Newidiadau mawr i'r etholiad nesaf
Iawn ta, closiwch mewn, Cymru. Mae trefn etholiadau’r Senedd yn newid… lot.
Mwy o wleidyddion, llai o etholaethau – nai egluro hynna mewn dipyn – a ffordd newydd o bleidleisio. Dyma fo mewn mwy o fanylder.
Yn gyntaf, etholaeth.
Gair ffansi ydy hwn am yr ardaloedd o Gymru mae gwleidyddion yn cynrychioli.
Ar hyn o bryd, mae gan Gymru 40 etholaeth a 5 rhanbarth, sef ardaloedd mawr o Gymru.
Fyddan nhw’n cael eu newid i 16 etholaeth ANFERTH.
O hyn ymlaen, bydd pob ardal yn cael ei chynrychioli gan 6 Aelod o’r Senedd neu AS i gadw pethau’n fyr.
Ar hyn o bryd mae ‘na 60 o Aelodau’r Senedd. Ar ôl etholiadau 2026 bydd ‘na 96.
Mae mwy o seddi yn golygu fydd mwy o leisiau’n cynrychioli TI, a LOT mwy yn digwydd yn Siambr y Senedd.
Nawr, dyma’r rhan sy’n newid mawr.
Fyddi di ddim yn pleidleisio dros berson o hyn allan, byddi di’n pleidleisio dros blaid.
Yn etholiadau’r Senedd yn y gorffennol, y person oedd yn derbyn y mwyaf o bleidleisiau mewn etholaeth oedd yn ennill. Y Cyntaf i’r Felin ydy’r enw ar y system bleidleisio yma.
Ond tro ’ma, mae trefn bleidleisio newydd o’r enw Cynrychiolaeth Gyfrannol. Yn syml, mae’n golygu bod y nifer o seddi sy’n cael eu hennill yn adlewyrchu nifer y pleidleisiau. Wel… ish.
Os yw plaid yn ennill tua hanner y pleidleisiau bydd yn ennill tua hanner y seddi.
Felly, yn system bleidleisio newydd y Senedd, mae pob plaid yn dewis 6 ymgeisydd – y bobl sy’n gobeithio ennill sedd – ac yn eu rhestru yn eu trefn o 1 i 6 – fel rhestr o dy hoff ganeuon ar playlist.
Fel fasa ti’n ddisgwyl, hoff ymgeisydd y blaid sydd ar top y rhestr. Nhw yw rhif 1.
Mae sawl system o beth sy’n cael ei adnabod fel ‘cynrychiolaeth gyfrannol’. Mae’r Senedd yn defnyddio system D’Hondt.
Dyma sut mae’n gweithio.
Ar ôl i’r pleidleisio orffen, maen nhw’n cyfri sawl pleidlais cafodd pob plaid a dechrau rhannu’r seddi, un ar ôl y llall.
Ar ôl i blaid ennill sedd, mae pleidleisiau’r blaid yn cael eu rhannu’n ddau. Felly, mae’n anoddach i’r blaid honno ennill ail sedd. Ond, os yw hi’n llwyddo i ennill ail sedd, mae ei phleidleisiau yn cael eu rhannu eto.
Mae hyn yn parhau nes i’r 6 sedd yn yr ardal gael eu llenwi.
Mae’n ffordd wych o sicrhau bod dy bleidlais di’n cyfri, ac mae’n ffordd deg o rannu seddi, sy’n golygu bod pleidiau sydd â mwy o bleidleisiau’n ennill mwy o seddi, ond bod gan bleidiau llai gyfle i ennill seddi hefyd.
Pam newid y system?
Roedd Llafur Cymru a Phlaid Cymru’n cefnogi’r newidiadau.
Maen nhw’n dweud bod y drefn newydd yn adlewyrchu sut mae pobl yn pleidleisio ac yn adlewyrchu eu barn ar faterion sy’n bwysig i ni.
Ond doedd pawb ddim yn gefnogol. Roedd Ceidwadwyr Cymru’n dadlau bod gofyn i bobl bleidleisio dros y blaid ac nid person yn rhoi gormod o bŵer i’r pleidiau, a llai o ddewis i’r pleidleiswyr.
Un ffordd neu’r llall, mae’n newid mawr, a gallai’r Senedd edrych yn wahanol iawn ar ôl yr etholiad.
Ond un peth sy heb newid ydy os wyt ti’n un deg chwech neu’n hŷn ac yn byw yng Nghymru, galli di bleidleisio.
Fedri di wneud hynny mewn gorsaf bleidleisio, drwy’r post, neu gall rhywun bleidleisio ar dy ran.
Ond mae angen i ti gofrestru yn gyntaf. Mae’r manylion am sut i wneud hyn ar wefan y Senedd.
Felly, bacha ar y cyfle i gael dy lais di ‘di glywed a dylanwadu ar y Senedd rwyt ti am ei gweld.
Description
Dysga am bopeth sy’n newid yn etholiad y Senedd 2026. Darganfydda pam fod ffordd newydd o bleidleisio, mwy o wleidyddion a llai o etholaethau.
Rhagor ar dudalen Gwleidyddiaeth (Cymru)
Now playing video 2 of 5