Welcome to My Bitesize, let's get you set up!

Add your subjects to find the right study guides, track progress and keep everything in one place.

Add my subjects
My Subjects

Arswyd a pherswâdGoebbels a’r Weinyddiaeth Bropaganda

Gorfodwyd credoau Natsïaidd ar boblogaeth yr Almaen drwy ddefnyddio cyfuniad o ddulliau cyflyru a braw. Roedd y peiriant propaganda dan arweiniad Joseph Goebbels yn annog pobl i dderbyn credoau, syniadau a gwerthoedd y Natsïaid. Pa ddulliau wnaeth y Natsïaid eu defnyddio i reoli'r Almaen?

Part ofHanesYr Almaen mewn cyfnod o newid, 1919-1939

Goebbels a’r Weinyddiaeth Bropaganda

Roedd Hitler a’r Blaid Natsïaidd yn bresenoldeb parhaus ym mywyd yr Almaenwyr, gydag:

  • Arwydd anfad y Swastika yn ymddangos ar wisg pob swyddog llywodraeth a phob adeilad cyhoeddus.
  • Lluniau o Hitler yn cael eu harddangos ym mhobman.
  • Almaenwyr yn gorfod cyfarch ei gilydd trwy godi braich mewn saliwt Heil Hitler!.
Llun o Joseph Goebbels.
Figure caption,
Joseph Goebbels

Yr adran o’r llywodraeth oedd yn gyfrifol am hyn i gyd oedd y Weinyddiaeth Oleuo a Phropaganda, dan arweinyddiaeth Dr Joseph Goebbels. Ei nod oedd cyflyru pobl i ufuddhau i’r Natsïaid ac eilunaddoli Hitler. Roedd ei dulliau’n cynnwys:

Sensro’r wasg

Rheolid pob papur newydd gan y llywodraeth a dim ond storïau ffafriol i’r gyfundrefn Natsïaidd a gâi eu hargraffu.

Rheoli darllediadau radio

Gwerthid setiau radio, a elwid yn ‘Dderbynnydd y Bobl’, yn rhad iawn fel bod y rhan fwyaf o Almaenwyr yn gallu fforddio un. Rheolid popeth a ddarlledid ar y radio gan weinyddiaeth Goebbels drwy Gorfforaeth Ddarlledu’r Reich.

Gosododd y Natsïaid setiau radio gydag uchelseinyddion mewn llefydd fel caffis, ffatrïoedd, sgwariau trefi a chorneli strydoedd, er mwyn i bawb glywed negeseuon y Natsïaid.

Ralïau torfol

Roedd y sioeau cyhoeddus hyn o gefnogaeth i Natsïaeth yn cynnwys cerddoriaeth, areithiau ac arddangosiadau o gryfder yr Almaen. Cynhelid yr un fwyaf bob blwyddyn ym mis Awst yn Nuremberg.

Defnyddio digwyddiadau chwaraeon

Poster ar gyfer Gemau Olympaidd 1936 a gynhaliwyd yn Berlin, yr Almaen.

Berlin oedd cartref Gemau Olympaidd 1936, a ddefnyddiwyd gan y Natsïaid fel cyfle i arddangos llwyddiant y gyfundrefn ac i ddangos rhagoriaeth yr hil . Gwylltiwyd yr arweinwyr Natsïaidd wrth i’r athletwr Affricanaidd-Americanaidd Jesse Owens ddod yn fuddugol ar ran yr Unol Daleithiau.

Roedd uchelseinyddion mewn mannau cyhoeddus yn cyhoeddi propaganda Natsïaidd yn ddi-baid. Roedd llawer o’r wybodaeth a gâi’r Almaenwyr yn ategu neges rhagoriaeth yr hil Ariaidd ac yn demoneiddio’r Iddewon a ‘gelynion’ eraill y gyfundrefn.

Pasiwyd Deddf yn erbyn Clebran Maleisus yn 1934 fel bod dweud jôc wrth-Natsïaidd yn drosedd a fyddai’n arwain at ddirwy neu garchar.