Diolch am ddilynwedi ei gyhoeddi 19:03 GMT+1 12 Mai
Dyna'r cyfan gan ein tîm ar y llif byw am heddiw - diwrnod hanesyddol wrth i Blaid Cymru ethol prif weindog am y tro cyntaf.
Dyma grynhoi'r cyfan ddigwyddodd yn fyr:
- Mae arweinydd Plaid Cymru wedi cael ei ethol yn Brif Weinidog Cymru yn dilyn pleidlais yn y Senedd
- Dywedodd yn ei araith mai dyma "fraint fy mywyd" a bod "ein dyddiau gorau o'n blaenau"
- Mae'n dal i aros i dyngu llw fel mae'n sefyll, ond y disgwyl yw y bydd hynny'n digwydd rhyw ben heno
- Dywedodd Reform, Llafur a'r Ceidwadwyr y byddan nhw'n wrthbleidiau cryf fydd yn dal y llywodraeth i gyfrif
- Cyn hynny fe gafodd y cyn-ddirprwy brif weinidog Huw Irranca-Davies o'r blaid Lafur ei ethol yn Llywydd y Senedd
- Kerry Ferguson - AS newydd Plaid Cymru - gafodd ei dewis i fod yn ddirprwy Lywydd
Bydd rhagor o fanylion ar hafan BBC Cymru Fyw dros yr oriau a'r dyddiau nesaf.
Diolch am ddilyn, a hwyl am y tro.
Ffynhonnell y llun, Getty Images










