Welcome to My Bitesize, let's get you set up!

Add your subjects to find the right study guides, track progress and keep everything in one place.

Add my subjects
My Subjects

Arswyd a pherswâdNatsïaid yn rheoli diwylliant a’r celfyddydau

Gorfodwyd credoau Natsïaidd ar boblogaeth yr Almaen drwy ddefnyddio cyfuniad o ddulliau cyflyru a braw. Roedd y peiriant propaganda dan arweiniad Joseph Goebbels yn annog pobl i dderbyn credoau, syniadau a gwerthoedd y Natsïaid. Pa ddulliau wnaeth y Natsïaid eu defnyddio i reoli'r Almaen?

Part ofHanesYr Almaen mewn cyfnod o newid, 1919-1939

Natsïaid yn rheoli diwylliant a’r celfyddydau

Enghreifftiau o wahanol fathau o bropaganda’r Natsïaid.
Figure caption,
Enghreifftiau o wahanol fathau o bropaganda Natsïaidd

Celfyddyd

Roedd cyfnod Weimar wedi gweld celf Almaenig yn ffynnu, llawer ohoni’n gelf haniaethol. I Hitler roedd y gelf fodern hon yn ddirywiedig a chafodd dros 6,500 o weithiau celf eu tynnu allan o arddangosfeydd ledled yr Almaen. Anogodd Hitler ‘gelf Ariaidd’ yn eu lle, a ddangosai rym corfforol a milwrol yr Almaen a’r hil Ariaidd.

Pensaernïaeth

Roedd gan Hitler ddiddordeb mawr mewn pensaernïaeth a chredai y gellid ei defnyddio i gyfleu grym y gyfundrefn Natsïaidd. Pensaer pwysicaf y cyfnod oedd Albert Speer, a ailddyluniodd ddinas Berlin, yn ogystal â dylunio’r stadiwm yn Nuremberg lle cynhelid ralïau blynyddol.

Llenyddiaeth

Aeth y Natsïaid ati’n seremonïol yn 1933 i losgi miloedd o lyfrau y barnwyd eu bod yn danseiliol neu’n cynrychioli ideolegau a oedd yn groes i Natsïaeth. Ymhlith y rhain roedd llyfrau gan awduron Iddewig, pasiffistaidd, clasurol, rhyddfrydol, anarchaidd, sosialaidd a chomiwnyddol.

Ffilm

I sicrhau bod y byd ffilm yn gwasanaethu amcanion propaganda, cymerodd y Blaid Natsïaidd reolaeth yn raddol dros gynhyrchu a dosbarthu ffilmiau. Sefydlwyd ysgol broffesiynol wladwriaethol i wneuthurwyr ffilmiau gwleidyddol ddibynadwy, ac roedd rhaid i bob actor a gwneuthurwr ffilmiau ddod yn aelodau o gymdeithas broffesiynol swyddogol (Reichsfilmkammer). Yn aml byddai arweinwyr y Natsïaid yn defnyddio sêr y byd ffilmiau, fel Lil Dagover, i helpu hyrwyddo poblogrwydd y blaid yn yr Almaen.

Cerddoriaeth

Ym myd cerddoriaeth glasurol, gwaharddwyd gweithiau gan gyfansoddwyr Iddewig fel Mendelssohn a Mahler a hyrwyddwyd gweithiau’r cyfansoddwr Almaenig Wagner, gan ennill poblogrwydd mawr iddo. Roedd y Natsïaid yn chwyrn yn erbyn cerddoriaeth jazz; cyfeirient ati fel cerddoriaeth Negro a’i galw’n ddirywiedig.

Mae diddordeb y Natsïaid yn yr holl feysydd hyn, a’u dylanwad drostynt, yn dangos i ba raddau y ceisiodd y blaid reoli bywyd yr Almaen a denu’r boblogaeth at yr achos Natsïaidd.