadau carbon y wlad yn llawer cynt - gan gyrraedd sero net erbyn 2040.

    Roedd Plaid Cymru arfer dymuno gwneud hynny erbyn 2035, ond mae'r nod ddiweddaraf dal i fod degawd ynghynt na'r targed sydd gan Gymru a'r DU ar hyn o bryd - 2050.

    Mae cynllun 100 diwrnod cyntaf Plaid Cymru'n dweud y byddan nhw'n "cychwyn gwaith ar ddiweddaru Cynllun Gweithredu Hinsawdd a Natur, fydd yn canolbwyntio ar lunio llwybr ymarferol at sero net erbyn 2040".

    Bydd yn golygu ymdrech aruthrol ar draws yr holl feysydd y mae gan Lywodraeth Cymru reolaeth drostyn nhw - o ynni a thai, i drafnidiaeth ac amaeth.

    Tra bydd nifer o bobl yn croesawu ymateb cynt i dorri allyriadau yn wyneb newid hinsawdd, bydd nifer hefyd sy'n amheus yn honni a yw gwneud hynny erbyn 2040 yn ymarferol - yn enwedig o gofio bod angen i Lywodraeth y DU, busnesau, a ni i gyd chwarae'n rhan hefyd.

    Ac yn y Senedd bydd Plaid yn wynebu prif wrthblaid yn ffurf Reform, sydd am gael gwared â pholisïau a thargedau sero net.

  15. 'Angen i’r prif weinidog flaenoriaethu tlodi plant'wedi ei gyhoeddi 17:01 GMT+1 12 Mai

    Wrth ymateb i benodiad Rhun ap Iorwerth yn Brif Weinidog Cymru, dywedodd Melanie Simmonds, pennaeth Achub y Plant Cymru: “Rydym yn llongyfarch y prif weinidog ar ei benodiad ac yn croesawu ei ymrwymiad cyhoeddus i fynd i’r afael â thlodi plant.

    "Rhaid i hyn fod yn brif flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru gan mai dim ond unwaith mae plentyndod yn digwydd.

    “Mae anghyfiawnder tlodi plant wedi cael ei deimlo’n ddwfn yng Nghymru ers degawdau gydag un o bob tri o blant yn dal i fynd heb hanfodion sylfaenol a’r cyfleoedd i ffynnu.

    “Mae graddfa y broblem yn mynnu penderfyniadau beiddgar gan y llywodraeth newydd. Yn benodol, rydym yn galw am Daliad Plant Cymru i roi mwy o gymorth i deuluoedd ar incwm isel.

    "Rhaid cyflawni hyn fel rhan o gynllun gweithredu clir gyda thargedau mesuradwy i gyd-fynd â strategaeth tlodi plant.”

  16. 'Rhywbeth wedi newid ar dir Cymru'wedi ei gyhoeddi 16:56 GMT+1 12 Mai

    Wrth i Elin Jones orffen ei chyfnod fel Llywydd, bu'n sôn am y cyffro o weld llwyddiant Plaid Cymru yn yr etholiad a'r cyfrifoldeb nawr i lywodraethu'n llwyddiannus

    "Mae wedi bod yn ganlyniad arbennig iawn i Blaid Cymru ac mae 'na gyfle nawr i Blaid Cymru fynd ati i ffurfio Llywodraeth i Gymru, ac mae hynny yn gam sylweddol mawr i'r blaid, ond i'r wlad hefyd.

    "Ni'n teimlo bod rhywbeth wedi newid ar dir Cymru i fod yn rhoi'r gefnogaeth yna i Blaid Cymru yr wythnos ddiwethaf, ac fe fydd y disgwyliadau'n uchel iawn o'r llywodraeth hynny pan ddaw hi â chyfrifoldeb ar ysgwyddau holl aelodau Plaid Cymru yn y Senedd i fyw lan i'r cyfrifoldeb yna."

    Ychwanegodd fod "cyffro mawr yn y wlad."

    "Roedd 'na gyffro rhyfeddol yn 1999... am fod aelodau Senedd Cymru yn cael eu hethol am y tro cyntaf, ond bendant, mae'r un buzz, yr un newid i'w deimlo ar waith eto, ac mae'r llwyddiant i Blaid Cymru yn anhygoel ac mor weledol hefyd - y 43 aelod yna ar risiau'r Senedd!"

  17. Rhun ap Iorwerth ar fin tyngu llw fel arweinydd Llywodraeth Cymruwedi ei gyhoeddi 16:50 GMT+1 12 Mai

    Mae Rhun ap Iorwerth wedi cyrraedd pencadlys Llywodraeth Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd.

    Rydyn ni'n aros iddo dyngu llw yn swyddogol fel arweinydd newydd y llywodraeth.

    RhunFfynhonnell y llun, Matthew Horwood/Llywodraeth Cymru
    RhunFfynhonnell y llun, Matthew Horwood/Llywodraeth Cymru
  18. Cyngor Elin Jones i'r Llywydd newyddwedi ei gyhoeddi 16:43 GMT+1 12 Mai

    Elin JonesFfynhonnell y llun, Getty Images

    Mae Elin Jones wedi trosglwyddo'r awenau i Huw Irranca-Davies fel Llywydd newydd Senedd Cymru heddiw, ac yn siarad ar Dros Frecwast fore Llun, roedd ganddi gyngor i'r person fyddai'n ei holynu.

    Dywedodd fod angen iddyn nhw "dorri eu trywydd eu hunain, i fod yn uchelgeisiol dros y Senedd, i fod eisiau gweld pob cyfle i gryfhau'r Senedd ac i wneud yn siŵr fod pawb yn bihafio o fewn y Senedd.

    "Os chi'n gallu cyflawni hynna'i gyd, yna fe fydd y cyfnod yn un cyffrous iawn i'r Llywydd newydd."

    Daeth Elin Jones yn Llywydd yn 2016 ac mae wedi treulio degawd yn cadw trefn ar aelodau'r Siambr.

    Cafodd Elin Jones ei hethol i'r Cynulliad cyntaf yn 1999 fel aelod Plaid Cymru dros Geredigion - a hi a Lynne Neagle yw'r unig aelodau gwreiddiol a fydd yn seithfed tymor y Senedd.

  19. Tad Rhun ap Iorwerth 'methu credu' llwyddiant Plaid Cymruwedi ei gyhoeddi 16:38 GMT+1 12 Mai

    Mae tad Rhun ap Iorwerth wedi dweud ei fod "methu credu" llwyddiant Plaid Cymru, gyda'i fab yn debygol o gael ei ethol yn Brif Weinidog Cymru heddiw.

    Wrth siarad ar raglen Post Prynhawn, dywedodd Edward Morus Jones ei fod yn teimlo "mor emosiynol" bod ei fab yn y fath sefyllfa.

    Yn wreiddiol o Lanuwchllyn, mae Mr Jones yn gyn-athro a chanwr adnabyddus, ac mae wedi ymgyrchu dros y Gymraeg a Phlaid Cymru ers degawdau.

    Bellach yn byw ar Ynys Môn ers peth amser, bu'n siarad gyda Nia Thomas brynhawn Llun am lwyddiant Plaid Cymru yn yr etholiad, a'i fab fel arweinydd.

    Edward Morus Jones a Rhun ap Iorwerth yn cofleidio yn ystod y cyfrif ddydd GwenerFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Edward Morus Jones a Rhun ap Iorwerth yn cofleidio yn ystod y cyfrif ddydd Gwener

    Pan ofynnwyd i Edward Morus Jones gan y BBC fore heddiw sut roedd yn teimlo i fod yn dad i brif weinidog nesaf Cymru, atebodd bod ganddo "deimlad o falchder mawr iawn, iawn, a methu credu bod hyn wedi digwydd".

    "Diolch am gael byw i weld y diwrnod."

    Ychwanegodd ei fod wedi "gweld Plaid Cymru yn tyfu ar hyd y blynyddoedd, gam wrth gam ac wedi dal ati".

  20. Mewnflwch yr ysgrifennydd iechyd newydd yn prysur lenwiwedi ei gyhoeddi 16:33 GMT+1 12 Mai

    Owain Clarke
    Gohebydd iechyd BBC Cymru

    Mae meddygon preswyl ysbytai (oedd yn cael eu hadnabod gynt fel meddygon iau) eisoes wedi datgan anghydfod ariannol yn ymwneud â'r 3.5% o godiad cyflog gafodd ei gynnig gan y llywodraeth Lafur ddiwethaf, ynghyd â'r penderfyniad i rewi llefydd hyfforddi.

    Ond fe fydd undebau sy'n cynrychioli nyrsys, gweithwyr ambiwlans a staff eraill yn y gwasanaeth hefyd yn gwthio am well cyflogau a thelerau i'w haelodau nhw.

    Bydd pawb yn chwilio am ychydig yn rhagor - a chyfrifoldeb y llywodraeth newydd fydd ystyried a chydbwyso'r amrywiol alwadau.

    Mwy na hynny, mewn ychydig dros wythnos (dydd Iau, 21 Mai) bydd angen i'r llywodraeth newydd ymateb i'r ystadegau iechyd misol diweddaraf.

    Fe fydd y rhain yn ffigyrau ar gyfer Mawrth ac Ebrill ac fe fyddan nhw'n cadarnhau unwaith eto fod targedau rhestrau aros a gafodd eu gosod gan y Llywodraeth Lafur ddiwethaf wedi'u methu.

    Gan mai adlewyrchu'r sefyllfa cyn yr etholiad fydd y ffigyrau - bydd dim galw ar Blaid Cymru i gymryd cyfrifoldeb amdanyn nhw.

    Ond mi fyddan nhw'n dangos, mewn du a gwyn, maint yr heriau mae'r llywodraeth newydd yn eu hetifeddu.

    Er enghraifft, fe fyddan nhw’n dangos faint o waith pellach sydd angen i'w gyflawni i leihau rhestrau aros, fel mae Plaid Cymru yn ei addo, i'r lefelau oedden nhw cyn y pandemig.

    Ond fe fyddan nhw hefyd yn dangos y pwysau parhaol a sylweddol sydd ar unedau brys yn ogystal â dangos bod amseroedd aros am driniaeth canser yn parhau'n dipyn gwaeth na'r targedau.

    Mae mewnflwch pwy bynnag fydd yr ysgrifennydd iechyd newydd yn prysur lenwi...