Welcome to My Bitesize, let's get you set up!

Add your subjects to find the right study guides, track progress and keep everything in one place.

Add my subjects
My Subjects

SefydliadauBancio ar-lein

Mae defnydd cynyddol o TGCh i’w weld mewn sefydliadau o bob math, ar gyfer adwerthu, masnach, bancio a systemau arbenigol.

Part ofTGChSefydliadau

Bancio ar-lein

Mae pob un o fanciau’r stryd fawr yn cynnig gwasanaeth bancio ar-lein, ac mae rhai banciau sydd ar-lein yn unig heb unrhyw ganghennau ar y stryd fawr.

Gwasanaethau

Cwsmer yn defnyddio gwasanaeth bancio ar-lein ganol nos ar ddiwrnod cyflog.

Gall cwsmer sydd â mynediad at wasanaeth bancio ar-lein:

  • edrych faint o arian sydd ganddo yn y banc
  • gweld/argraffu datganiadau banc cyfredol a blaenorol
  • talu biliau ar-lein, hynny yw sefydlu debydau uniongyrchol ac archebion sefydlog
  • creu cyfrifon newydd, ar wahân at ddibenion penodol, er enghraifft cynilion
  • trosglwyddo arian rhwng ei gyfrifon ei hun ac i gyfrif rhywun arall

Manteision i gwsmeriaid

  • Hwylus - bancio pan mae’n gyfleus iddyn nhw, 24 awr y diwrnod, 365 diwrnod y flwyddyn o unrhyw gyfrifiadur sydd â .
  • Cyfraddau llog uwch - mae arbedion y mae banciau’n eu gwneud drwy lai o gostau staff, llai o safleoedd a mwy o awtomeiddio yn golygu eu bod yn gallu cynnig cyfraddau llog uwch.
  • Mwy o ymwybyddiaeth o’r farchnad - edrych ar bob banc i weld pa gyfraddau llog maen nhw’n eu cynnig ar-lein.

Pryderon cwsmeriaid

  • Cau canghennau bach, lleol neu leihau oriau agor.
  • Diogelwch bancio ar-lein, yn fwyaf penodol a thwyll cardiau credyd.
  • Lleihau nifer y staff.

Wrth i fancio fynd yn fwy a mwy dibynnol ar dechnoleg mae’r pryderon hyn yn debygol o gynyddu.

More guides on this topic