Welcome to My Bitesize, let's get you set up!

Add your subjects to find the right study guides, track progress and keep everything in one place.

Add my subjects
My Subjects

SefydliadauArian electronig a masnach electronig

Mae defnydd cynyddol o TGCh i’w weld mewn sefydliadau o bob math, ar gyfer adwerthu, masnach, bancio a systemau arbenigol.

Part ofTGChSefydliadau

Arian electronig a masnach electronig

Mae’r rhan fwyaf o gwmnïau yn talu eu gweithwyr drwy drosglwyddiad banc, o gyfrif y cwmni i gyfrif y gweithiwr. Mae talu ag arian parod yn anghyffredin y dyddiau hyn.

Fel arfer rydym yn talu am nwyddau a gwasanaethau drwy ddulliau talu electronig, er enghraifft:

  • debyd uniongyrchol
  • archeb sefydlog
  • cardiau debyd (Switch/Delta)
  • cardiau clyfar
  • trosglwyddiad banc ar-lein

Masnach Electronig

Ystyr Masnach Electronig neu e-fasnach yw prynu a gwerthu nwyddau neu wasanaethau dros y .

Mae e-fasnach yn cynnig manteision ac anfanteision i fusnesau a chwsmeriaid.

Manteision i fusnesau

  • Sylfaen gwsmeriaid ehangach – drwy greu gall siop leol gael sylfaen gwsmeriaid ryngwladol.
  • Cost-effeithiol – arbed costau staffio siop (neu siopau) ar y stryd fawr a’r costau cysylltiedig, er enghraifft rhent, trydan, nwy, dŵr ac yn y blaen.
  • Gwasanaethau - mae gwasanaethau, er enghraifft cyfrifyddiaeth, yn addas i gael eu hysbysebu ar-lein. Mae’n bosibl rhestru manylion yr hyn sy’n cael ei gynnig ar y wefan, gan leihau’r angen i ymgynghori yn y byd go iawn.

Anfanteision i fusnesau

Cynnyrch sydd ar gael i’w prynu ar y rhyngrwyd.
  • Mwy o gystadleuaeth - mae cystadleuaeth a oedd ar un adeg wedi’i chyfyngu i siopau lleol eraill bellach ar raddfa ryngwladol.
  • Newydd-ddyfodiaid - efallai y bydd defnyddwyr yn gyndyn i brynu gan gwmni nad ydyn nhw wedi clywed amdano.
  • Araf yn mabwysiadu - efallai y bydd cwmnïau’n cael anhawster i gael cyfran o’r farchnad os oes gan eu cystadleuwyr bresenoldeb ar-lein yn barod.

Manteision i gwsmeriaid

  • Mwy hwylus - mae cwsmeriaid yn gallu dod o hyd i’r hyn maen nhw’n chwilio amdano heb adael eu cartrefi.
  • Mwy o ddewis - erbyn hyn nid yw cwsmeriaid wedi’u cyfyngu i siopau cyfagos a gallant hyd yn oed brynu o dramor.
  • Cost-effeithiol - mae cystadleuaeth ar raddfa ryngwladol yn aml yn golygu bod prisiau yn is/mwy cystadleuol.
  • Manylion cynnyrch - mwy o wybodaeth ar gael ar-lein na’r hyn y gall aelod o’r staff ei roi yn y siop.
  • Adolygiadau cwsmeriaid - mae llawer o safleoedd yn caniatáu i gwsmeriaid adolygu cynnyrch neu wasanaethau maen nhw wedi’u prynu, gan roi mwy o hyder i brynwyr.

Anfanteision i gwsmeriaid

  • Dim rhyngweithio â phobl - mae’n well gan rai pobl brynu eu nwyddau neu wasanaethau wyneb yn wyneb.
  • Dychwelyd nwyddau - gall fod yn anghyfleus (trefnu i bostio) ac yn ddrud (os yw’r eitem yn fawr/trwm).
  • Twyll - gall gwefan gymryd arian cwsmer, heb unrhyw fwriad i ddanfon y nwyddau.
  • Problemau stoc - mae’n bosibl na fydd eitem mewn stoc, neu os yw eitem yn cael ei harchebu a bod rhywun yn gweld yn nes ymlaen nad yw mewn stoc, mae’n bosibl y bydd eitem arall yn cael ei hanfon yn lle’r un wreiddiol.

More guides on this topic