Beth sy'n newid yn etholiad y Senedd?
Iawn Cymru? Dewch yn agosach! Mae etholiadau’r Senedd ar fin cael “glow up", a dyma beth sy’n newid.
Mae’r Senedd yn tyfu o 60 aelod i 96.
Pam? Er mwyn cael gwell cynrychiolaeth - nid just mwy o seddi, meicroffonau a chwpanau coffi gwag.
Mae Aelod o’r Senedd – neu AS – yn gwneud deddfau i Gymru, nid Lloegr!
Fel - newid y cwricwlwm cenedlaethol, delio â rhestrau aros y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru a gostwng pris teithio ar drenau a bysiau.
Ar un adeg, roeddet ti’n cael dwy bleidlais yn etholiadau’r Senedd. Un ar gyfer dy ardal leol – dy etholaeth – ac un ar gyfer dy ranbarth, sy’n ardal llawer mwy.
Mae’r newid wedi gwneud pethau‘n lot symlach. Rwan, dim ond UN BLEIDLAIS sydd gen ti.
Ti’n pleidleisio dros blaid wleidyddol neu ymgeisydd annibynnol – rhywun sy ddim mewn plaid.
Syml iawn!
Ond… dio’m cweit mor hawdd â hynny. Mae pob plaid yn dewis 6 ymgeisydd ar gyfer pob etholaeth – sêt dy ardal leol – ac yn eu rhestru mewn trefnu o 1 i 6 ac yn rhoi eu ffefryn – yr un maen nhw wir isho i ennill – ar dop y rhestr.
System Rhestr Gaeedig ydy‘r enw ar y system yma.
Mae hynny’n golygu ti’n pleidleisio dros blaid, nid dros unigolyn.
Felly os ‘di Yncl Bryn yn aelod o blaid wleidyddol a ti wir isio pleidleisio drosto… fedri di ddim!
‘Ti ond yn gallu pleidleisio dros ei blaid.
A dyma’r ail “dy-dy dyyy”
Os Yncl Bryn ‘di rhif 1 ar y rhestr, mae ganddo siawns dda o ennill. Ond… os di o’n rhif 6, falle ’sa fo’n werth i ti anghofio am y dathlu.
Dyma’r dull D’Hondt.
Sut mae’n gweithio?
Mae’n dechrau drwy gyfri faint o bleidleisiau mae pob plaid yn eu derbyn, yna mae seddi’n cael eu rhoi allan un ar y tro. Ar ôl i blaid ennill ei sedd gyntaf, mae ei phleidleisiau’n cael ei hanneru, felly mae’n mynd yn anoddach iddyn nhw ennill y nesa’. Mae hyn yn parhau nes bod pob un o’r 6 sedd wedi’u llenwi.
Y canlyniad?
Mae’r pleidiau sy’n derbyn y mwyaf o bleidleisiau‘n ennill mwy o seddi. Ond mae cyfle i bleidiau llai ennill hefyd.
“Ta-ta” i’r hen system a “Helô” i’r system newydd.
O hyn allan, bydd gan Gymru 16 etholaeth, yn lle 40 etholaeth a 5 rhanbarth.
Pwy sy’n gallu pleidleisio?
Os wyt ti’n 16 oed neu’n hŷn ac yn byw yng Nghymru – llongyfarchiada’! Rwyt ti’n gallu pleidleisio!
Bydd etholiad yn cael ei gynnal bob pedair blynedd o hyn ymlaen, gan ddechrau ar y 7ed o Fai 2026.
Rho fo yn dy galendr, ar dy ffôn neu dweda wrth y ci – mae cŵn yn caru mynd i bleidleisio!
Felly dyna etholiad Senedd 2026.
Senedd fwy, un bleidlais, cynrychiolaeth mwy teg, chwe Aelod o’r Senedd ym mhob ardal.
Yr un ddemocratiaeth - ond efo “sglein” newydd sbon.
Description
Dysga am y system bleidleisio newydd a sut mae’n gweithio yn etholiad y Senedd. Darganfydda am yr etholaethau newydd a sut mae’r dull D’Hondt yn gweithio.
Rhagor ar dudalen Gwleidyddiaeth (Cymru)
Now playing video 4 of 5