Welcome to My Bitesize, let's get you set up!

Add your subjects to find the right study guides, track progress and keep everything in one place.

Add my subjects
My Subjects

SefydliadauCyfrifiaduro adwerthu

Mae defnydd cynyddol o TGCh i’w weld mewn sefydliadau o bob math, ar gyfer adwerthu, masnach, bancio a systemau arbenigol.

Part ofTGChSefydliadau

Cyfrifiaduro adwerthu

Mae cyfrifiaduro yn newid y ffordd rydyn ni’n siopa mewn llawer o ffyrdd:

  • Mae system gyfrifiadurol ar gyfer rheoli stoc yn golygu bod siopau’n gallu rhagfynegi galw’n gywir. Mae stoc yn cael ei harchebu’n awtomataidd.
  • Mae TG yn cefnogi twf siopau mawr ond mae pob busnes yn gallu cael mynediad at yr un dechnoleg, felly mae pob busnes yn cael yr un cyfle i dyfu.
  • Mae yn cynnig disgownt i gwsmeriaid rheolaidd ac mae hyn yn fygythiad i siopau bach.
  • Mae’r cardiau hyn yn galluogi’r siopau i adeiladu enfawr o ddewisiadau cwsmeriaid. Gall siopau ddefnyddio manylion personol cwsmeriaid mewn post-dafliadau uniongyrchol i farchnata nwyddau.
  • Mae siopa ar y rhyngrwyd ac ar deledu yn golygu ein bod yn gallu siopa heb fynd o’n cartrefi.

Wrth gwrs, mae twf siopau mawr a siopa ar y rhyngrwyd wedi cael effaith ar siopau bach:

  • mae mwy o siopau bach yn mynd allan o fusnes
  • mae canol trefi lleol dan fygythiad gan fod siopau bach yn cau
Unigolyn yn ystyried manteision siopa ar-lein.

More guides on this topic