Gallwn drawsffurfio ffwythiannau graffiau i ddangos symudiadau ac adlewyrchiadau. Mae dylunwyr graffeg a modelwyr 3D yn defnyddio trawsffurfiadau graffiau i ddylunio gwrthrychau a delweddau.
Mae trawsfudiad yn golygu symud y graff naill ai’n llorweddol yn baralel i’r echelin-\(x\) neu’n fertigol yn baralel i’r echelin-\(y\).
Os yw \(f(x) = x^2\), yna mae \(f(x) + a = x^2 + a\).
Mae gwerth \(a\) yn cynrychioli symudiad fertigol yn y graff. Wrth i \(a\) gynyddu, mae’r graff yn symud tuag i fyny. Wrth i \(a\) leihau, mae’r graff yn symud tuag i lawr.
Enghraifft un
\(f(x) = x^2\)
\(f(x) + 3 = x^2 + 3\)
Enghraifft dau
\(f(x) = x^2\)
\(f(x) - 2 = x^2 - 2\)
Mae \(f(x) + a\) yn cynrychioli trawsfudiad drwy’r fector \(\begin{pmatrix} 0 \\ a \end{pmatrix}\).
Trawsfudiadau sy’n baralel i’r echelin-x
Os yw \(f(x) = x^2\) yna mae \(f(x + a) = (x + a)^2\).
Mae gwerth \(a\) yn cynrychioli trawsfudiad llorweddol negatif yn y graff. Os yw \(a\) yn bositif, yna bydd y graff yn trawsfudo i’r chwith. Os yw gwerth \(a\) yn negatif, yna bydd y graff yn trawsfudo i’r dde.
Enghraifft un
\(f(x) = x^2\)
\(f(x + 3) = (x + 3)^2\)
Enghraifft dau
\(f(x) = x^2\)
\(f(x - 2) = (x - 2)^2\)
Mae \(f(x + a)\) yn cynrychioli trawsfudiad drwy’r fector \(\begin{pmatrix} -a \\ 0 \end{pmatrix}\)