Welcome to My Bitesize, let's get you set up!

Add your subjects to find the right study guides, track progress and keep everything in one place.

Add my subjects
My Subjects

Arswyd a pherswâdPropaganda a Rheolaeth

Gorfodwyd credoau Natsïaidd ar boblogaeth yr Almaen drwy ddefnyddio cyfuniad o ddulliau cyflyru a braw. Roedd y peiriant propaganda dan arweiniad Joseph Goebbels yn annog pobl i dderbyn credoau, syniadau a gwerthoedd y Natsïaid. Pa ddulliau wnaeth y Natsïaid eu defnyddio i reoli'r Almaen?

Part ofHanesYr Almaen mewn cyfnod o newid, 1919-1939

Propaganda a Rheolaeth

Y Wladwriaeth Heddlu

Erbyn Awst 1934 roedd Hitler yn unben â grym absoliwt. Er mwyn cadw’r grym hwn roedd arno angen cyrff a allai reoli’r boblogaeth i sicrhau teyrngarwch absoliwt i’r Führer. Wedi cwymp yr ar Noson y Cyllyll Hirion, roedd tri phrif gorff cydgysylltiedig (yn ogystal â’r heddlu Almaenig rheolaidd) yn ymwneud â rheoli pobl yr Almaen trwy ysbïo, brawychu a charcharu petai angen.

Strwythur sefydliad y Schutzstaffel (SS), y Gestapo a’r Sicherheitsdienst (SD).
  • Schutzstaffel (SS) - Dan arweiniad Heinrich Himmler, yr SS oedd y pwysicaf o’r cyrff hyn ac roedd yn goruchwylio’r lleill. Wedi’i sefydlu’n wreiddiol fel gwasanaeth gwarchodwyr personol Hitler, roedd yr SS yn ffanatig o deyrngar i’r Führer. Yn ddiweddarach fe sefydlodd wersylloedd crynhoi lle anfonid ‘gelynion y wladwriaeth’.
  • Gestapo - Dyma heddlu cudd y Natsïaid. Eu gwaith oedd monitro poblogaeth yr Almaen am arwyddion o wrthwynebiad neu wrthsafiad i reolaeth y Natsïaid. Câi gymorth mawr gan bobl gyffredin yr Almaen a fyddai’n cario straeon am eu cyd-ddinasyddion.
  • Sicherheitsdienst (SD) - Dyma asiantaeth gasglu gwybodaeth yr SS. Roedd yn gyfrifol am ddiogelwch Hitler ac uwch Natsïaid eraill ac yn cael ei harwain gan brif gynorthwywr Himmler, Reinhard Heydrich.

Awgrym adolygu:

Dyma mnemonig da i dy helpu i gofio rhai o brif nodweddion y pwnc hwn:

  • Himmler – Pennaeth yr Heddlu
  • Sy’n – Yr SS
  • Gwylio’n – Y Gestapo
  • Sydyn – Yr SD

Rheolaeth Natsïaidd ar y system gyfreithiol

Ni fu’r Natsïaid fawr o dro yn sgubo i ffwrdd lawer o’r rhyddid yr oedd Almaenwyr wedi’i fwynhau dan gyfansoddiad Weimar. Gan fod y blaid yn rheoli’r system gyfreithiol roedd gwrthwynebu’r drefn yn anodd dros ben:

  • Roedd rhaid i farnwyr dyngu llw ffyddlondeb i Hitler a disgwylid iddynt bob amser weithredu er budd y wladwriaeth Natsïaidd.
  • Roedd rhaid i bob cyfreithiwr ymuno â’r Gymdeithas Gyfreithwyr Natsïaidd, a olygai y gellid eu rheoli.
  • Cafodd rôl cyfreithwyr amddiffyn mewn achosion troseddol ei gwanhau.
  • Dilëwyd cosb safonol am droseddau ac felly gallai erlynwyr lleol benderfynu pa gosbau i’w rhoi i rai a gafwyd yn euog.

Llwyddodd y newidiadau hyn i fwy na haneru nifer y troseddau a gyflawnwyd rhwng 1933 ac 1939, tra bod nifer y troseddau a gariai’r gosb eithaf wedi cynyddu o 3 i 46. Ar ddiwedd eu dedfrydau, yn hytrach na rhyddhau troseddwyr cafodd llawer ohonynt eu symud i’r nifer cynyddol o wersylloedd crynhoi oedd yn cael eu sefydlu gan yr SS.

Gwersylloedd crynhoi

Yn 1933, agorwyd y gwersyll cyntaf yn Dachau tu allan i Munich. Cyn hir, cafwyd gwersylloedd eraill gan gynnwys Buchenwald, Mauthausen a Sachsenhausen. Eglurwyd mai llefydd i gadw gelynion y wladwriaeth oedd y gwersylloedd crynhoi. Roedden nhw wedi'u "crynhoi" mewn un lle ar gyfer ail-addysgu gwleidyddol.

Gwisgai'r carcharorion driongl lliw er mwyn dangos eu trosedd:

  • gwrthwynebwyr gwleidyddol
  • troseddwyr
  • sipsiwn
  • Iddewon
  • ffigurau crefyddol penodol

Roedd bywyd yn y gwersylloedd crynhoi yn hynod o anodd. Gorfodwyd gweithwyr i fyw ac i weithio mewn amodau dychrynllyd.

Pan ddaeth adroddiadau o brofiadau’r carcharorion i'r amlwg, roedd yn dwysáu ofn pobl o gael eu harestio. Roedd yr ofn yn helpu'r Natsïaid i gadw rheolaeth.