Crynodeb

  1. Hwyl am y trowedi ei gyhoeddi 11:54 GMT+1 30 Mawrth

    Mae'n llif byw ni'n dod i ben am heddiw, ond fe gewch chi ragor o ddadansoddiad o addewidion Llafur ar brif dudalen Cymru Fyw gydol y dydd.

    Cofiwch hefyd mae'r BBC eisiau clywed pa straeon rydych chi am i ni fwrw golwg arnyn nhw cyn yr etholiad.

    Bydd Dy Lais yn rhoi lle canolog i'ch straeon a'ch cwestiynau yn ein darllediadau etholiadol.

    Cliciwch y botwm isod i gyflwyno'ch syniad, a gallai gael ei gynnwys ar raglen deledu, radio, gwasanaethau ar-lein y BBC, BBC Sounds ac ar gyfryngau cymdeithasol.

    Ewch yma i gyflwyno syniad.

    Dy Lais
  2. Rhybudd am beryglon 'newid er mwyn newid'wedi ei gyhoeddi 11:50 GMT+1 30 Mawrth

    Gareth Lewis
    Golygydd Gwleidyddol BBC Cymru

    Mae'r etholiad yma ynglŷn â "phwy sydd o ddifri' am symud Cymru ymlaen", dyna oedd neges Eluned Morgan heddiw.

    Fe bwysleisiodd hi mai Llafur sydd â'r profiad i wneud hynny, o gymharu â'r pleidiau eraill, gan rybuddio pleidleiswyr am y peryglon o "newid er mwyn newid".

    Neges y prif weinidog a'i dirprwy, Huw Irranca Davies oedd bod Llafur yn cynnig sefydlogrwydd, ond hefyd "pennod newydd".

    A fydd pleidleiswyr yn cytuno?

    Mae'r polau piniwn yn awgrymu y bydd nifer o bobl yn edrych am blaid newydd ar ôl 27 mlynedd o arweinyddiaeth Llafur yng Nghymru.

  3. Y gynhadledd mewn lluniauwedi ei gyhoeddi 11:45 GMT+1 30 Mawrth

    Eluned Morgan yn cyfarch y dorf yn y gynhadledd
    Disgrifiad o’r llun,

    Eluned Morgan yn cyfarch y dorf yn y gynhadledd

    Mark Drakeford yn y gynhaldedd
    Disgrifiad o’r llun,

    Mark Drakeford yn y gynhadledd

    'Pennod Newydd i Gymru' yw'r teitl ar flaen y maniffesto
    Disgrifiad o’r llun,

    'Pennod Newydd i Gymru' yw'r teitl ar flaen y maniffesto

    Mark D
  4. 'Nid pennod newydd ond pennod olaf' - Plaid Cymruwedi ei gyhoeddi 11:41 GMT+1 30 Mawrth

    Wrth ymateb i lansiad maniffesto Llafur, dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru:

    “Nid pennod newydd yw maniffesto Llafur. Dyma’r bennod olaf mewn llyfr y mae pobl Cymru eisoes wedi’i gau.

    “Bydd pobl Cymru’n meddwl heddiw pam, ar ôl 27 mlynedd mewn llywodraeth, nad yw nifer fawr o’r addewidion hyn eisoes wedi’u cyflawni."

  5. Dim datrysiad i faterion iechyd sydd ddim yn rhai bryswedi ei gyhoeddi 11:35 GMT+1 30 Mawrth

    Jenny Rees
    Gohebydd Materion Cartref BBC Cymru

    Roedd yr addewid iechyd mawr yn y maniffesto eisoes wedi cael ei awgrymu - pot o £4bn ar gyfer ysbytai newydd yn Wrecsam, Caerdydd a gorllewin Cymru.

    Rhaid gweld hynny gyda'r amod mawr bod ysbytai newydd yn cymryd blynyddoedd i'w cynllunio, eu cymeradwyo, eu hariannu a'u hadeiladu.

    Pan fo canolfannau llawfeddygol a diagnostig, yn ogystal â gofal yn agosach at adref, hefyd ymhlith yr addewidion yn y maniffesto yma, efallai na fydd yr union beth sydd wedi'i gynnwys mewn "ysbyty'r dyfodol" mor amlwg ag yr oedd ar un adeg.

    Yn y cyfamser, mae tua £1bn mewn ôl-groniadau atgyweiriadau sydd eu hangen ar yr ystâd bresennol i'r llywodraeth nesaf ymdopi â nhw.

    Mae'r addewid newydd yma weld meddyg o fewn 48 awr, os oes gennych angen gofal sylfaenol brys, yn gydnabyddiaeth bellach nad yw pob practis meddyg teulu wedi gallu cael gwared ar y ras am apwyntiad ben bore.

    Ond dydy hi ddim wir yn cyrraedd craidd y rhwystredigaeth i lawer: yn aml mae anghenion brys yn cael eu trin yn dda, yn enwedig gan y gall fferyllfeydd neu unedau mân anafiadau fod yn ddewisiadau eraill. Y rhai y gall eu symptomau aros ychydig yn hirach fydd ddim yn gweld unrhyw atebion yma.

  6. Addewidion ar yr amgylcheddwedi ei gyhoeddi 11:29 GMT+1 30 Mawrth

    Steffan Messenger
    Gohebydd Amgylchedd BBC Cymru

    Mae'r addewidion amgylcheddol yn adeiladu ar bethau sydd eisoes ar waith yn bennaf - fel sefydlu corff newydd i reoli diogelwch tomenni glo, a rheoleiddio'r sector dŵr.

    Maen nhw'n ailddatgan eu hymrwymiad i dargedau fel sector cyhoeddus sero net, a diogelu 30% o dir a môr Cymru ar gyfer natur erbyn 2030.

    Mae'r blaid hefyd yn addo "cymryd y camau olaf" tuag at greu parc cenedlaethol newydd yn y gogledd ddwyrain, ar ôl cyhoeddi ymchwiliad cyhoeddus lleol yr wythnos ddiwethaf.

    O ran gwybodaeth newydd, mae'r maniffesto yn cadarnhau'r bwriad i "gynyddu cyfyngiadau ar saethu adar hela", mae sôn am gynnal "Uwchgynhadledd Buddsoddi Natur" a chreu "tasglu dad-ddofi trefol" (urban rewilding taskforce) i roi hwb i fywyd gwyllt mewn trefi a dinasoedd.

    Ffesant
  7. Dadansoddiad Daniel Davieswedi ei gyhoeddi 11:24 GMT+1 30 Mawrth

    Mae Gohebydd Gwleidyddol y BBC, Daniel Davies wedi bod yn y lansiad yn Abertawe y bore ma.

    Dyma oedd ei argraffiadau wedi'r gynhadledd.

  8. Huw Irranca-Davies - arweinydd nesaf Llafur?wedi ei gyhoeddi 11:15 GMT+1 30 Mawrth

    Rhys Owen
    Gohebydd gwleidyddol Golwg

    Fe welson ni'r Dirprwy Brif Weinidog, Huw Irranca-Davies yn gynharach yn y lansiad, ond mae gohebydd Golwg, Rhys Owen yn damcaniaethu y gallai fod yn arweinydd y blaid yn y dyfodol.

    Swydd Huw Irranca-Davies yma oedd gosod y cyd-destun, ac i ymosod ar y gwrthbleidiau.

    Dywedodd fod Reform eisiau defnyddio etholiad y Senedd fel modd o roi “springboard” i Nigel Farage i fewn i Rif 10.

    Mae Plaid Cymru hefyd dan y lach, a hynny am benderfyniad i bleidleisio yn erbyn Bil Hillsborough yn San Steffan.

    Ond gyda’r arolygon barn yn argymell brwydr i Eluned Morgan gadw ei sedd ym mis Mai, ai Huw Irranca-Davies fydd arweinydd nesaf Llafur Cymru?

    HID a EMFfynhonnell y llun, Getty Images
  9. Addewid i 'amddiffyn dyfodol hirdymor' prifysgolionwedi ei gyhoeddi 11:10 GMT+1 30 Mawrth

    Bethan Lewis
    Gohebydd Addysg a Theulu BBC Cymru

    Fe fydd rhai mewn addysg yn croesawu’r ffaith nad oes yna addewidion mawr trawiadol ar ysgolion yn y maniffesto yma.

    Mae diwygiadau sylfaenol i’r cwricwlwm a'r system anghenion dysgu ychwanegol wedi rhoi pwysau mawr ar y sector.

    Mae Llafur Cymru yn addo rhoi sylw penodol ar lythrennedd a rhifedd ond byddai beirniaid yn dadlau bod y pryderon mawr am safonau sylfaenol addysg yn adlewyrchu’n wael ar eu cyfnod nhw wrth y llyw.

    Mae ymrwymiad i roi mwy o brydau ysgol am ddim mewn ysgolion uwchradd.

    Ar addysg uwch, mae addewid i “amddiffyn dyfodol hirdymor” prifysgolion a cholegau ond heb ryw lawer o fanylion.

    Fe fydd darpar fyfyrwyr a'u teuluoedd hefyd yn awyddus am fwy o wybodaeth am sut fyddai cynllun ad-dalu benthyciadau myfyrwyr i Gymru yn unig yn gweithio ar adeg pan mae cyllid myfyrwyr yn uchel ar yr agenda.

    Mae gofal plant yn faes lle mae'r holl bleidiau yn addo gweithredu ac fe wnaeth Llafur ganolbwyntio ar ymestyn gofal plant am ddim i bob plentyn dwy oed yn y Senedd yma.

    Dy’n nhw ddim wedi cwblhau hynny ond nawr maen nhw’n dweud y bydden nhw’n ei gyflwyno’n raddol i blant o naw mis pe bai nhw’n dychwelyd i’r llywodraeth.

  10. Ymateb i gostau bywwedi ei gyhoeddi 11:05 GMT+1 30 Mawrth

    Felicity Evans
    BBC Cymru

    Mae Eluned Morgan yn gwybod fod costau byw yn bwnc sy'n cael ei drafod ac yn un pwysig yn yr etholiad ym mis Mai.

    Felly, mae hi'n pwysleisio ei chynlluniau ar gyfer teithiau bws rhatach ac ymestyn cynlluniau gofal plant.

    Fe gafodd "biliau ynni rhatach" ei grybwyll hefyd, gyda'r maniffesto yn addo cefnogi 100,000 o dai i fod yn fwy cynaliadwy o ran egni dros gyfnod y senedd nesaf.

  11. Morgan 'ddim am ddweud unrhyw beth i gael ein hail-ethol'wedi ei gyhoeddi 11:01 GMT+1 30 Mawrth

    Rhys Owen
    Gohebydd gwleidyddol Golwg

    Mae’n ymddangos fod Eluned Morgan eisiau pwysleisio fod maniffesto Llafur Cymru wedi’i seilio ar realaeth.

    Ond mewn Cymru sy’n ymddangos ei fod yn barod am newid - ydy’r neges yma’n ddigon trylwyr i ddod â’r gefnogaeth sydd ei angen?

    Oherwydd ar ddiwedd y dydd, gêm niferoedd yw gwleidyddiaeth.

  12. Ymgyrch olaf nifer o wynebau cyfarwyddwedi ei gyhoeddi 10:57 GMT+1 30 Mawrth

    Bydd sawl aelod o'r Blaid Lafur yn ymddeol o'r Senedd eleni.

    Ni fydd y seithfed Senedd yn cynnwys Jeremy Miles, Jenny Rathbone, Lee Waters, John Griffiths, Mick Antoniw, Julie James, Jane Hutt, Lesley Griffiths, Julie Morgan, Rebecca Evans, Joyce Watson na Dawn Bowden.

    Hefyd yn sefyll lawr eleni mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, a chyn-Brif Weinidog Cymru, Mark Drakeford.

    drakeford
    Disgrifiad o’r llun,

    Mark Drakeford yn lansiad y maniffesto yn Abertawe y bore 'ma

  13. Addewid Morgan yn 'gliriach na'r addewid yn 2021'wedi ei gyhoeddi 10:54 GMT+1 30 Mawrth

    Daniel Davies
    Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru

    Bwriad maniffesto yw egluro beth fydd plaid wleidyddol yn ei wneud. Ond mae Llafur yn defnyddio'r cyfle i addo PEIDIO â gwneud rhywbeth.

    Ni fyddai llywodraeth Lafur yn codi cyfraddau'r dreth incwm dan ei grym.

    Fe ddywedon nhw'r un peth cyn yr etholiad diwethaf, ond dan yr amod y gallai’r dreth godi ar ôl i'r economi wella o Covid.

    Yn y diwedd, ni ddigwyddodd hynny – gan olygu nad ydy’r llywodraeth wedi defnyddio ei grym dros y dreth ers ei ddatganoli yn 2019.

    Mae addewid Eluned Morgan yn gliriach na'r addewid yn 2021. Efallai mai ei bwriad yw i wahaniaethau ei hun o'i rhagflaenydd, Mark Drakeford.

    Ond dyw e ddim yn golygu y byddwch chi'n talu llai o dreth. Mae polisïau’r canghellor Rachel Reeves yn golygu y bydd mwy o bobl yn talu'r dreth dros y blynyddoedd nesaf – ac y bydd rhagor o bobl yn symud mewn i fandiau treth uwch wrth i gyflogau godi.

    Pobl Llafur
  14. Llafur eisiau gwlad 'annibynnol o ran ynni'wedi ei gyhoeddi 10:47 GMT+1 30 Mawrth

    Steffan Messenger
    Gohebydd Amgylchedd BBC Cymru

    Mae dyfodol cyflenwadau ynni yn bwnc trafod amlwg ar hyn o bryd ar ôl i'r rhyfeloedd yn Iran ac Wcrain arwain at gynnydd aruthrol ym mhrisiau olew a nwy.

    Mae Llafur Cymru'n dweud eu bod nhw'n anelu tuag at greu gwlad sy'n "annibynnol o ran ynni".

    Roedd y llywodraeth Lafur presennol ym Mae Caerdydd wedi gosod targed yn barod o sicrhau bod 100% o anghenion trydan y wlad yn cael eu hateb gan ffynonellau adnewyddadwy - fel ynni gwynt, solar, hydro a morol - erbyn 2035.

    Erbyn 2024, roedden ni wedi cyrraedd 54% felly mae dipyn o ffordd i fynd.

    Mae disgwyl i'r galw am drydan gynyddu'n sylweddol hefyd yn ystod y degawdau sydd i ddod wrth i bobl newid at geir trydan, pympiau gwres yn eu cartrefi ac wrth i fwy o ganolfannau data gael eu hadeiladu a diwydiannau ddibynnu fwyfwy ar AI.

    Yr her arall sy'n debygol o wynebu'r blaid yn ystod yr ymgyrch yw'r gwrthwynebiad amlwg mewn rhai cymunedau ar hyn o bryd i brosiectau ynni gwynt a solar ar y tir, a'r peilonau sy'n dod yn eu sgil.

    Solar panelsFfynhonnell y llun, Getty Images
  15. Honiad dadleuol yn araith Eluned Morganwedi ei gyhoeddi 10:43 GMT+1 30 Mawrth

    Daniel Davies
    Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru

    Fel pob maniffesto, mae’r ddogfen hon yn addo mwy ac yn brolio am y pethau mae Llafur wedi gwneud.

    Ond mae ‘na honiad dadleuol yma ynglŷn ag un o bolisïau mawr Llafur.

    Maen nhw’n addo creu 100,000 o brentisiaethau, ar ol iddynt “ddarparu mwy na 100,000” ers yr etholiad diwethaf yn 2021.

    Y mis hwn daeth yn amlwg bod pennaeth yr awdurdod ystadegau wedi sgwennu at y Prif Weinidog i rybuddio nad oedd sail gadarn i’r ffigwr yma ar ôl i’r llywodraeth newid y ffordd maen nhw’n cyfri prentisiaethau.

    Ewch yma i ddarllen mwy am y ffrae.

  16. Yr araith wedi gorffenwedi ei gyhoeddi 10:41 GMT+1 30 Mawrth

    Mae Eluned Morgan wedi gorffen ei haraith gyda chymeradwyaeth gan yr ymgyrchwyr a gyrhaeddodd yn Abertawe ar gyfer y digwyddiad.

    Nid cynhadledd i'r wasg yw hon - mae'n debycach i rali mewn gwirionedd - felly ni fyddwn yn cael gofyn cwestiynau ar hyn o bryd er bod cyfweliadau'n digwydd yn ddiweddarach.

    Roedd y cyflwyniad yn llawn negeseuon allweddol - bod Llafur yn fwy difrifol na phleidiau eraill, ac yn cynnig yr hyn mae Eluned Morgan yn ei alw'n "degwch y gallwch ei deimlo".

    Yr her i Lafur yw argyhoeddi pleidleiswyr sy'n ymwybodol eu bod wedi bod wrth y llyw ers amser hir iawn yng Nghymru, mai dyma'r blaid all wneud eu bywydau'n well.

    Eluned Morgan
  17. Cymru 'yn llawn potensial' - Morganwedi ei gyhoeddi 10:39 GMT+1 30 Mawrth

    "Nid arweinyddiaeth yw protest", meddai Morgan, sy'n dadlau bod Llafur yn fwy difrifol na'i chystadleuwyr wrth lywodraethu.

    "Dewis rhwng pwy sy'n ddigon difrifol i arwain Cymru ymlaen yw'r etholiad hwn.

    "Pwy sydd â'r profiad i lywodraethu? Pwy sydd â'r hygrededd a'r record i gyflawni?"

    Mae hi'n dweud nad yw Cymru "wedi torri". "Mae'n llawn potensial."

  18. Addewid iechyd - targed arall?wedi ei gyhoeddi 10:35 GMT+1 30 Mawrth

    Rhys Owen
    Gohebydd gwleidyddol Golwg

    Addewid i gael eich gweld gan aelod o’r tîm gofal sylfaenol cyn pen 48 awr os oes gennych angen iechyd brys sy’n gysylltiedig â gofal sylfaenol.

    Y Gwasanaeth Iechyd yw lle mae diffygion cymdeithasol yn cael eu gweld yn fwyaf clir.

    Yma mae Eluned Morgan yn gwneud addewid sy’n gymwys â tharged arall.

    Mae’r Gwasanaeth Iechyd yn barod yn ei chael hi’n anodd ymdopi gyda restrau aros mewn ysbytai, ai targed arall sydd angen ei fesur sydd orau ar hyn o bryd? Neu delio hefo’r hyn sydd wedi torri yn barod?

  19. 'Bargen newydd ar gyfer y GIG' yn y maniffestowedi ei gyhoeddi 10:31 GMT+1 30 Mawrth

    Dywed Morgan fod "un mater y mae pobl yn ei godi gyda mi yn fwy nag unrhyw un arall... y GIG".

    "Mae ein gwasanaeth iechyd yn un o gyflawniadau mwyaf balch y wlad hon. Ond mae pobl yn rhwystredig.

    "Gall cael apwyntiad gyda meddyg teulu deimlo fel brwydr i rai. I lawer o deuluoedd mae cynnydd yn teimlo'n rhy araf," meddai.

    Mae'r maniffesto "yn nodi bargen newydd ar gyfer y GIG," meddai.

    Mae hi'n addo "£4bn dros y ddegawd nesaf i adeiladu ysbytai ar gyfer y dyfodol", ac "ymrwymiad clir" y bydd "pobl yn gallu cael mynediad at weithiwr gofal iechyd sylfaenol o fewn 48 awr os oes ganddyn nhw broblem na all aros mewn gwirionedd, o dan lywodraeth Lafur Cymru".

    "Os nad yw rhywbeth yn teimlo'n iawn, dylech chi allu cael cymorth yn gyflym."

    Mae cynllun gweithlu newydd yn sicrhau y bydd gennym y nifer cywir o feddygon teulu, meddai.

  20. Ddim am 'gyflawni addewidion hawdd'wedi ei gyhoeddi 10:29 GMT+1 30 Mawrth

    Dywed Morgan fod Llafur Cymru wedi amddiffyn "yr hyn sy'n bwysig" yn ystod y blynyddoedd diwethaf, a bod angen cyflwyno "tegwch y gallwch ei deimlo".

    Ni ddylai tegwch fod yn "syniad haniaethol". Mae hi'n dweud bod hynny'n dechrau gyda "bod yn onest gyda phobl".

    Mae hi'n dweud bod Llafur dan bwysau i "gyflawni addewidion hawdd". "Dydw i ddim am wneud hynny," meddai.

    "Ni fyddaf byth yn gamblo â bywydau pobl er budd gwleidyddol.

    "Ni fyddwn yn dweud unrhyw beth dim ond i ni gael ein hethol."

    Mae hi'n amlinellu un o addewidion y blaid i beidio â chodi treth incwm pe bai'n ffurfio llywodraeth nesaf Cymru.

    Ac mae Morgan yn addo 20,000 o leoedd gofal plant newydd, gan ehangu'r ddarpariaeth o naw mis oed.

    eluned Morgan